成人快手

Y bachgen o Ddolgellau sy'n anelu i fod yn bencampwr byd

Jack WilliamsFfynhonnell y llun, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
  • Cyhoeddwyd

Mae gweini mewn bwyty'n gallu bod yn heriol, gyda gofynion o'r gegin a gan gwsmeriaid yn gallu creu tensiynau a phwysau aruthrol.

Ond mae un bachgen 18 oed o Ddolgellau yn gwneud enw i'w hun yn y diwydiant, a chreu gymaint o argraff nes ei fod wedi ennill tlws gweinydd ifanc gorau Cymru.

Yn dilyn y llwyddiant yma ar lefel genedlaethol, mae Jack Williams yn mynd ymlaen i gynrychioli'r genedl ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Singapore ddiwedd y flwyddyn.

Siaradodd Cymru Fyw gyda Jack i glywed mwy am y wobr, ei yrfa a'i obeithion ar gyfer y dyfodol.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jack Williams, sydd wedi fagu ac sy'n byw yn Nolgellau ym Meirionnydd. Mae newydd gwblhau cwrs lefel 2 mewn lletygarwch ac arlwyo yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Dolgellau

鈥'Young Chef, Young Waiter' oedd enw'r gystadleuaeth", meddai Jack.

"Do鈥檔 i ddim yn gwybod amdano fo tan ddechrau鈥檙 flwyddyn. Roedd 鈥榥a 12 person yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn timau o dri 鈥 un chef, un gweinydd ac un mixologist [gwneud coct锚ls] yn cydweithio i greu bwydlen a phrofiad ciniawa i鈥檙 beirniaid.鈥

Yn 18 mlwydd oed, Jack oedd y ieuangaf yn yr holl gystadleuaeth, gyda'r chef a enillodd yn 28 oed.

鈥淣es i ennill y gystadleuaeth waiter, nath y mixologist o鈥檔 i efo ennill ei gystadleuaeth o, a daeth ein chef ni'n ail."

Cynrychioli Cymru

Roedd ennill y gystadleuaeth yng Nghymru'n golygu bod Jack yn mynd ymlaen i gynrychioli'r wlad mewn cystadleuaeth ryngwladol.

鈥淢ae鈥檙 gystadleuaeth 鈥榤a鈥檔 digwydd ar draws y byd, ac mae ychydig bach yn wahanol mewn gwahanol wledydd.

鈥淕an bo' fi wedi ennill cystadleuaeth gweinydd ifanc gorau Cymru, dwi鈥檔 mynd i Singapore ar gyfer cystadleuaeth y byd.鈥

Mae Jack yn gweithio yng Ngwesty Penmaenuchaf ger Dolgellau, sydd wedi cael perchnogion newydd yn gymharol ddiweddar.

鈥淣hw 'nath fy annog i i drio am y wobr 鈥 o鈥檔 i鈥檔 gorfod gwneud cais i ddechrau.鈥

Mae Penmaenuchaf yn eiddo i Seren 鈥 gr诺p lletygarwch preifat sy鈥檔 cael ei arwain gan Neil a Zoe Kedward. Yn ogystal 芒 Gwesty Penmaenuchaf mae鈥檙 gr诺p yn berchen ar y Grove yn Arberth, a thair bwyty; y Beach House ym Mae Oxwich, Lan y M么r yn Llanusyllt a鈥檙 Fernery yn Arberth.

Ffynhonnell y llun, Gwesty Penmaenuchaf
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gwesty Penmaenuchaf ger Dolgellau, ble mae Jack yn gweithio

'Sylw i bob manylyn'

Felly, yn 么l Jack, beth sy'n gwneud gweinydd da?

鈥淢ae rhaid gallu dangos dy bersonoliaeth, a gallu addasu i ddelio efo gwahanol fathau o bobl hefyd, achos mae pawb ti鈥檔 gwrdd am fod yn wahanol. Mae rhaid ti bron iawn diddanu pobl, ac mae rhai pobl yn haws i wneud efo na eraill! Felly mae鈥檔 bwysig trio gwneud argraff dda o鈥檙 dechrau.

鈥淢ae rhoi dy sylw i bob manylyn bach yn bwysig, ac mae angen gweithio鈥檔 galed ac yn gywir i wneud si诺r bod petha鈥檔 iawn ac yn ei le fel y dyla fo fod."

Astudio'r fwydlen

Yn ogystal 芒 gallu ymdrin 芒'r cwsmeriaid yn effeithiol, mae'n rhaid i Jack hefyd fod yn wybodus yngl欧n 芒'r hyn mae'r bwyty yn ei gynnig.

"Cyn dechrau pob shifft gyda'r nos 'dan ni'n cael briefing, ac os oes 'na rywbeth newydd yn cael ei gynnig 'dan ni'n dysgu am hwnna - ble mae'n dod, sut mae'n cael ei goginio a phethau fel'na.

"Dwi'n gweithio yn y gegin bob dydd Mawrth, a be' sy'n dda am hynny ydy dwi'n cael gweld sut mae popeth yn cael ei wneud, a gallu trafod y wybodaeth yna efo'r cwsmeriaid wedyn. Dwi hefyd yn gallu trafod y bwyd a'r dulliau coginio efo fy nghydweithwyr front of house.

"Efo gwin, mae'r bosus 'di bod yn dda iawn efo fi a dwi 'di dysgu lot ar sut i baru'r gwin, ble maen nhw'n dod a'r dulliau cafodd ei ddefnyddio i greu nhw.

"Mae Dylanwad Da a Llinos [Rowlands] sy'n rhedeg y lle wedi fy helpu i ddysgu am win hefyd."

Cystadlu yn Singapore

Felly, beth all Jack ei ddisgwyl o'r gystadleuaeth yn Singapore?

"Dwi heb gael y brief eto, dwi'n disgwyl ei gael o fis Hydref - rhaid disgwyl tan ar 么l i gystadleuaeth 'Young Chef, Young Waiter' Hong Kong gael ei gynnal.

"Dwi'n disgwyl y bydden ni'n gwybod be' 'di'r fwydlen cyn mynd i Singapore, ac mi fydda i'n gallu cynllunio ar gyfer y cyflwyniad ar y byrddau.

"Mi fyddan ni isio mynd 芒 rwbath o Gymru draw 'na, a 'dan ni'n meddwl am hynny r诺an. Bydd pawb yn dod 芒 chynhwysion a chynrychiolaeth o'u gwledydd nhw i'r gystadleuaeth, a dangos y talent sydd ganddyn nhw."

Bydd rhaid i Jack hefyd fod yn ymwybodol o them芒u eraill all fod yn allweddol yn y gystadleuaeth.

"Mae cynaliadwyedd yn agwedd bwysig o letygarwch erbyn heddiw, a dwi'n disgwyl i hwnna fod yn rhan fawr o'r gystadleuaeth - o'dd o'n ran o gystadleuaeth Cymru, ac felly mae angen i'r fwydlen fod yn gynaliadwy. Enghraifft o hyn yw bod y mixologist yn defnyddio'r scraps o'r gegin ar gyfer cynnwys nhw yn y coct锚ls."

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Enillwyr y gystadleuaeth o'r chwith i dde; Jack Williams o Westy Penmaenuchaf, Dolgellau, yn weinydd ifanc, Alex Dunham o The Whitebrook, Trefynwy, yn enillydd y gystadleuaeth ar gyfer y cogydd ifanc, a James Borley o The Dead Canary, Caerdydd, yn enillydd y cymysgydd ifanc

Agor bwyty yn Nolgellau rhyw ddydd?

Mae Jack yn trafod rhywfaint o'i obeithion ar gyfer y dyfodol.

"Dwi ddim isio rheoli gwesty - dwi'n hoffi aros mewn gwesty ond dwi ddim yn meddwl byswn i isio bod berchen un, achos fyswn i isio canolbwyntio ar y bwyd ac agor restaurant fy hun."

Er y bydd Jack yn cystadlu'n rhyngwladol ymhen deufis, mae'n falch iawn o'i gynefin ac yn rhagweld y bydd yn gallu sefydlu ei hun yno yn yr hirdymor.

"Dwi wedi bod yn meddwl symud i America mewn cwpl o flynyddoedd. Ond mae 'na lot o gyfleoedd yn Nolgellau 'fyd, mae wedi gwella a gwella yma drwy gydol fy mywyd i, ac mi fyswn i'n sicr isio agor restaurant yn y dre rhywbryd."

Pynciau cysylltiedig