Dyn 19 oed o Geredigion wedi marw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 19 oed o Geredigion wedi cael ei arestio ar 么l i ddyn ifanc arall farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Fynwy.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Staunton ym Mynwy tua 12:00 ddydd Sul.
Un car - Ford Fiesta arian - oedd yn rhan o'r digwyddiad.
Dywedodd Heddlu De Cymru y bu farw teithiwr yn y car - dyn 19 oed o Geredigion - yn y fan a'r lle.
Mae dyn arall 19 oed o Geredigion wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus a gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau.
Mae teulu'r dyn ifanc fu farw yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth am y digwyddiad neu luniau dash-cam o'r cerbyd i gysylltu 芒 nhw.