³ÉÈË¿ìÊÖ

Humza Yousaf i olynu Nicola Sturgeon fel arweinydd yr SNP

  • Cyhoeddwyd
Humza YousafFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Humza Yousaf yw'r Mwslim cyntaf i arwain un o'r prif bleidiau yn y DU

Humza Yousaf sydd wedi'i ethol i fod yn arweinydd newydd Plaid Genedlaethol Yr Alban - yr SNP.

Fe wnaeth Mr Yousaf drechu Kate Forbes ac Ash Regan yn y ras i olynu Nicola Sturgeon, a gyhoeddodd fis Chwefror ei bwriad i adael y rôl.

Mr Yousaf, 37, yw'r Mwslim cyntaf i arwain un o'r prif bleidiau yn y DU.

Mae disgwyl iddo gael ei ethol yn Brif Weinidog Yr Alban gan aelodau Holyrood ddydd Mawrth.

Mr Yousaf ydy ysgrifennydd iechyd Yr Alban ar hyn o bryd, ac er na wnaeth Ms Sturgeon roi ei chefnogaeth i'r un ymgeisydd, y gred yw mai Mr Yousaf fyddai hi wedi'i ffafrio i'w holynu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ash Regan, Humza Yousaf a Kate Forbes oedd y tri yn y ras i olynu Nicola Sturgeon fel arweinydd yr SNP

Fe wnaeth y Prif Weinidog Mark Drakeford longyfarch yr arweinydd newydd ar Twitter, gan ddweud ei fod yn "edrych ymlaen at gydweithio yn y dyfodol ar y materion ry'n ni'n eu rhannu ac i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu ni oll".

"Pob hwyl yn y swydd newydd," ychwanegodd.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Mark Drakeford

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Mark Drakeford

Mewn datganiad ar y cyd fe wnaeth Adam Price a Liz Saville Roberts o Blaid Cymru hefyd ddymuno'n dda i Mr Yousaf.

"Gwyddom y bydd Humza yn adeiladu ar waith diflino ei ragflaenydd, Nicola Sturgeon, drwy roi tegwch a chyfiawnder cymdeithasol wrth galon cenhadaeth Llywodraeth Yr Alban," meddai'r datganiad.

"Wrth i Lywodraeth San Steffan barhau i wadu i bobl Yr Alban eu hawl democrataidd i hunanbenderfyniad, mae'n bwysicach nag erioed bod gan Yr Alban brif weinidog sy'n gryf o ran argyhoeddiad ac yn glir o ran gweledigaeth.

"Mae'r berthynas rhwng ein pleidiau wedi bod yn gryf erioed, ac edrychwn ymlaen at weld y berthynas hon yn mynd o nerth i nerth wrth inni barhau i gyflwyno'r achos dros annibyniaeth i'n cenhedloedd."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Nicola Sturgeon gyhoeddi fis diwethaf ei bwriad i adael y rôl

Mr Yousaf oedd y ffefryn i ennill y bleidlais ymysg aelodaeth y blaid.

Roedd yn cael ei ystyried fel yr ymgeisydd i barhau â gweledigaeth Ms Sturgeon, ac wedi dweud y bydd yn bwrw ymlaen â'r trefniant cyd-lywodraethu â'r Gwyrddion yn Holyrood.

Ond roedd ei record weinidogol wedi bod yn destun beirniadaeth lem gan gyd-ymgeiswyr a gwrthwynebwyr dros y mis a hanner diwethaf.

Disgrifiad o’r llun,

"Humza Yousaf yw'r unig un sy'n gallu cadw'r brand blaengar," medd Gwion Rhisiart, sy'n fyfyriwr yn Glasgow

I Gwion Rhisiart, sy'n fyfyriwr blwyddyn gyntaf yn Glasgow ac yn aelod o'r SNP ers mis Medi, Mr Yousaf oedd yr unig opsiwn i'r blaid.

"Humza Yousaf yw'r unig un sy'n gallu cadw'r brand blaengar sydd gyda ni fel plaid a sydd gyda ni fel mudiad, a dyna beth sydd wedi arwain at ein twf enfawr ni dros y blynyddoedd diwethaf," meddai.

"Os ni'n colli hwnna ni'n colli'r mudiad a does dim annibyniaeth wedyn."

'Ni fydd y genhedlaeth i ennill annibyniaeth'

Yn ei araith ar ôl cael ei ethol yn arweinydd dywedodd Mr Yousaf y byddai annibyniaeth yn cael ei sicrhau "ar y stepen drws", gan ychwanegu: "Ni fydd y genhedlaeth fydd yn ennill annibyniaeth i'r Alban."

Fe wnaeth Ms Sturgeon gyhoeddi fis diwethaf ei bwriad i adael y rôl, wedi wyth mlynedd fel arweinydd yr SNP a Phrif Weinidog Yr Alban.

Dyma oedd y tro cyntaf i'r SNP gael ras am arweinyddiaeth ers 2004, am nad oedd gan Ms Sturgeon wrthwynebydd wrth iddi olynu Alex Salmond yn 2014.

Pynciau cysylltiedig