成人快手

Rhybudd am law trwm i'r canolbarth a'r de

Rhybudd tywyddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r rhybudd melyn yn berthnasol i 16 o siroedd canolbarth a de Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am gawodydd o law trwm ar gyfer canolbarth a de Cymru.

Daeth y rhybudd i rym am 06:00 ddydd Iau, ac mae'n para nes 09:00 fore Gwener.

Gall rhai ardaloedd weld hyd at 60mm o law, ac mae rhybudd y gallai mellt a gwyntoedd cryfion daro mannau hefyd - yn enwedig ar arfordir y de-orllewin.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r tywydd effeithio ar deithwyr oherwydd d诺r ar y ffyrdd.

Maen nhw hefyd yn rhybuddio am lifogydd posib mewn tai a busnesau.

Mae rhybudd oren, mwy difrifol, mewn grym ar gyfer rhannau helaeth o ganolbarth a de Lloegr.

Pynciau cysylltiedig