成人快手

Teulu dyn fu farw mewn gwrthdrawiad tr锚n yn diolch am y gefnogaeth

Tudor EvansFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Tudor Evans yn 66 oed ac yn dod o Gapel Dewi ger Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu dyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau dr锚n ger Llanbrynmair ym Mhowys nos Lun wedi diolch am y gefnogaeth maen nhw wedi'i dderbyn.

Roedd Tudor Evans yn 66 oed ac yn dod o Gapel Dewi ger Aberystwyth.

Roedd yn teithio adref o wyliau yn yr Eidal pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Dywedodd y teulu wrth 成人快手 Cymru eu bod yn "ddiolchgar am yr holl negeseuon a'r gefnogaeth" ond eu bod r诺an yn gofyn am breifatrwydd.

Dydd Mawrth fe wnaeth un o swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydain awgrymu nad oedden nhw'n credu taw anafiadau o'r ddamwain oedd achos y farwolaeth.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r gwasanaethau brys ac ymchwilwyr yn parhau ar y safle ddydd Iau

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad tua 19:30 nos Lun ar 么l adroddiadau o ddamwain cyflymder isel.

Roedd un o'r trenau yn teithio o Amwythig i Aberystwyth, a'r llall o Fachynlleth i Amwythig.

Cafodd 15 o bobl eraill eu trin yn yr ysbyty wedi'r digwyddiad - pedwar ohonyn nhw am anafiadau difrifol.

Daeth i'r amlwg ddydd Mercher fod gyrrwr un o'r trenau wedi'i anafu'n "eithaf drwg" ond ei fod "bellach yn gwella'n dda o'i anafiadau", yn 么l llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ddigwyddodd y ddamwain ger pentref Talerddig yn y canolbarth

Mae'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB) yn ymchwilio i achos y digwyddiad, a dywedodd Heddlu Trafnidiaeth nad ydyn nhw wedi lansio ymchwiliad troseddol hyd yma.

Mewn datganiad dywedodd yr RAIB fod eu hymchwiliadau cychwynnol yn awgrymu fod y ddamwain wedi digwydd ar gyflymder o 15mya a bod asesiad o'r rheilffordd yn awgrymu fod y tr锚n wedi llithro wrth geisio dod i stop.

Dywedodd Network Rail eu bod nhw'n gobeithio "dysgu gwersi ar unwaith" er mwyn atal unrhyw wrthdrawiadau tebyg yn y dyfodol, gan ddisgrifio'r ymchwiliad fel un "cymhleth".

Bydd y rheilffordd rhwng Machynlleth ac Amwythig yn parhau ar gau tan ddiwedd yr wythnos wrth i ymholiadau barhau.

Pynciau cysylltiedig