Torcalon teulu cyn-AS wedi marwolaeth menyw o Wcr谩in
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-AS Plaid Cymru a fu'n gofalu am fenyw o Wcr谩in wedi disgrifio torcalon ei deulu yn dilyn ei marwolaeth mewn gwrthdrawiad.
Bu farw Tetiana Martynova, 40 oed o Wcr谩in, mewn gwrthdrawiad car yn Abertawe ddiwedd Ionawr.
Fe wnaeth Dr Dai Lloyd - cyn-aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru - a'i wraig roi lloches i Tetiana a'i mab Iliah wedi iddyn nhw ffoi o'r rhyfel yn Wcr谩in.
Wrth sgwrsio ar raglen Dros Ginio ddydd Gwener, fe ddisgrifiodd Dr Dai Lloyd ei marwolaeth fel "ergyd drom" iddyn nhw.
Mae Iliah bellach yn 么l yng ngofal Dr Lloyd a'i wraig yn Abertawe.
'Fel merch i ni'
Gyda dros ddwy flynedd wedi mynd heibio ers i Rwsia ymosod ar Wcr谩in, fe esboniodd Dr Dai Lloyd sut aeth ef a'i wraig - a nifer o drigolion eraill Abertawe - ati i gynnig lloches i'r rheiny oedd yn ffoi o'r rhyfel drwy gynllun 成人快手s for Ukraine.
"Mi ddaeth Tetiana ac Iliah yma, ac roedden nhw gyda ni am ddau fis a hanner cyn iddyn nhw symud i mewn i fflat sydd gyda ni yn Abertawe," meddai.
Dywedodd eu bod yn trin Tetiana "fel merch i ni" a hithau'r un oed 芒'u plant nhw, a bod "Iliah fel 诺yr bach arall".
Wrth s么n am y broses o dderbyn Tatiana a'i mab i'w gofal, dywedodd fod "popeth yn rhedeg yn weddol llyfn" a'u bod yn "falch iawn o allu croesawu'r teulu bach efo ni".
Un o'r heriau "sylfaenol" oedd yn wynebu nifer o'r rheiny oedd yn symud i Gymru oedd nad oeddynt yn siarad Saesneg, ond roedd Tatiana yn medru gwneud hynny ac wedi gallu cael swydd yma.
"Wrth gwrs doedden nhw ddim yn disgwyl bod yma am fisoedd ar fisoedd, ac oedden nhw'n hiraethu am fynd n么l i Wcr谩in," meddai Dr Dai Lloyd.
Dywedodd fod marwolaeth sydyn Tatiana lai na mis yn 么l wedi bod yn "ergyd drom" i'w deulu.
Wrth s么n am y gefnogaeth y maen nhw wedi ei dderbyn, dywedodd fod "pawb wedi bod yn hollol fendigedig fan hyn".
Mae Iliah bellach yn 么l yn byw gyda Dr Lloyd a'i wraig, ac mae'n mynychu ysgol leol.
"Does 'da fe ddim teulu yng Nghymru na thu allan i Wcr谩in a dweud y gwir," meddai'r cyn-AS.
Codi ymwybyddiaeth ac arian
Mae Dr Lloyd yn mynychu pob math o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth ac arian at y sefyllfa yn Wcr谩in.
Ag yntau'n feddyg, mae'n pwysleisio'r angen mawr sydd yna i gael cyfarpar meddygol er mwyn achub bywydau yno.
Dywedodd ei fod yn "falch o'r ardal yma achos mae miloedd o bobl wedi bod wrthi" yn codi arian.