成人快手

Cynnydd yn nifer y plant sy鈥檔 cael eu haddysg gartref

Molly
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Molly, 17, sy'n derbyn ei haddysg gartref, nad yw hi'n teimlo fel ei bod yn "colli allan"

  • Cyhoeddwyd

Mae nifer y plant sy鈥檔 symud at gael eu haddysg gartref wedi cynyddu 17% yng Nghymru yn y flwyddyn ddiwethaf.

Mae ymchwil gan y 成人快手 yn dangos fod awdurdodau lleol Cymru wedi cael gwybod bod teuluoedd mwy na 2,000 o blant yn bwriadu eu haddysgu adref.

Dyma鈥檙 lefel uchaf ers cyn 2020-2021.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn 鈥渃ydnabod hawl rhieni i addysgu鈥 er mai dim ond tua 1% o blant Cymru sydd yn cael addysg yn y ffordd yma.

Yn 么l Wendy Charles-Warner o elusen Education Otherwise mae plant y Deyrnas Unedig yn profi 鈥渁rgyfwng iechyd meddwl鈥 sy鈥檔 golygu bod rhieni yn troi at addysgu gartref.

'Dwi ddim yn teimlo fy mod i鈥檔 colli allan'

Mae Molly o Sir Ddinbych ymhlith y bobl ifanc sydd wedi cael eu haddysg gartref ers y pandemig.

Penderfynodd Molly a鈥檌 theulu ddewis ei haddysgu adref wedi eu profiad o wneud hynny yn ystod pandemig, yn ogystal 芒鈥檙 ffaith ei bod hi wedi cael ei bwlio yn yr ysgol.

鈥淩oedd 'na dipyn o orbryder yn gysylltiedig 芒 mynd i鈥檙 ysgol,鈥 meddai.

Dyw Molly ddim wedi gwneud ei harholiadau TGAU. Yn hytrach, mae hi wedi gwneud cyrsiau ar-lein gyda chymorth ei theulu ac mae hi bellach yn rhedeg busnes yn ymwneud 芒 cheffylau.

鈥淥 fy mhrofiad o fod yn yr ysgol, dwi ddim yn teimlo fy mod i鈥檔 colli allan,鈥 meddai.

Yn 么l Molly, mae dysgu pethau newydd yn ei 鈥済wneud yn hapus鈥 ac mae鈥檙 rhyddid i ddarllen ac astudio pethau amrywiol yn gweithio iddi hi a鈥檌 theulu.

鈥淩wy'n meddwl bod llawer o bobl yn edrych lawr ar addysg yn y cartref,鈥 meddai.

鈥淩wy'n meddwl fy mod wedi cael yr addysg fwyaf boddhaol, ac rwyf wedi dysgu llawer.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Molly o'r farn fod "llawer o bobl yn edrych lawr ar addysg yn y cartref"

Yn 么l Dr Lowri Jones, darlithydd addysg ym Mhrifysgol Bangor, 鈥渄ydy addysg o reidrwydd ddim yn golygu eistedd tu 么l i ddesg鈥 yn sgil newidiadau cymdeithasol.

鈥淢ae鈥檙 st么r o wybodaeth sydd ar gael ar y we efallai ei gwneud hi鈥檔 haws y dyddiau hyn i rieni addysgu eu plant.鈥

Mae ymchwil y 成人快手 yn dangos bod poblogrwydd addysg yn y cartref wedi cynyddu mewn nifer o ardaloedd yn Lloegr, yn ogystal 芒鈥檙 Alban, tra bod llai o blant yn cael eu haddysgu adref yn ne Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Yn 么l Betsan O'Connor, ymgynghorydd addysg annibynnol, mae amrywiaeth o resymau pam fyddai teulu yn troi at addysg yn y cartref, gan gynnwys ymateb i anghenion arbennig a phenodol y plentyn.

Dywedodd: 鈥淔alle bod e鈥檔 ddewis cadarnhaol yn y pendraw ond falle taw dewis anorfod yw e i rai rhieni lle bod anghenion eu plant nhw ddim yn cael eu cyrraedd yn yr ysgol.

鈥淔i鈥檔 credu bod rhaid i ni edrych ar bob teulu, pob unigolyn yn eu tro.鈥

Er i nifer gael profiadau positif yn y cartref, mae Betsan yn dweud bod pryderon am ddiogelu plant yn parhau.

鈥淵n sicr mae鈥檙 un gofidiau oedd yn ein hwynebu ni cyn Covid yn ein hwynebu ni nawr o ran ofnau gyda diogelu plant.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tua 1% o blant Cymru sy'n cael eu haddysgu gartref, yn 么l Llywodraeth Cymru

Er i Dr Lowri Jones ddweud nad yw hi'n synnu bod twf yn nifer y plant sydd yn cael eu haddysgu adref, dywed bod angen ystyried goblygiadau hir dymor y newid.

鈥淥s dydy ein plant a phobl ifanc ddim yn derbyn yr addysg orau bosib, be鈥 ydy effaith hynny ar gyflogadwyedd a鈥檜 gallu nhw i fyw a bod mewn cymdeithas yn y dyfodol?

鈥淯n peth, dwi鈥檔 meddwl, sydd angen ar fyrder yng Nghymru ydy ymchwil i ddeall y sefyllfa, i fynd dan groen y rhesymau 'ma sydd gan bobl ifanc dros beidio 芒 mynd i鈥檙 ysgol.鈥

'Mynychu ysgol yw'r peth gorau'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai dim ond "tua 1% o blant Cymru" sy鈥檔 cael eu haddysgu adref ar hyn o bryd, ac mai'r "peth gorau i bobl ifanc yw mynychu ysgol" yn y聽mwyafrif llethol o achosion.

鈥淢ae鈥檙 llawlyfr i addysgwyr yn y cartref yn rhoi cyngor i rieni a gofalwyr sy鈥檔 addysgu yn y cartref, neu sy鈥檔 ystyried gwneud hynny.

"Rydyn ni hefyd wedi gweithio gyda phob awdurdod lleol i sicrhau bod modd nodi a chynnig y ddarpariaeth fwyaf priodol ar gyfer pob plentyn.鈥

Yn 么l Plaid Cymru 鈥渕ae angen i Lywodraeth Lafur Cymru fynd i鈥檙 afael ag addysg, drwy wneud yn si诺r bod ysgolion yn cael eu hariannu i ddarparu鈥檙 cymorth sydd ei angen鈥 a 鈥渟icrhau yw unrhyw blentyn yn cael ei wthio allan o鈥檙 system addysg".

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod nhw鈥檔 parchu hawl y rhiant i ddewis, wrth annog perthynas rhwng y plant sy鈥檔 cael eu haddysgu adref gydag ysgolion a'r gymuned.

Pynciau cysylltiedig