Gwahardd dau aelod o staff o ysgol lle bu'r pedoffeil Neil Foden yn bennaeth
- Cyhoeddwyd
Mae dau aelod o staff wedi cael eu gwahardd o'r ysgol lle'r oedd y pedoffeil Neil Foden yn bennaeth.
Ysgrifennodd llywodraethwyr Ysgol Friars at rieni ddydd Mercher yn cadarnhau bod y gwaharddiadau wedi'u gwneud yn sgil gwybodaeth ddaeth i sylw Adran Addysg Cyngor Gwynedd.
Dydy natur y gwaharddiadau ddim wedi鈥檌 nodi, ond mae鈥檙 llythyr yn pwysleisio 鈥渘ad oes unrhyw gyhuddiad o drosedd鈥 ac nad ydy鈥檙 mater yn 鈥渄estun ymchwiliad ehangach".
Tydi鈥檙 wybodaeth ddaeth i sylw'r swyddogion addysg ddim yn hysbys.
Mae datganiad ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd a Bwrdd Llywodraethwyr Ysgol Friars yn datgan bod gwaharddiad o鈥檙 gwaith yn 鈥渨eithred niwtral鈥, er mwyn caniat谩u i ymchwiliadau gael eu cynnal 鈥測n briodol a thrwyadl鈥.
Maen nhw鈥檔 nodi mai鈥檙 corff llywodraethol sy鈥檔 gyfrifol am y broses, yn unol 芒 threfniadau arferol yr ysgol, a chefnogaeth gan ymchwilydd annibynnol.
Roedd Neil Foden yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor ac wedi bod yn bennaeth strategol yn Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes.
Cafodd ei garcharu am 17 mlynedd ym mis Gorffennaf ar 么l cam-drin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.
Dywedodd Brian Jones, cadeirydd y llywodraethwyr yn ei lythyr at rieni: 鈥淩ydym yn deall fod sefyllfa o鈥檙 fath yn gallu peri pryder i ddisgyblion a chymuned yr ysgol, yn enwedig o ystyried y cyfnod heriol diweddar."
Mae鈥檔 dweud fod addysg a lles y disgyblion yn 鈥減arhau i fod yn flaenoriaeth鈥.
Wrth ddiolch i鈥檙 athrawon a鈥檙 staff cynorthwyol am eu hymroddiad i鈥檞 gwaith, cadarnhaodd fod "gwersi a gweithgareddau鈥檙 ysgol yn parhau".
Dywed Cyngor Gwynedd mewn datganiad: 鈥淢ae Corff Llywodraethol yr ysgol ac Adran Addysg y Cyngor yn cydweithio i sicrhau capasiti digonol fel bo鈥檙 ysgol yn gallu gweithredu鈥檔 effeithiol.
"Bydd unrhyw wybodaeth am faterion staffio yn cael eu rhannu gyda chymuned yr ysgol yn 么l yr arfer.
鈥淩ydym yn ymwybodol ac yn deall fod y 14 mis diwethaf wedi bod yn ddigynsail o heriol i holl ddisgyblion a staff Ysgol Friars.
"Mae swyddogion o鈥檙 Adran Addysg wedi bod yn cydweithio gyda staff dysgu, staff cefnogol a llywodraethwyr i adfer a sefydlogi鈥檙 sefyllfa er budd holl ddisgyblion yr ysgol.
"Mae cefnogaeth 鈥 sy鈥檔 cynnwys trefniadau bugeiliol a chwnsela 鈥 yn parhau i fod ar gael i鈥檙 bobl ifanc a鈥檙 staff.鈥
Mae Newyddion S4C wedi gweld copi o lythyr gafodd ei anfon at staff ddydd Mercher lle mae Brian Jones, cadeirydd y llywodraethwyr yn dweud bod Lynne Hardcastle wedi ei phenodi i arwain yr ysgol tan y Nadolig.
Mae disgwyl iddi ddechrau gweithio'n llawn amser yn yr ysgol ddydd Llun nesaf.
Mae r么l pennaeth parhaol wedi cael ei hysbysebu tair gwaith.
Yn gynharach yn y mis fe ddywedodd Cyngor Gwynedd fod recriwtio wedi bod yn 鈥渉eriol鈥, ac felly fod penderfyniad wedi ei wneud i recriwtio pennaeth dros dro.
Yr wythnos diwethaf, daeth cadarnhad bod Margaret Davies wedi鈥檌 phenodi鈥檔 bennaeth dros dro, ac mae disgwyl iddi ymuno ag Ysgol Friars ar secondiad am bedwar tymor o Pasg 2025 tan ddiwedd tymor yr haf 2026.
Ar hyn o bryd mae Margaret Davies yn bennaeth ysgol arbennig St Christopher yn Wrecsam.
David Healy, dirprwy bennaeth yr ysgol o dan Neil Foden, yw鈥檙 pennaeth dros dro ers Medi 2023.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd
- Cyhoeddwyd17 Mai