成人快手

Wyddoch chi... am fras Pontllanfraith?

  • Cyhoeddwyd
GossardFfynhonnell y llun, 漏 David Hurn/MAGNUM PHOTOS/Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd ffatri Gossard ei gau yn 2001

Am dros ganrif, roedd dillad isaf safonol yn cael eu creu mewn ffatr茂oedd yn ne Cymru... a nawr mae ymgyrch i geisio dod 芒'r diwydiant yn 么l.

Ar un adeg roedd chwe ffatri fawr yn y Cymoedd - yn Aberbargoed, Ystalyfera, Rhymni, Pontllanfraith, Glyn Ebwy a Merthyr Tudful - yn cynhyrchu dillad isaf ar gyfer rhai o'r cwmn茂oedd lingerie mwyaf poblogaidd, ond o un i un, cau oedd hanes y ffatr茂oedd.

Pan gafodd ffatri Gossard - a oedd yn cynhyrchu'r Wonderbra - ei gau ym Mhontllanfraith yn 2001, symudodd cyn-aelod o staff y peiriannau i ffatri yn Nhredegar Newydd a sefydlu cwmni AJM.

Roedd gan y cwmni gytundeb llewyrchus gyda'r cwmni dillad isaf moethus, Agent Provocateur, ond yn anffodus, cafodd y ffatri yntau ei gau yn 2018, a dyna oedd y diwedd ar gynhyrchu dillad isaf yn yr ardal.

Ffynhonnell y llun, Community Clothing/Chris Floyd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Kiri Pritchard-McLean

Fodd bynnag, heddiw, mae'r dylunydd dillad a beirniad The Great British Sewing Bee, Patrick Grant - gyda help ambell i seleb Cymreig, fel y cyflwynwyr Kiri Pritchard-McLean a Wynne Evans - eisiau dod 芒'r niceri a bras yn 么l i'r ardal.

Nod y cwmni Community Clothing yw i gynyddu cynhyrchu dillad mewn ffatr茂oedd ledled y DU. Mae Patrick yn awyddus i weld y diwydiant creu dillad isaf o safon yn dychwelyd i'r Cymoedd unwaith eto, gan ail-agor ffatri Tredegar Newydd, a rhoi cyfle i rai o'r gwniadwyr a gollodd eu swyddi ddegawdau yn 么l i ail-gydio yn y peiriant gwn茂o.

Ac, wedi dwyn ysbrydoliaeth gan ymgyrch 'Hello Boys' Wonderbra ddechrau'r 90au, enw'r ymgyrch yma, wrth gwrs yw Hello Boyos!

Disgrifiad,

Golygfa anghyfarwydd bellach... Cafodd ffatr茂oedd Berlei yng Nglyn Ebwy a Merthyr Tudful eu cau yn Ionawr 1986

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig