成人快手

Y Llyfrgell Gen a'r Amgueddfa: Cau deiseb 12,075 llofnod

Llyfrgell Genedlaethol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yng nghyllideb ddiwethaf Llywodraeth Cymru, cafodd y llyfrgell 10.5% o doriad o鈥檌 gyllid craidd

  • Cyhoeddwyd

Mae deiseb yn galw am "dyfu, nid torri, cyllid y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru a鈥檙 Comisiwn Brenhinol" wedi ei chau ar 么l casglu 12,075 llofnod.

Mae Pwyllgor Deisebau Senedd Cymru wedi penderfynu gofyn am i'r ddeiseb gan Susan Jones-Davies gael ei thrafod mewn cyfarfod llawn o'r holl aelodau yn y siambr.

Yn 么l y ddeiseb: "Mae鈥檔 glir bod y toriadau yn mynd i, neu eisoes yn, cael effaith andwyol ym maes addysg, yn y gwasanaethau maen nhw鈥檔 darparu i bobl Cymru, yn y buddion iechyd meddwl maen nhw鈥檔 darparu i鈥檙 cyhoedd."

Dywedodd llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru bod y sefyllfa ariannol yn golygu "y bydd angen lleihau rhywfaint ar y gwaith a wnawn... a chreu Amgueddfa Cymru sy鈥檔 addas i鈥檙 dyfodol".

Ychwanegodd y Llyfrgell Genedlaethol fod 24 o staff wedi gadael yn wirfoddol a'u bod yn "addasu ein ffyrdd o weithio er mwyn cynnig y gwasanaeth gorau posibl i'n defnyddwyr".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn i ganolbwyntio cyllid ar wasanaethau cyhoeddus craidd, gan gynnwys y GIG".

'Trychinebus'

Yng nghyllideb ddiwethaf Llywodraeth Cymru, cafodd y llyfrgell 10.5% o doriad o鈥檌 gyllid craidd, sef 拢1.3m, ar ben diffyg ariannol o tua 拢1.4m.

Meddai Susan Jones-Davies: "Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i ariannu ymadawiadau gwirfoddol yn hytrach nag ariannu鈥檙 sefydliad, mae 24 aelod o staff wedi mynd neu yn mynd, sef dros 10% o鈥檙 gweithlu.

"Cyflawnwyd y cynllun ymadael yn wirfoddol yn mor gyflym fel bod cynllunio olyniaeth yn anodd os nad amhosibl.

"Mae鈥檙 24 felly wedi cymryd eu sgiliau, arbenigedd a phrofiad gyda nhw wrth adael.

"Yn barod, mae nifer o feysydd wedi dioddef."

Dywedodd llefarydd ar ran y Llyfrgell Genedlaethol eu bod "wedi colli staff mewn gwahanol ardaloedd gwaith yn dilyn toriad i鈥檔 cyllid ar gyfer 2024/25".

"Mae cyfanswm o 24 o staff wedi penderfynu ymadael yn fuan o ganlyniad i'r cynllun.

"Rydym yn gweithio i addasu ein ffyrdd o weithio er mwyn cynnig y gwasanaeth gorau posibl i'n defnyddwyr."

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yng nghanol y ganolfan ddinesig

Mae Amgueddfa Cymru wedi cael 10.5% o ostyngiad yn y cymorth grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25, sy'n golygu gostyngiad o 拢3m yn eu cyllideb graidd.

Ar ben hynny mae Amgueddfa Cymru yn parhau i ysgwyddo diffyg blynyddol o 拢1.5m, sy鈥檔 golygu eu bod wedi gorfod gwneud cyfanswm o 拢4.5m o doriad i鈥檙 gyllideb ar gyfer 2024/25.

'Y toriad mwyaf yn ein hanes'

Dywedodd llefarydd: "Dyma鈥檙 toriad mwyaf i鈥檔 cyllideb yn hanes yr Amgueddfa, a bydd yn cael effaith fawr ar waith yr Amgueddfa o ddydd i ddydd.

"Er mwyn sicrhau bod y sefydliad yn gallu parhau i weithredu o dan y cyfyngiadau cyllid newydd, mae Amgueddfa Cymru wedi gorfod ystyried nifer o opsiynau arbed costau.

"Mae 90% o鈥檙 incwm a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei wario ar gostau staff. Er ein bod ni鈥檔 edrych ar gyfleon cynhyrchu incwm newydd yn ogystal 芒 chostau gweithredu, bydd yn rhaid i鈥檙 rhan fwyaf o鈥檙 arbedion ddod drwy dorri swyddi.

"Nid yw Amgueddfa Cymru wedi gwneud unrhyw ddiswyddiadau gorfodol hyd yma, ond rydyn ni ar ganol rhaglen ddiswyddo gwirfoddol mewn ymateb i鈥檙 toriad yn ein nawdd."

Dywedodd ni all gadarnhau nifer y diswyddiadau gwirfoddol ar hyn o bryd, ond yn 么l y ddeiseb "mae 144 staff wedi, neu yn mynd, ar y cynllun ymadawiad gwirfoddol".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae "prinder staff" yn Sain Ffagan meddai Susan Jones-Davies

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae sefydliadau diwylliant, celf a chwaraeon Cymru yn rhan annatod o'n cymdeithas a'n lles, gan gyfoethogi ein cymunedau ac ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol.

"Rydym wedi gweithredu i liniaru pwysau llawn y gyllideb ar y sectorau hyn, fodd bynnag, rydym wedi ei gwneud yn glir bod ein cyllideb hyd at 拢700m yn llai mewn termau real na phan gafodd ei phennu yn 2021 ac rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn i ganolbwyntio cyllid ar wasanaethau cyhoeddus craidd, gan gynnwys y GIG."