成人快手

Duolingo: Gweinidog y Gymraeg yn ceisio sicrwydd

  • Cyhoeddwyd
DuolingoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe lansiodd Duolingo y cwrs Cymraeg cyntaf yn 2016

Mae'r Gweinidog dros y Gymraeg yn dweud ei fod am ysgrifennu llythyr at gwmni Duolingo i'w holi sut y gallant gefnogi datblygiad parhaus y cwrs Cymraeg.

Daw hyn fel ymateb i ddeiseb sy'n honni na fydd y cwrs Cymraeg yn cael ei ddiweddaru ar yr ap.

Mae'r ddeiseb yn nodi fod Duolingo wedi penderfynu rhoi'r gorau i ddatblygu "m芒n ieithoedd" [minor languages], gan gynnwys y Gymraeg.

Mae'r ap - sy'n gallu cael ei lawrlwytho ar ff么n neu dabled - yn cynnig cyrsiau dysgu ieithoedd o bob math yn rhad ac am ddim.

Ond mae'r newid diweddaraf yn golygu na fydd dysgwyr Cymraeg newydd yn gallu derbyn ateb i rai o'u cwestiynau ac na fydd gwallau sydd eisoes yn bodoli ar yr ap yn cael eu cywiro.

Er bydd dal modd i ddysgwyr ddilyn y cwrs Cymraeg, ni fydd unrhyw beth newydd yn cael ei ychwanegu neu ei wella at yr hyn sydd eisoes ar yr ap.

Dywedodd Gweindog y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles: "Yn dilyn y newyddion, mi fyddaf yn ysgrifennu at Duolingo i'w holi i ystyried, sut, yngh欧d a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, y gallwn eu cefnogi i sicrhau datblygiad pellach i'r cwrs Cymraeg.

"Mae Duolingo yn adnodd allweddol sy'n medru helpu dysgwyr ar eu taith i ddod yn siaradwyr Cymraeg".

Gobaith y ddeiseb yw perswadio Duolingo i barhau i gael cwricwlwm bywiog a chyfoes i'r Gymraeg ar yr ap fel bod modd i ddysgwyr cyrraedd safon rugl.

Mae'r ddeiseb hefyd yn nodi eu bod yn dod o lefydd gwahanol ar draws y byd a phawb gyda rheswm benodol dros ddysgu Cymraeg.

Pynciau cysylltiedig