成人快手

Cyhoeddi enillwyr gwobrau Tir na n-Og 2024

Daf a Megan
  • Cyhoeddwyd

Jac a鈥檙 Angel gan Daf James ac Astronot yn yr Atig gan Megan Angharad Hunter yw enillwyr gwobrau Tir na n-Og eleni.

Mae'r gwobrau yn cael eu trefnu'n flynyddol gan Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen, Cyngor Llyfrau Cymru ac fe gafodd enwau'r enillwyr eu cyhoeddi ar faes Eisteddfod yr Urdd Maldwyn.

Mae'r ddwy nofel fuddugol yn "dathlu p诺er y dychymyg i'n helpu i ymdopi ag amseroedd a phrofiadau anodd" yn 么l Cyngor Llyfrau Cymru.

Y beirniaid oedd Sara Yassine, Si么n Lloyd Edwards a Rhys Dilwyn Jenkins o dan gadeiryddiaeth Sioned Dafydd.

Nofel am oresgyn galar

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Dod yn dad 'nath fy ysgogi i fwrw ati," medd Daf James

Mae Jac a'r Angel, enillydd y categori cynradd, gan Daf James yn nofel am fachgen diniwed sy'n defnyddio ei ddychymyg i oresgyn galar a grymoedd tywyll bywyd.

Dywedodd yr awdur buddugol, Daf James mai "dod yn dad 'nath fy ysgogi i fwrw ati - ro'n i eisiau sgwennu stori i'm plant".

"Er mai dramodydd ydw i gan amlaf, llyfrau - nid dram芒u - oedd fy angerdd llenyddol cyntaf," meddai.

Aeth ymlaen i ddweud fod "cael dianc i fyd y stori yn falm i'r enaid pan o'n i'n grwtyn bach ecsentrig" a'i fod "wedi ysu am gael sgwennu nofel ers hynny".

Cafodd y nofel ei darlunio gan Bethan Mai (Y Lolfa).

'Dim digon o sylw i lyfrau plant'

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Byddai Astronot yn yr Atig wedi bod yn gysur i fi yn yr ysgol, medd Megan Hunter

Mae Astronot yn yr Atig gan Megan Angharad Hunter (Y Lolfa), enillydd y categori Uwchradd, yn nofel am gyfeillgarwch, am deithio'n 么l mewn ac ymlaen mewn amser, am dyfu i fyny mewn byd cymhleth ac anodd, ac am wthio ffiniau'r dychymyg i'r eithaf.

Dywedodd Megan Angharad Hunter y "bysa llyfr fel Astronot yn yr Atig wedi bod yn gysur mawr i fi pan o'n i'n yr ysgol", gan obeithio "y bydd yn gysur i blant Cymru heddiw hefyd".

Dywedodd fod y gwobrau "mor bwysig achos dydi llyfrau plant ddim yn cael hanner digon o sylw, yn enwedig rhai Cymraeg gwreiddiol".

Enillwyr gwobrau Dewis y Darllenwyr

Yn yr un seremoni cafodd gwobrau Cymraeg Dewis y Darllenwyr eu cyhoeddi.

Mae'r rhain yn wobrau sydd wedi'u dewis o deitlau'r rhestr fer ym mhob categori gan y plant a'r bobl ifanc a gymerodd ran yng Nghynllun Cysgodi Gwobrau Tir na n-Og.

Enillydd Gwobr Dewis y Darllenwyr yn y categori cynradd yw Mari a Mrs Cloch gan Caryl Lewis, wedi ei ddarlunio gan Valeriane Leblond (Y Lolfa).

Enillydd Gwobr Davies y Darllenwyr Cymraeg yn y categori uwchradd yw S锚r y Nos yn Gwenu gan Casia Wiliam (Y Lolfa).