成人快手

Rhagor o feddygon i streicio dros anghydfod cyflogau

  • Cyhoeddwyd
Meddygon

Mae ymgynghorwyr meddygol a doctoriaid arbenigol wedi pleidleisio o blaid streicio fel rhan o anghydfod dros eu t芒l.

Fe gafodd y bleidlais ei chau amser cinio ddydd Llun.

Roedd 86% o ymgynghorwyr meddygol a 94% o ddoctoriaid arbenigol wedi pleidleisio o blaid y gweithredu diwydiannol.

Bydd y meddygon sy'n cymryd rhan yn y gweithredu diwydiannol, sydd wedi ei drefnu gan gymdeithas feddygol BMA Cymru, ar streic rhwng 07:00 ar 16 Ebrill a 07:00 ar 18 Ebrill.

Mewn datganiad dywedodd y gymdeithas fod trefniadau staffio 'dydd Nadolig' wedi eu trefnu yn ystod y streic, sy'n golygu y bydd doctoriaid yn darparu gofal brys.

Bydd unrhyw wasanaethau eraill yn cael eu gwthio ymlaen yn ystod y cyfnod hwn.

Mae ffigyrau BMA Cymru'n awgrymu bod y grwpiau yma'n cynrychioli tua 54% o weithlu meddygol ysbytai.

Ond nid yw pob un yn aelod o undeb.

Daw'r penderfyniad i streicio yn dilyn cynnig o 5% o godiad cyflog gan Lywodraeth Cymru, gyda rhai meddygon arbenigol yn derbyn cynnig mor isel 芒 2.5%.

Dywedodd cadeirydd pwyllgor ymgynghorwyr BMA Cymru, Steven Kelly bod y penderfyniad wedi bod yn un "anodd tu hwnt".

"Does yr un doctor eisiau streicio, ond mae'r sefyllfa y maen nhw'n gorfod wynebu yn y gweithlu yn deillio o'r pwysau aruthrol sydd ar y gwasanaeth a lefelau staffio hynod o isel wedi gadael y doctoriaid heb opsiwn arall."

Mae meddygon iau wedi cynnal sawl streic ond dyma fydd y tro cyntaf i feddygon hyn ac arbenigol streicio.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "siomedig" gyda chanlyniad y bleidlais ar weithredu, gan ddweud nad oes arian ar gael am gynnig cyflog uwch.

"Y cynnydd 5% ar gyfer 2023-24 yw'r terfyn o ran y cyllid sydd ar gael i ni ac mae'n adlewyrchu'r cytundeb gydag undebau eraill eleni", meddai llefarydd.

"Rydyn ni'n parhau i fod yn barod i weithio mewn partneriaeth gyda'r Gymdeithas Feddygol Brydeinig ac ar gyfer rhagor o drafodaethau ar unrhyw bryd."

Pynciau cysylltiedig