成人快手

'Dim ffordd 'n么l i wleidyddiaeth' i'r cyn-AS Jonathan Edwards

Jonathan Edwards
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Jonathan Edwards yn "90%" si诺r y byddai'n sefyll yn yr etholiad cyffredinol - cyn penderfynu peidio

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-Aelod Seneddol wedi dweud iddo beidio sefyll yn yr etholiad cyffredinol eleni rhag i'w gefnogwyr orfod dewis rhyngddo ef a Phlaid Cymru.

Cadarnhaodd Jonathan Edwards hefyd nad yw'n rhagweld y bydd yn sefyll mewn etholiad eto yn y dyfodol.

Cafodd ei ethol i gynrychioli Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr dros Blaid Cymru 'n么l yn 2010.

Ond fe gafodd ei ddisgyblu gan y blaid yn dilyn rhybudd gan yr heddlu am ymosod ar ei wraig yn 2020, ac yn y pen draw bu'n sefyll fel AS annibynnol.

Roedd nifer yn disgwyl iddo geisio sefyll yn etholaeth newydd Caerfyrddin wedi i Rishi Sunak alw etholiad - ond fe benderfynodd beidio.

'Taflenni etholiadau yn barod'

Mewn cyfweliad gyda Iwan Griffiths ar raglen Bore Sul Radio Cymru, fe eglurodd iddo ysgrifennu dau ddatganiad i'r wasg - "fel Boris Johnson gyda Brexit" - cyn gwneud ei benderfyniad.

Roedd un yn rhestru'r rhesymau dros sefyll, a'r llall yn rhoi'r rhesymau dros beidio.

Dywedodd ei fod wedi teithio yn 么l o Lundain ar 么l i Rishi Sunak alw'r etholiad gyda'r bwriad o wneud penderfyniad erbyn diwedd y penwythnos.

"Ro'n i'n 90% yn bwriadu bod fi yn mynd i sefyll," meddai.

"Roedd y taflenni yn barod gen i, roedd lot o waith wedi ei wneud ac roedd yr arian wedi cael ei godi.

"Ond wedyn roedd 'na sawl peth wedi digwydd yn ystod y penwythnos g诺yl y banc yna - a falle amser i feddwl."

Ffynhonnell y llun, T欧鈥檙 Cyffredin
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gafodd Jonathan Edwards ei ethol am y tro cyntaf yn 2010

Un o'r prif resymau dros benderfynu peidio sefyll, meddai, oedd y byddai鈥檔 creu rhaniad o fewn yr etholaeth.

"Ro'n i'n gwybod byddwn i wedi rhannu'r Blaid.

"Bydde fe'n rhoi pobl sydd wedi bod mor gefnogol i fi... mewn sefyllfa anodd iawn a bydde lot o bobl am y tro cynta' yn eu bywyde ddim wedi pleidleisio Plaid Cymru."

"Fi'n credu pe bydden i wedi sefyll fe fyddai Plaid Cymru wedi colli'r sedd, byddai'r Blaid Lafur wedi ennill y sedd ar 24% o'r bleidlais, sydd ddim yn bleidlais enfawr."

Ychwanegodd: "[Y] gwirionedd yw fi'n credu byddwn i wedi cael fy mhortreadu fel ffigwr oedd wedi creu rhaniad enfawr yn Sir Gaerfyrddin a dwi ddim eisiau bod yn gwmwl du."

'Dim llwybr gwleidyddol n么l'

Yn ystod y cyfweliad, lle mae'n siarad am y cyfnod pan gafodd ei arestio a'i deimladau tuag at ymateb Plaid Cymru, mae'n trafod ei ddyfodol fel gwleidydd.

Yn sgil newidiadau dadleuol i etholiadau Senedd Cymru o 2026, pan fydd etholwyr yn bwrw pleidlais dros bleidiau yn lle ymgeiswyr unigol, mae'n credu bod y llwybr yn 么l i'r byd gwleidyddol wedi ei gau iddo.

"Does 'na ddim llwybr gwleidyddol n么l i fi ym Mhlaid Cymru felly does 'na ddim llwybr gwleidyddol confensiynol n么l," meddai.

"Gyda'r system newydd sy'n dod mewn mae'n stitch-up rhwng y pleidiau, does dim unrhyw ffordd i maverick gwleidyddol fel fi i ffeindio ffordd i'r Senedd ar ticket annibynnol.

"Ond hefyd fi'n credu o fewn pleidiau mae'n mynd i fod yn gynyddol galed i unrhyw unigolyn, fel finne, oedd bach falle yn meddwl tu fas o鈥檙 bocs o beth oedd eu plaid yn meddwl - oherwydd bod cymaint o b诺er gan y pleidiau gwleidyddol yngl欧n 芒 phwy yw eu hymgeiswyr nhw.

"Dim etholwyr fel chi a fi bellach sy'n mynd i benderfynu pwy sy'n mynd i gynrychioli ni - y pleidiau sy'n mynd i benderfynu pwy sy'n cynrychioli ni, a rwy'n credu o ran democratiaeth Cymru mae'n rhyfeddol o gam niweidiol."

  • Gallwch wrando ar gyfweliad llawn Jonathan Edwards ar raglen Bore Sul ar Radio Cymru am 08:00 ar 21 Gorffennaf ac ar 成人快手 Sounds.

Pynciau cysylltiedig