成人快手

Protestwyr newid hinsawdd yn rhwystro mynediad glofa

Protest Ffos-y-Fran
  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchwyr newid hinsawdd wedi honni eu bod yn atal mynediad i lofa ddadleuol Ffos-y-Fran ym Merthyr Tudful.

Dywedodd Gwrthryfel Difodiant (Extinction Rebellion) fod protestwyr wedi cloi eu hunain i gwch sydd wedi'i barcio o flaen depo'r lofa, a'u bod yn bwriadu aros "am o leiaf wythnos".

Mae cwmni Merthyr (South Wales) Ltd yn y broses o apelio gorchymyn gan yr awdurdod lleol i ddod 芒 stop i'r gwaith cloddio yno.

Dywedodd llefarydd ar eu rhan y byddai'n amhriodol gwneud sylw tra bod y broses yna'n parhau.

Yn 么l Heddlu De Cymru maen nhw'n ymwybodol o ddigwyddiad yn Ffos-y-Fran.

Caniat芒d ar ben ers naw mis

Dywedodd Gwrthryfel Difodiant bod cwch mawr, pinc - sydd wedi dod yn rhan amlwg o'u protestiadau - wedi'i barcio ar y ffordd sy'n cysylltu'r lofa a'u safle prosesu glo - Cwmbargoed Disposal Point - am 09:30 fore Mercher.

Yn 么l y gr诺p mae "hanner dwsin o ymgyrchwyr" wedi cloi eu hunain i'r cwch mewn ymgais i atal y gwaith yno.

Mae'r glo sy'n cael ei balu yn Ffos-y-Fran yn cael ei gludo i'r safle prosesu ar loris, cyn cael ei anfon ymaith ar drenau, gan fod gan y lofa gyswllt uniongyrchol 芒'r rheilffordd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd y protestwyr eu bod wedi gorfod "cymryd materion i'n dwylo ein hunain" oherwydd diffyg gweithredu gwleidyddion lleol a chenedlaethol

Daeth caniat芒d cynllunio ar gyfer cloddio ar safle glo brig fwya'r DU i ben ym mis Medi 2022, ac fe gafodd ymgais i ehangu oes y safle ei wrthod maes o law gan gynghorwyr lleol.

Roedd hysbysiad gweithredu, fyddai wedi rhoi 28 diwrnod i'r cwmni roi stop ar gloddio, i fod i ddod i rym wythnos diwethaf.

Ond ar y funud olaf fe wnaeth Merthyr (South Wales) Ltd apelio.

Mae ffigyrau'n dangos i bron i 200,000 o dunelli o lo gael eu cynhyrchu gan Ffos-y-Fran yn y chwe mis ar 么l i'r caniat芒d cynllunio ddod i ben, gan gyflenwi'r gweithfeydd dur ym Mhort Talbot a threnau stem diwylliannol drwy'r DU.

Galw am ymyrraeth

Mae ymgyrchwyr newid hinsawdd yn poeni y bydd yr ap锚l ddiweddaraf yn arwain at fisoedd yn rhagor o balu am lo, ac maen nhw wedi galw ar yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru i ymyrryd.

Mae'r lofa wedi dweud yn y gorffennol eu bod mewn trafodaethau gyda'r cyngor lleol i sicrhau "diwedd diogel" i'r gwaith yn Ffos-y-Fran.

Maen nhw hefyd wedi rhybuddio bod "prinder cyllid" wrth gefn i allu adfer y safle yn 么l i weundir gwyrdd, agored fel a gytunwyd yn wreiddiol.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful eu bod "ar ddeall bod protestwyr Gwrthryfel Difodiant ar safle Ffos-y-Fran ar hyn o bryd", a bod swyddogion yr heddlu mewn cysylltiad 芒 nhw.

"Mae swyddogion wedi eu hanfon i safle Ffos-y-Fran er mwyn cynorthwyo gyda phrotest gyfreithiol a sicrhau bod defnydd cyfreithlon o'r safle yn parhau," meddai'r uwcharolygydd Michelle Conquer o Heddlu'r De.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw.

Pynciau cysylltiedig