成人快手

Ai beiciwr o Gymru oedd y twyllwr cyffuriau cyntaf?

Arthur LintonFfynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Arthur Linton

  • Cyhoeddwyd

Y sylwebydd chwaraeon, Gareth Rhys Owen, sydd wedi bod yn olrhain hanes un o fawrion seiclo Cymru, Arthur Linton o Aberaman, sy'n cael ei amau o ddefnyddio cyffuriau i ennill ras Bordeaux-Paris yn 1896.

Y Pencampwr Byd o Aberaman

Mae yna blac uwchben fferyllfa yn Aberaman, Cwm Cynon sy鈥檔 nodi campau un o fawrion chwaraeon Cymru. Hyd yn oed os ydych chi鈥檔 sylwi ar y plac, mae鈥檔 bur debygol nad oes gennych syniad am hanes rhyfeddol y g诺r sydd o dan sylw.

Dywed y geiriau ar y plac:

鈥淎rthur Linton 1872-1896: Bu Pencampwr Beicio鈥檙 Byd 1895 yn byw yma鈥

Cymro oedd yn bencampwr byd! Credwch chi fi, dyna hanner y stori...

Bu farw Arthur Linton y 27 oed yn 1896, ddeufis wedi iddo ennill ras undydd Bordeaux-Paris.

Ganrif yn ddiweddarach fe awgrymodd adroddiad gan yr IOC (y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol) mai dyma oedd yr enghraifft gyntaf o farwolaeth oherwydd defnydd cyffuriau i wella perfformiad. Mae鈥檙 amheuaeth a鈥檙 ansicrwydd yngl欧n 芒 bywyd Arthur Linton yn parhau hyd heddiw.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Rhondda Cynon Taf
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Plac i Arthur Linton yn Aberaman

Ganwyd Arthur Linton yng Ngwlad yr Haf yn 1868, a phan oedd e'n dair oed symudodd y teulu i Aberaman ar gyrion Aberd芒r.

Erbyn ei ugeiniau roedd yn feiciwr o safon, yn ennill rasys ar draws Cymru a Lloegr. Yn 1893 fe gwrddodd 芒'r hyfforddwr James 鈥淐hoppy鈥 Warburton, rhywbeth a drawsnewidiodd ei fywyd.

Y flwyddyn ganlynol fe dorrodd record 100km y byd ar sawl achlysur a bathwyd y llysenw 'Pencampwr y Byd'.

Nid oedd y sylw yma at ddant pawb; cafodd Linton ei feirniadu鈥檔 hallt gan feiciwr arall o Aberaman, Jimmy Michael, a bu鈥檙 gelyniaeth rhyngddynt yn destun trafod yn nhudalennau cefn y papurau newydd.

Roedd Linton a Michael yn s锚r a fyddai'n denu torfeydd o filoedd. Honnodd Michael flynyddoedd yn ddiweddarach ei fod yn medru hawlio $30,000 am ychydig fisoedd o rasio.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Treftadaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jimmy Michael, Morgan Thomas ac Arthur Linton - y tri yn bencampwyr beicio o Aberaman (Llun drwy garedigrwydd Gwasanaeth Treftadaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf - ACVMS 1998.3549)

Ras Bordeaux-Paris

Er i Arthur Linton gael flwyddyn heriol yn 1895, roedd yn 么l ar frig y podiwm yn '96.

Gyda 600km yn gwahanu Bordeaux a Paris, prin fyddai neb 芒 diddordeb mewn teithio rhwng y dinasoedd ar gefn beic. Llai fyth fyddai eisiau rasio鈥檙 daith mewn diwrnod.

Am bron i ganrif roedd ras undydd Bordeaux-Paris yn un o uchafbwyntiau鈥檙 calendr beicio ac yn cael ei ystyried fel un o鈥檙 chwe phrif ras, fel Milan-San Remo a Paris-Roubaix.

Fe orffennodd Arthur Linton yn bedwerydd yn Paris-Roubaix 1896 ac roedd yn cael ei ystyried yn un o鈥檙 ffefrynnau ar gyfer Bordeaux-Paris.

Roedd hi鈥檔 ras arteithiol gyda Linton yn croesi鈥檙 llinell derfyn gyntaf mewn naw awr, 17 munud ac 18 eiliad. Ychydig dros funud yn ddiweddarach fe orffennodd y Ffrancwr Gaston Rivierre yn yr ail safle.

Ffynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ar 么l gorfod rhannu'r wobr gyntaf yn ras 1896, aeth Gaston Rivierre ymlaen i ennill y Bordeaux-Paris yn 1897 ac 1898

Roedd Rivierre yn gandryll gan gyhuddo Linton o dwyllo. Roedd honiad fod y Cymro wedi symud oddi ar y cwrs swyddogol wrth ddefnyddio鈥檙 bont anghywir i groesi鈥檙 afon Seine.

Er bod Linton a鈥檌 hyfforddwr Warburton yn cydnabod y camgymeriad, darganfuwyd mai鈥檙 beicwyr o Ffrainc yn unig oedd wedi cael y map diweddaraf o鈥檙 cwrs.

Y cyfaddawd terfynol oedd i gyhoeddi bod Linton a Rivierre yn gydradd fuddugol.

Nododd sawl newyddiadurwr bod Linton yn edrych yn ofnadwy ar ddiwedd y ras ac yn yr wythnosau a ddilynodd fe ddirywiodd ei iechyd. Ddeufis yn ddiweddarach bu farw, gyda Teiffoid yn cael ei nodi fel achos y farwolaeth.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Treftadaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llun o Arthur Linton ym Mharis - mae'r dyddiad yn ansicr (Llun drwy garedigrwydd Gwasanaeth Treftadaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf - ACVMS:2007.278)

Cyffuriau ar fai?

A dyna ddiwedd y stori鈥 Nes ein bod ni鈥檔 ail-ymweld 芒鈥檔 hen ffrindiau Jimmy Michael a Choppy Warburton

Rai misoedd yn ddiweddarach cafodd Warburton ei gyhuddo gan Michael o鈥檌 wenwyno. Roedd hi鈥檔 hen stori bod Warburton yn cario botel fechan ddu y byddai鈥檔 ei rhoi i feicwyr blinedig.

Honnodd Michael bod y ffisig wedi gwaethygu ei berfformiad. Mewn ymateb fe fynnodd Warburton iawndal am enllib.

Er nad oedd defnyddio cyffuriau yn erbyn y rheolau roedd yn erbyn egwyddor y gamp ac o ganlyniad i鈥檙 sgandal cafodd Warburton ei wahardd o鈥檙 gamp ac fe alltudiwyd Michael i America i rasio.

Fel Linton mae yna drasedi i hanes Jimmy Michael a wastraffodd ei gyfoeth ar geffylau a casinos cyn troi at y botel. Roedd Michael hefyd yn 27 pan fu farw yn 1904, a hynny o sgil effeithiau alcohol.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Treftadaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Arthur Linton, Choppy Warburton, Jimmy Michael a brawd Arthur, Tom (Llun drwy garedigrwydd Gwasanaeth Treftadaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf - ACVMS 1998 3512_001)

Does yna ddim prawf cadarnhaol bod Arthur Linton wedi cymryd cyffuriau i wella鈥檌 berfformiadau ond mae yna sawl adroddiad gan lygaid-dystion yn y ras yn awgrymu bod ei gyflwr wedi gwella鈥檔 wyrthiol o ganlyniad i鈥檙 ffisig a dderbyniodd gan Warburton.

Mae yna rai awgrymiadau mai鈥檙 cemegyn strychnine oedd yn y botel, sydd bellach yn cael ei ddefnyddio i wenwyno llygod mawr, ond sydd hefyd yn cryfhau cyhyrau.

Mae鈥檔 annhebygol y byddwn ni byth yn gwybod beth yn union ddigwyddodd i Arthur Linton, ac mae yna eironi creulon bod ei blac bellach yn eistedd uwchben busnes sy鈥檔 arbenigo mewn cyffuriau.