成人快手

Cynnydd 34% mewn dysgwyr Cymraeg drwy ap Duolingo

  • Cyhoeddwyd
DuolingoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe lansiodd Duolingo y cwrs Cymraeg cyntaf yn 2016

Mae niferoedd y defnyddwyr sy'n dysgu Cymraeg ar ap ieithoedd wedi cynyddu traean o fewn blwyddyn.

Yn 么l Duolingo, roedd 38,600 o bobl yn y DU wedi defnyddio'r cwrs Cymraeg ar yr ap ym mis Medi, sy'n gynnydd o 34% ar 28,600 o'r un cyfnod yn 2018.

Mae adnodd arall dysgu Cymraeg arlein, Say Something in Welsh yn dweud eu bod yn amcangyfrif bod 60,000 o ddefnyddwyr cyson o'u gwefan.

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud fod yr apiau yn "cynnig ffordd wahanol o ddysgu'r iaith".

'Hynod ddefnyddiol'

Mae ystadegau hefyd yn dangos bod mwy a mwy o bobl yn defnyddio Duolingo y tu allan i'r DU.

Dwy flynedd ar 么l dechrau dysgu Cymraeg drwy ddefnyddio'r ap fe wnaeth Silke Muller o Landshut yn yr Almaen basio arholiad TGAU yn y Gymraeg.

"Fe ddechreuais ddefnyddio Duolingo oherwydd roeddwn yn credu gallwn ei wneud ar fy mhen fy hun, felly mi wnes roi tro arni heb athro," meddai.

"Roedd yn hynod ddefnyddiol am wahanol resymau. Mae ail adrodd geiriau yn helpu i wneud i bethau aros yn y cof yn well.

"Mi wnes orffen y cwrs cyfan ar 么l tua dwy flynedd. Nawr rwyf yn ei ddefnyddio i adolygu ac i atgoffa fy hun o batrymau gwahanol, felly nid wyf yn anghofio'r eirfa.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Aled Roberts yn ymwybodol o "apiau gwych sydd ar gael, sy'n ffordd wahanol i ddysgu'r iaith ac sy'n ffitio fewn gydag amserlenni prysur pobl"

Fe wnaeth Duolingo lansio'r cwrs Cymraeg cyntaf yn 2016 ac mae 1.2m o bobl wedi cael mynediad ato ers hynny.

Dywedodd Richard Morse o Gwmbr芒n, wnaeth helpu i ysgrifennu'r cwrs fel gwirfoddolwr, fod rhai ysgolion nawr yn defnyddio'r ap.

"Mae'n effeithiol iawn, mae'n ffordd ddiddorol i ddysgu rhywbeth," meddai.

Ychwanegodd Mr Morse nad oedd y cwrs Cymraeg "ddigon soffistigedig" i olygu bod defnyddwyr yn gallu siarad i mewn i'r ff么n.

Ond dywedodd ei fod yn "declyn arbennig os yr ydych yn defnyddio ffyrdd eraill o ddysgu".

'Caru dysgu iaith'

Dywedodd rheolwr Duolingo yn y DU, Colin Watkins: "Ein nod yw annog pobl i garu dysgu iaith."

Ychwanegodd fod mis Medi fel arfer yn fis tawel, a'u bod yn gweld mwy o bobl eisiau dysgu ieithoedd fel Cymraeg yn y gaeaf.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts ei fod yn ymwybodol o "apiau gwych sydd ar gael, sy'n ffordd wahanol i ddysgu'r iaith ac sy'n ffitio fewn gydag amserlenni prysur pobl".

Ychwanegodd Mr Roberts mai'r "peth pwysicaf yw cynnig cyfleoedd i bobl ddysgu'r iaith".