Pam fod Gething yn cefnu ar bolis茂au Drakeford?
- Cyhoeddwyd
Mae cyhoeddiad bod newidiadau posib i鈥檙 flwyddyn ysgol yn cael eu gosod ar y silff yn dilyn patrwm cyfarwydd.
Ers i Vaughan Gething gymryd yr awenau fel Prif Weinidog Cymru ym mis Mawrth mae polis茂au eraill wedi eu gohirio.
Mae newidiadau i鈥檙 system daliadau i ffermwyr, a arweiniodd at brotestiadau mawr, wedi eu hoedi tan 2026 鈥 blwyddyn yr etholiad nesaf i Senedd Cymru.
Mae diwygio treth y cyngor yn bolisi mawr arall mae gweinidogion wedi penderfynu ei adael i鈥檙 llywodraeth nesaf.
Addasu polis茂au
Mae yna farc cwestiwn hefyd dros gynlluniau i gyflwyno rheolau fyddai鈥檔 sicrhau bod o leiaf hanner yr ymgeiswyr mewn etholiadau i Senedd Cymru鈥檔 fenywod.
Mae polis茂au eraill wedi eu haddasu, gyda newidiadau ar droed i鈥檙 polisi 20mya.
Ac mae鈥檙 llywodraeth wedi newid ei rheolau ynghylch difa gwartheg beichiog sydd 芒 TB.
Gyda鈥檌 gilydd, mae yna beryg y gallai鈥檙 penderfyniadau hyn roi鈥檙 argraff bod y llywodraeth yn amharod neu鈥檔 ofn gwneud penderfyniadau anodd neu amhoblogaidd.
Ac wedi鈥檙 cyfan, dyma lywodraeth a phrif weinidog sy鈥檔 barod o dan bwysau mawr.
- Cyhoeddwyd4 Mehefin
- Cyhoeddwyd3 Mehefin
- Cyhoeddwyd3 Mehefin
Mae Mr Gething yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder yn y Senedd ddydd Mercher ar 么l iddo dderbyn rhoddion dadleuol i鈥檞 ymgyrch arweinyddiaeth.
Does dim mwyafrif ganddo ym Mae Caerdydd ychwaith, ac mae ei sefyllfa鈥檔 wannach ers i Blaid Cymru ddymchwel y cytundeb cydweithio oedd gan y blaid gyda Llafur yn y Senedd.
Mae鈥檔 werth nodi fodd bynnag bod y penderfyniad i oedi鈥檙 diwygiadau i dreth y cyngor yn un o鈥檙 rhesymau a roddodd arweinydd Plaid Cymru dros ddod 芒鈥檙 cytundeb i ben.
Byddai Llywodraeth Cymru鈥檔 dadlau bod y penderfyniadau yma鈥檔 dangos ei bod yn gwrando ac eisiau ymgynghori鈥檔 drylwyr cyn gweithredu.
Byddai cefnogwyr Mr Gething yn awgrymu hefyd ei fod yn cyflawni ei addewid pan gafodd ei benodi i ganolbwyntio 鈥渁r beth sydd bwysicaf i fywyd dyddiol pobl鈥.
Serch hynny, beth bynnag fo鈥檙 rheswm dros ddilyn y trywydd yma, mae yna beryg bod penderfyniadau鈥檙 llywodraeth yn tanseilio鈥檙 holl waith wnaeth gweinidogion blaenorol o dan arweinyddiaeth rhagflaenydd Mr Gething, Mark Drakeford.
Tybed beth mae e鈥檔 ei feddwl wrth wylio鈥檙 cyfan nawr o feinciau cefn Llafur.