成人快手

Dyn o Wrecsam wedi'i ladd gan daflegryn yn Wcr谩in

Ryan EvansFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Ryan Evans ar 么l i'w westy gael ei daro gan daflegryn ddydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o ardal Wrecsam a oedd yn gweithio i d卯m newyddion Reuters yn Wcr谩in wedi marw ar 么l i daflegryn daro'i westy ddydd Sadwrn.

Roedd Ryan Evans, 38, yn un o chwech o weithwyr Reuters oedd yn aros yng ngwesty'r Sapphire yn ninas Kramatorsk - sydd dan reolaeth Wcr谩in ond yn agos at y brwydro.

Dywedodd ei wraig y bydd yn cael ei golli'n fawr gan ei deulu, gan gynnwys ei bedwar o blant - y ieuengaf ond yn 18 mis oed.

Ychwanegodd pennaeth Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam, lle bu鈥檔 ddisgybl, ei fod yn "berson hoffus tu hwnt gyda chalon fawr".

Dywedodd awdurdodau Wcr谩in fod y gwesty wedi ei daro gan daflegryn Rwsiaidd. Nid yw Rwsia wedi gwneud sylw.

'Rhoi pobl eraill yn gyntaf'

Dywedodd ei wraig, Anne Evans, ar Facebook: "Fo oedd fy ffrind gorau, fy enaid hoff gyt没n, fy mhopeth," meddai

"Os oedd unrhyw un angen unrhyw beth, roedd o yno - roedd o wastad yn rhoi pobl eraill yn gyntaf a'i hun yn ail."

Ychwanegodd Catrin Pritchard, pennaeth Ysgol Morgan Llwyd: "Ar ran cymuned gyfan yr ysgol, estynnaf fy nghydymdeimlad mwyaf diffuant i deulu a ffrindiau Ryan.

"Er bod Ryan wedi gadael Ysgol Morgan Llwyd, mae sawl aelod o'r staff yn dal i'w gofio'n annwyl gan ei ddisgrifio fel person hoffus tu hwnt gyda chalon fawr."

Ffynhonnell y llun, REUTERS/Ryan Evans
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ryan Evans yn gweithio gyda th卯m newyddion ger y ffin 芒 Gaza yn Be'eri, Israel, ym mis Chwefror

Fe wnaeth Ryan Evans ymuno 芒'r fyddin, a chatrawd y Cymry Brenhinol, ar 么l gadael Ysgol Morgan Llwyd.

Bu'n gwasanaethu yn Irac ac fe gafodd ei ddyrchafu i fod yn gorporal.

Ar 么l gadael y fyddin bu'n gweithio fel arbenigwr diogelwch, yn gweithio ochr yn ochr 芒 newyddiadurwyr a gweithwyr cymorth mewn ardaloedd peryglus.

Dywedodd cyfaill iddo, Chris Hunter, sy'n arbenigwr ar ddiffodd bomiau, fod Ryan Evans yn "foi hyfryd - cadarn a chaled, ond yn garedig a doniol".

"Roedd o wir yn poeni am y rheiny o'i gwmpas, ac roedd eisiau gwneud y byd yn le mwy diogel."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Ryan Evans ei ddisgrifio fel dyn "caredig a doniol"

Dywedodd llefarydd ar ran Reuters: 鈥淩ydyn ni'n chwilio am fwy o wybodaeth ar frys am yr ymosodiad, gan gynnwys trwy weithio gyda鈥檙 awdurdodau yn Kramatorsk, ac rydyn ni鈥檔 cefnogi ein cydweithwyr a鈥檜 teuluoedd,鈥 meddai llefarydd.

鈥淩ydym yn anfon ein cydymdeimlad a鈥檔 meddyliau dyfnaf at deulu ac anwyliaid Ryan.

"Mae Ryan wedi helpu cymaint o鈥檔 newyddiadurwyr i roi sylw i ddigwyddiadau ledled y byd; byddwn yn ei golli鈥檔 ofnadwy.鈥

Ychwanegodd fod dau aelod arall o'r t卯m wedi bod yn yr ysbyty ar 么l y digwyddiad a bod un ohonyn nhw'n cael triniaeth am anafiadau difrifol.

Zelensky yn cydymdeimlo

Dywedodd Heddlu Cenedlaethol Wcr谩in yn gynharach fod corff dyn o Brydain wedi鈥檌 ganfod yn rwbel y gwesty am 18:35 amser lleol (16:35 BST) ddydd Sul ar 么l bod yn chwilio am 19 awr.

Anfonodd arlywydd Wcr谩in Volodymyr Zelensky ei 鈥済ydymdeimlad at deulu a ffrindiau鈥 Ryan Evans.

鈥淒yma鈥檙 braw dyddiol parhaus gan Rwsia,鈥 meddai.

Dywedodd Swyddfa Erlynydd Cyffredinol Wcr谩in mewn datganiad ei bod yn debygol bod y gwesty wedi鈥檌 daro gan daflegryn Iskander-M.

Dim ond tua 12 milltir yw Kramatosk o rannau o Wcr谩in sydd wedi鈥檜 meddiannu gan Rwsia, ac mae wedi dod o dan ymosodiadau rheolaidd, gyda phobl gyffredin yn cael eu lladd, gan gynnwys yr awdur o Wcr谩in, Victoria Amelina.

Mae milwyr Rwsia wedi bod yn gwneud datblygiadau araf ond cyson yn y dwyrain yn ystod y misoedd diwethaf, gydag ymosodiad diweddar Wcr谩in i Rwsia yn cael ei weld fel ymgais i dynnu milwyr o'r frwydr yn y dwyrain.

Pynciau cysylltiedig