成人快手

Elin Fflur i gyflwyno rhaglen nos Wener ar Radio Wales

Elin FflurFfynhonnell y llun, Betsan Haf Evans
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd sioe gyntaf Elin Fflur ar 成人快手 Radio Wales nos Wener 9 Awst

  • Cyhoeddwyd

Mae'r gantores a'r cyflwynydd teledu Elin Fflur yn dweud ei bod "yn gyffrous iawn" wrth edrych ymlaen at gyflwyno rhaglen newydd wythnos nesaf ar 成人快手 Radio Wales.

Dywed yr orsaf y bydd yn "dod ag egni ffres a bywiog i nosweithiau Gwener" rhwng 19:00 a 22:00, gyda'r rhifyn cyntaf nos Wener 9 Awst.

"Gen i angerdd mawr at gerddoriaeth a phobl a dwi'n teimlo bydd y sioe yma yn rhoi'r gorau o'r ddau i mi," dywedodd.

"Dwi'n edrych ymlaen at groesawu'r penwythnos gyda thiwns hapus a vibes da."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Elin Fflur yn wyneb cyfarwydd ar S4C ers blynyddoedd wrth gyflwyno rhaglenni fel Heno, Sgwrs Dan y Lloer a chystadleuaeth C芒n I Gymru (uchod, gyda Trystan Ellis-Morris)

Dywed yr orsaf y bydd y rhaglen newydd "yn gyfuniad o nostalgia a llawenydd" ac yn llawn caneuon "disco a chlasuron parti" o'r 70au, 80au a'r 90au.

Fe fydd y gantores o F么n yn cyflwyno'r rhaglen yn fyw o ganolfan y 成人快手 ym Mangor.

Gan ei chroesawu i'r orsaf, dywedodd pennaeth 成人快手 Radio Wales, Carolyn Hitt y bydd "yn gwmni gwych ar nosweithiau Gwener i'n gwrandawyr".

Ychwanegodd: "Fel un o gantorion-cyfansoddwyr mwyaf talentog Cymru, bydd hi'n rhannu ei gwybodaeth ac angerdd cerddorol gyda'n cynulleidfa.

"Ac fel cyflwynydd medrus mae ganddi gynhesrwydd a charisma."

Pynciau cysylltiedig