成人快手

Ai'r bocsiwr Freddie Welsh a ysbrydolodd The Great Gatsby?

Freddie WelshFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Freddie Welsh

  • Cyhoeddwyd

Bron i ganrif ers cyhoeddi鈥檙 nofel The Great Gatsby mae yna awgrym mai'r pencampwr bocsio o Gymru, Freddie Welsh, oedd yr ysbrydoliaeth tu 么l i'r prif gymeriad, Jay Gatsby.

The Great Gatsby

Cyhoeddwyd The Great Gatsby gan F. Scott Fitzgerald yn 1925. Bellach yn cael ei hystyried fel un o nofelau bwysicaf yr ugeinfed ganrif, mae鈥檙 stori'n trafod them芒u fel y freuddwyd Americanaidd, cyfoeth, dosbarthiadau cymdeithasol a chariad.

Mae鈥檙 stori yn dilyn ymgais y miliwnydd Jay Gatsby i ad-ennill cyn-gariad drwy greu delwedd newydd i鈥檞 hun fel aelod o ddosbarth cymdeithasol el卯t America yn yr 1920au.

Daw i鈥檙 amlwg yn ystod y nofel bod Gatsby wedi ei fagu mewn tlodi a鈥檌 fod wedi newid ei enw o James Gatz. Er fod ei bart茂on disglair yn paentio delwedd barchus, fe ddysgwn bod ei gyfoeth yn seiliedig ar werthu alcohol oedd yn anghyfreithlon yng nghyfnod Prohibition.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

The Great Gatsby oedd trydedd nofel F. Scott Fitzgerald, ac er iddi gael ymateb llugoer pan gafodd ei chyhoeddi gyntaf, mae bellach yn cael ei hystyried yn un o nofelau mwyaf llenyddiaeth America

Pwy oedd y Gatsby Gwreiddiol?

Mae鈥檙 mwyafrif o wybodusion o鈥檙 farn mai鈥檙 ysbrydoliaeth pennaf am gymeriad Gatsby oedd y miliwnydd Max Gerlach.

Roedd Gerlach yn gymydog i Fitzgerald ac yn enwog am fyw bywyd moethus a llachar. Roedd yn hoff o gynnal part茂on crand, byth yn gwisgo鈥檙 un crys ddwywaith ac yn honni iddo gael addysg ym mhrifysgol Rhydychen.

Fel Gatsby daeth ei gyfoeth ef o ganlyniad i werthu alcohol anghyfreithlon.

Ond mae鈥檙 hanesydd a鈥檙 cyfarwyddwr ffilmiau dogfen o Ddulyn, Andrew Gallimore, yn cynnig theori wahanol. Yn ei farn e mae yna dystiolaeth gryf bod Gatsby yn seiliedig ar fywyd y pencampwr bocsio o Gymru, Freddie Welsh:

鈥(Yn Gatsby) roedd Fitzgerald yn ceisio creu cymeriad oedd yn mabwysiadu鈥檙 ddelwedd 鈥榤a i fyw The American Dream. A dyma stori Freddie Welsh.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Jay Gatsby wedi cael ei bortreadu gan nifer o actorion dros y blynyddoedd, ar sgrin a llwyfan, gan gynnwys Leonardo DiCaprio yn 2013 - ond pwy oedd yr ysbrydoliaeth gwreiddiol tu 么l i'r cymeriad cymhleth?

Freddie Welsh

Ganwyd Frederick Hall Thomas ym Mhontypridd yn 1886. Yn 18 oed fe gododd ei bac a symud i America, i chwilio am gyfoeth ac antur. Pan drodd yn focsiwr proffesiynol fe newidiodd ei enw, gyntaf i Freddie Cymry, cyn setlo ar Freddie Welsh.

Cafodd yrfa hynod o lewyrchus ar ddwy ochr yr Iwerydd ac mae e bellach yn cael ei ystyried fel un o鈥檙 goreuon yn hanes y gamp.

Ffynhonnell y llun, 漏Amgueddfa Pontypridd Museum
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Freddie Welsh ar ei ffordd i America yn 1910

Ond ei fywyd y tu allan i鈥檙 sgw芒r a ddenodd sylw F. Scott Fitzgerald.

Fe ymddeolodd yn ddyn cyfoethog gan adnewyddu fferm yn nhalaith New Jersey, gan greu, i bob pwrpas, canolfan hamdden gyda champfa, pwll nofio a chasgliad o gyfleusterau chwaraeon modern.

Mae adroddiadau bod yna bart茂on mawr wedi eu cynnal yno yn ystod cyfnod Prohibition a does dim amheuaeth bod Fitzgerald wedi ymweld ar sawl achlysur gyda s么n hefyd bod y ddau wedi paffio yn erbyn ei gilydd mewn sesiwn ymarfer.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gornest rhwng y ddau Gymro, Freddie Welsh a Jim Driscoll yng Nghaerdydd yn 1910 - cafodd Driscoll ei wahardd am benio Welsh yn y trydydd rownd

Tystiolaeth?

Daeth Andrew Gallimore ar draws y stori yn wreiddiol wrth dreulio amser yn nh欧 merch Freddie Welsh ac mae e鈥檔 grediniol bod yna gymariaethau amlwg yn straeon Welsh a Gatsby.

Mae nifer yn amlwg: newid eu henwau, creu bywyd a delwedd newydd ymhlith yr el卯t a chynnal part茂on mawreddog.

Ond mae mwy...

Mae Gallimore yn nodi dylanwad y gangster Americanaidd Arnold Rothstein, a ariannodd nifer o ornestau Welsh. Mae鈥檙 mwyafrif o academyddion yn gyt没n mai Rothstein yw鈥檙 prif ddylanwad ar y gangster sydd yn y nofel, Meyer Wolfsheim.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y gangster Arnold Rothstein ei lofruddio yn 1928, yn 么l y s么n oherwydd dyled gamblo enfawr

Cafodd Welsh ddamwain car yn 1924 a鈥檙 unig berson a anafwyd yn y ddamwain oedd menyw o鈥檙 enw Myrtle Wilson. Mae yna gymeriad yn The Great Gatsby o鈥檙 enw Myrtle Wilson, sy鈥檔 cael ei lladd ar 么l cael ei tharo gan gar.

鈥淥鈥檔 i鈥檔 meddwl, dyw e ddim yn enw cyffredin iawn,鈥 meddai Andrew Gallimore, 鈥渇elly es i n么l i鈥檙 llyfrgell yn Efrog Newydd i fynd trwy鈥檙 records o sawl Myrtle Wilson oedd yn byw yn Efrog Newydd neu New Jersey yn y cyfnod, a methes i ffeindio neb arall.鈥

Mae Gallimore yn argyhoeddedig bod damwain Welsh wedi dylanwadu ar y nofel:

鈥淐afodd y drafft ei newid tua deufis wedi鈥檙 ddamwain. A dyna oedd y sbardun i fi fynd yn 么l trwy fy nodiadau i weld oes oedd cymariaethau eraill rhwng stori Welsh a Gatsby.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Myrtle Wilson, yn cael ei phortreadu yn y ffilm The Great Gatsby o 1974 gan Karen Black - oedd hi wedi ei seilio ar berson go iawn, o'r un enw?

Wrth barhau 芒鈥檌 ymchwil fe ddysgodd Gallimore bod Welsh yn hoff o gadw cyfres o gyfrolau yn ei feddiant er mwyn rhoi鈥檙 argraff ei fod yn ddiwylliedig.

Mae Gallimore wedi gweld llythyr rhwng Fitzgerald a chyd-gyfaill i鈥檙 ddau, Ring Lardner, sy鈥檔 awgrymu nad oedd Welsh yn darllen yr un dudalen o鈥檙 llyfrau ac mai 鈥渟ioe yn unig oedden nhw鈥.

Mae yna olygfa nodedig yn Great Gatsby pan mae cymeriad yn dweud nad yw Gatsby yn darllen yr un llyfr yn ei lyfrgell ef chwaith.

Amheuaeth

Mae Bryant Magnum, Prifathro Saesneg yn Virginia Commonwealth University yn cydnabod mai prin iawn yw鈥檙 wybodaeth am gysylltiad rhwng Welsh a Gatbsy y tu hwnt i waith ymchwil Gallimore. Cafodd Magnum ei fentora gan Matthew Bruccoli a oedd yn cael ei ystyried yn arbenigwr ar waith F. Scott Fitzgerald.

鈥淒oes dim s么n o Welsh yng nghyfrol Bruccoli, Some Sort of Epic Grandeur,鈥 meddai, 鈥渁c er i ni sgwrsio droeon ar y mater, ni gyfeiriodd unwaith at Welsh.鈥

Efallai mai cyd-ddigwyddiad oedd y cyfan, ond does dim amheuaeth i Fitzgerald a Welsh gwrdd ar sawl achlysur ac wrth drafod nofel sy鈥檔 ymwneud 芒 chreu hanes a mytholeg newydd, pam lai?