成人快手

Chwedlau'n 'rhan o'n crefydd ni'

  • Cyhoeddwyd
Eifion RogersFfynhonnell y llun, Eifion Rogers

"Mae chwedlau'n rhan o'n crefydd ni - mae'n ran o beth y'n ni."

Pa mor bwysig yw chwedlau i hunaniaeth y Cymry? A hithau'n Wythnos Cymreictod, bu Cymru Fyw yn trafod y pwnc gyda Eifion Rogers, sy' wedi creu g锚m cardiau sy'n anelu i ddod 芒 chwedlau Cymru'n fyw i genhedlaeth newydd.

Mae Eifion, sy'n dod o Frynaman, wedi creu a dechrau gwerthu'r g锚m sy'n debyg i Top Trumps gyda sg么r ar gyfer chwedlau a chymeriadau.

Yn wreiddiol g锚m ar gyfer plant oedd hi i fod ond mae wedi ffeindio cynulleidfa ehangach ers ei lansio ym mis Tachwedd, fel mae Eifion yn esbonio: "Mae'r g锚m wedi ei greu i blant ond mae wedi mynd i brifysgolion ac i bobl sy'n byw dros y byd a'n dysgu Cymraeg ac hefyd pobl sy'n dod n么l i'r iaith.

"Y broblem sy' gyda ti yng Nghymru yw fod gap am cwpl o flynyddoedd (ar 么l gorffen ysgol) ac mae pobl yn colli'r iaith. Dyle hwnna byth ddigwydd."

Ffynhonnell y llun, Eifion Rogers
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Eifion Rogers

Gobaith Eifion yw fod y cardiau yn helpu pobl i ddysgu am y chwedlau tra'n defnyddio'r iaith Gymraeg: "Ti'n gallu dysgu dy hunan (gyda'r cardiau). Mae fe'n rhywbeth rili da a rhywbeth dwi'n angerddol amdano."

Ysbrydoliaeth

Mae Eifion, sy'n gyn-fyfyriwr Prifysgol y Drindod Dewi Sant, wedi ei ysbarduno gan ei fagwraeth gyda'i deulu yn hanu o bentref Myddfai yn Sir Gaerfyrddin: "Roedd y stori 'di dechre oherwydd oedd dau peth 'di pwsho fe - y peth cynta' yw fod Myddfai lle mae Llyn y Fan a stori Arglwyddes y Llyn, dros y mynydd o Ddyffryn Aman a pob tro o'n i'n mynd 'na oedd e wastad yn teimlo fel bod rhywun yn dilyn fi rownd. Oedd e'n rili od."

Ffynhonnell y llun, Eifion Rogers
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Carden Arglwyddes y Llyn

"Oedd hyn 'di mynd ymlaen am flynyddoedd. Siarades i 芒 fy wncl i a wedodd e 'na le mae dy deulu'n byw'."

Yr ail beth a sbardunodd Eifion oedd trip i Athenry yn Iwerddon yn 2017, lle dysgodd am fytholeg Iwerddon gan ddarllen llyfr yn cynnwys hen straeon ll锚n gwerin a gr毛wyd gan blant ysgol o wybodaeth yr oeddent wedi'i chasglu gan aelodau hynaf eu teuluoedd.

Penderfynodd Eifion greu llyfr oedd yn rhannu mythau Cymru ond ar 么l cyfarfod 芒 phartner busnes, David Daniel, penderfynon nhw greu g锚m gardiau. Mae'r g锚m, sydd wedi ei chreu yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn cynnwys 32 o gymeriadau o fytholeg Cymru gan gynnwys Myrddin y Dewin, Mari Lwyd a Rhiannon.

Wedi lansio'r g锚m yng nghanolfan y gymuned yn Nyffryn Aman yn Tachwedd, roedd wedi gwerthu allan erbyn Rhagfyr. Erbyn hyn mae Eifion yn trefnu cynhyrchu'r set nesaf o gardiau gan obeithio y bydd yn cael ei defnyddio mewn ysgolion ac y bydd yn ysbrydoli pobl i ymddiddori mewn ffigurau chwedlonol.

Ac mae'r g锚m hefyd wedi ffeindio cynulleidfa yn America, meddai Eifion: "Dwi'n 'neud lot o waith gyda chymdeithasau Cymraeg dros y byd ac mae wedi mynd i 16 talaith yn America. Mae wedi bod yn boblogaidd yn Michigan a Florida, Efrog Newydd, Boston ac LA. Hefyd Pennsylvania, achos mae dipyn o hanes o Gymry yno. Mae lot o ddylanwad gyda'r iaith Gymraeg dros y byd.

"Mae'r gefnogaeth ni wedi cael o gwledydd y realm Celtaidd yn wych. Ti'n gwrando ar y straeon ac mae yr un rhai yn dod lan drosto a drosto."

Ffynhonnell y llun, Eifion Rogers
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Carden Mari Lwyd

"Mae'n rhaid bod rhywbeth ynddyn nhw - mae lot o dystiolaeth ar gyfer rhai ohoni nhw. Dwi 'di bod yn edrych ar y cymeriadau nesaf ar gyfer ail edition y cardiau fel y Mermaids of Zennor yng Nghernyw - mae tystiolaeth o nhw yn y capeli.

"Mae lot o straeon 'da ni a maen nhw'n bwysig iawn. Pwy a wyr bod llawer o nhw ddim yn wir."

Pam mae chwedlau mor bwysig i Eifion felly?

Meddai: "Mae'n rhywbeth pwysig iawn i ni gofio'r hanes. Mae'n deimlad o teulu fi a le ni o, ar bwys Pen y Fan - mae'n rhywbeth sy'n agos iawn i'n nghalon i.

"Fel maen nhw'n dweud am y byd arall Annwn, mae fe wastad yn bell ond yn rili agos hefyd. Oedd lot o bethau yn cwympo mewn i le 'da fi ac mae rhywbeth yn pointio fi at Myddfai, mae fe'n tynnu fi n么l. Mae'r hiraeth gyda ti. Mae'n od.

"Yr un pwysiga' i fi yn bersonol oedd wastad chwedl Llyn y Fan achos dwi'n convinced mai 'na le mae'r g芒t i Annwn y byd arall."

Ffynhonnell y llun, Eifion Rogers
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Carden Rhiannon

"A'r ail un yw Rhiannon achos dwi'n credu mai Rhiannon yw'r cryfa' o bob cymeriad. O'n nhw'n galw hi'n the Celtic wonder child a the goddess of serenity - hi yw'r unig un sy' ymhob cangen o'r Mabinogion.

"Fel mae partner busnes fi'n dweud, 'nag yw Game of Thrones dim byd i'w gymharu 芒 chwedlau Cymru'. Ac mae'n reit!"

Pynciau cysylltiedig