成人快手

Wyres tywysoges wnaeth ffoi Rwsia 1919 yn helpu ffoaduriaid Wcr谩in

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Fiona a Tetiana
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fiona Zinovieff a Tania Dmytrieva

Mae dynes o Wynedd yn dweud ei bod wedi helpu pobl oedd yn ffoi o'r rhyfel yn Wcr谩in wedi i'w theulu gael profiad tebyg 100 mlynedd yn 么l.

Roedd Fiona Zinovieff, sy'n byw yn Llanrug, ger Caernarfon, wedi bod yn dilyn y datblygiadau yn Wcr谩in ar 么l i Rwsia ymosod ar y wlad ar 24 Chwefror 2022.

Mae hi'n ddisgynnydd i dywysoges o Rwsia wnaeth ffoi o'i gwlad ganrif yn 么l.

Wrth wylio pobl yn dianc, penderfynodd helpu a rhoi lloches - a hynny yn rhannol gan fod ei theulu ei hun wedi bod mewn sefyllfa debyg mewn cyfnod cythryblus yno ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.

Mae Tania Dmytrieva, a wnaeth ffoi o Kiev i Gymru yng ngwanwyn 2022, yn parhau i fyw yn ardal Llanrug - ddwy flynedd ers dechrau'r rhyfel.

'Gwneud yn iawn am bethau'

Nain Fiona oedd y Dywysoges Sophia Dolgorukova, neu Sofka Skipwith, oedd ymysg yr aristocratiaid wnaeth ffoi am eu bywydau yn dilyn chwyldro gwaedlyd y Bolsiefic yn 1917.

Ar 么l dianc o St Petersburg i'r Crimea, yn 1919 fe gafodd hi a'i theulu eu hachub a'u cludo i Brydain gydag aristocratiaid eraill ar yr HMS Marlborough.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu/Creative Commons
Disgrifiad o鈥檙 llun,

(llun chwith) Sophia Dolgorukova, neu Sofka Skipwith yn ddiweddarach, gyda Tywysog Vassily Romanov ar fwrdd yr HMS Marlborough yn ffoi yn 1919, a (llun dde) Sophia Dolgurokuva o gwmpas 1925

Dywedodd Fiona bod cael eu hachub gan y Llynges Brydeinig a'u croesawu i Brydain gan y teulu brenhinol yn wahanol iawn i brofiad ffoaduriaid heddiw, ond bod dianc o'u mamwlad wedi bod yn anodd iawn iddyn nhw.

Ychwanegodd: "Mae beth sy'n digwydd r诺an mor agos i adra gan fod fy nheulu i hefyd yn ffoaduriaid.

"I fi, roedd cynnig lle i bobl oedd yn ffoi bron fel gwneud yn iawn am bethau. Dwi'n dod o linell hir o bobl anwaraidd ac afresymol - dwi'n ddisgynnydd i Catherine The Great - ond tydan ni ddim yn ddiwylliannau ac yn bobl ar wah芒n, mewn cymaint o ffyrdd 'da ni'r un fath.

"Roedd [rhyfel Wcr谩in] ar y newyddion bob dydd ac roedd o mor anwaraidd be' oedd yn digwydd, ro'n i'n meddwl, pryd wyt ti'n gwneud rhywbeth am y pethau ti'n coelio ynddyn nhw? Mae'n hawdd iawn gyrru 拢50 at achos da."

'Teimlo mor isel'

Felly fe gynigodd loches i dri pherson a thalu am docyn awyren iddyn nhw i Brydain fis Ebrill 2022.

Fe rybuddiodd hi am ei chefndir teuluol o flaen llaw, rhag ofn i hynny greu drwgdeimlad, ond gan fod cymaint o gysylltiad rhwng pobl Wcr谩in a Rwsia roedd popeth yn iawn.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fiona ym maes awyr Lerpwl yn disgwyl i'r dair ffoadur gyrraedd o Wcr谩in. Rydym wedi cuddio eu henwau llawn

Un o'r rhai ddaeth drosodd oedd Tetiana Dmytrieva, sy'n cael ei hadnabod fel Tania, oedd wedi ffoi o'i chartref yn Kiev i Wlad Pwyl ar ddechrau ymosodiad Rwsia.

"Roedden ni mewn sioc lwyr ac yn ofnus iawn," meddai Tania. "Roedd clywed y seiren yn ddychrynllyd a ni i gyd yn ffoi mewn trenau, a dim lle i neb, efo plant yn crio, merched yn feichiog.

"Pan wnaethon ni gyfarfod Fiona am y tro cyntaf roeddan ni mor isel, doedden ni ddim yn gallu teimlo'n positif am ddim byd.

"Ar y pryd doeddan ni ddim yn disgwyl bod yma am hir - tan yr haf efallai. Doedden ni erioed wedi meddwl y byddan ni'n byw yma."

Dysgu Saesneg gyda Peppa Pig

Roedd setlo yn anodd nid yn unig am resymau emosiynol, ond hefyd am resymau ymarferol fel cyfathrebu a biwrocratiaeth, gyda Fiona yn ceisio ei helpu.

"Mae cael pethau fel Yswiriant Cenedlaethol, cefnogaeth feddygol, cofrestru efo doctoriaid - mae'n dipyn o sialens," meddai Fiona. "Mae'r fiwrocratiaeth yn Catch 22.

"Roedd yn rhaid cael rhif ff么n i gael ID er mwyn cael Universal Credit, ond i gael ID mae'n rhaid cael rhif ff么n a chyfeiriad swyddogol, felly roeddan ni'n mynd rownd mewn cylchoedd.

"Roedden ni'n dysgu Saesneg drwy edrych ar Peppa Pig, gwylio rhaglen fwy nag unwaith a gwrando allan am rai geiriau.

"Mae mor anodd heb ddeall yr iaith - hyd yn oed mynd i'r archfarchnad. Roedd yn rhaid dysgu drwy ddangos blawd a dweud 'dyma ydi blawd... dyma ydi sunflower oil, dyma ydi 'buy two get one free', dyma ydi pris un afal."

Ar 么l cyfnod dywedodd yr awdurdodau nad oedd lle i fwy nag un person i aros gyda Fiona yn barhaol, ac fe gafodd Tania gartref arall - ond dim ond i lawr y ffordd ac felly mae'r ddwy wedi gallu parhau'n ffrindiau.

Mae Tania hefyd yn treulio amser gydag un o'r Wcreiniaid ddaeth drosodd gyda hi ac sydd dal yn byw yng nghartref Fiona. Doedd y ddynes, sy'n 71, ddim am gael ei hadnabod yn yr erthygl hon oherwydd pryderon am ddiogelwch ei theulu ger y ffin rhwng Rwsia a Wcr谩in.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"O'r cychwyn wnaeth Fiona fynd 芒 ni i'r sinema, theatr ac i weld llefydd hardd gan ei bod hi'n sylweddoli ein bod ni'n isel," medd Tania

Bron i ddwy flynedd yn ddiweddarach, er yr hiraeth a'r pryder, mae bywyd bob dydd yn haws. Athrawes Rwsieg oedd gwaith Tania yn y Wcr谩in, a nawr bod ei Saesneg wedi gwella ar 么l dilyn cyrsiau yng Ngholeg Menai, ei gobaith ydi cael gwaith yn dysgu Saesneg i dramorwyr.

Ond tydi cysgod y rhyfel byth yn bell.

Poeni am deulu yn Wcr谩in

Dywedodd Fiona: "Dwi jest yn poeni drostyn nhw ac mae rhywun yn gobeithio a gwedd茂o drostyn nhw. Pan dwi'n clywed am lefydd yn y newyddion lle mae eu teuluoedd nhw'n byw, dwi'n dal fy ngwynt."

"Mae'n teuluoedd ni'n byw drwy hyn bob un diwrnod," ychwanegodd Tania. "Mae fy nhad a fy chwaer dal yno, a'u teulu nhw. Mae merch fy chwaer yn ei harddegau ac mae hi wedi stopio gwenu. Tydi hi methu gwenu."

Yr uchelgais ydi dychwelyd i Wcr谩in pan fydd heddwch ond yn y cyfamser mae'n dweud bod yn rhaid ceisio gwneud y gorau o sefyllfa anodd.

Dywedodd Tania: "Dwi eisiau dweud diolch i'r llywodraeth ac i'r wlad yma, a hefyd i Fiona a'i theulu sydd wedi cefnogi fi a rhoi'r cyfle i mi astudio yma. Fy mreuddwyd oedd medru siarad Saesneg, a r诺an dwi'n gallu siarad yr iaith.

"Mae'n hawdd teimlo'n isel, ond mae'n rhaid i ni feddwl yn bositif."

Ac mae'r un wnaeth estyn croeso iddi gyntaf un cytuno. Ychwanegodd Fiona: "O sefyllfa drist iawn, rydan ni wedi cyfarfod ein gilydd a gwneud ffrindiau newydd."

Pynciau cysylltiedig