成人快手

Llythyr Owain Glynd诺r yn 'brofiad emosiynol' i Mark Drakeford

  • Cyhoeddwyd
DrakefordFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Prif Weinidog ar ymweliad i Ffrainc cyn g锚m Cymru yn y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn

Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn "brofiad eithaf emosiynol" i weld llythyr a ysgrifennwyd gan Owain Glynd诺r dros 600 mlynedd yn 么l.

Yn ystod ymweliad 芒 Ffrainc, bu'r Prif Weinidog yn gweld Llythyr Pennal yn archifau cenedlaethol Ffrainc ym Mharis.

Cafodd y llythyr ei ysgrifennu gan Owain Glynd诺r ym Mhennal yn 1406 a'i anfon i'r Brenin Charles VI o Ffrainc.

Dywedodd Mark Drakeford ei bod hi'n "brofiad ffantastig i weld dogfen allweddol yn hanes Cymru".

"Roedd yn hollol anhygoel i fod yno gyda'r ddogfen ei hun, fel y byddai pobl wedi'i weld 600 a mwy o flynyddoedd yn 么l," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mr Drakeford fod y llythyr yn dal i fod yn bwysig i Gymru heddiw

"Ac mewn ffordd roedden i heb ei ddisgwyl, roedd yn brofiad eithaf emosiynol i feddwl eich bod yn bresennol yn yr ystafell gyda dogfen a oedd yn ganolog i hanes Cymru, ac oedd yn ddarn o beth roedd yn ei olygu i fod yn Gymry, ac roedden i'n wir ddiolchgar i'r awdurdodau Ffrengig.

"Beth mae'n ei olygu i mi yng Nghymru heddiw yw ein bod yn genedl Ewropeaidd bryd hynny, ac mae'r perthnasau yna'n parhau i fod yn bwysig iawn i ni yn amgylchiadau'r Gymru gyfoes."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu Owain Glynd诺r yn gwrthryfela yn erbyn Henry IV yn y 1400au

Yn y llythyr roedd Owain Glynd诺r yn amlinellu ei gynlluniau am Gymru annibynnol, gan ddweud y byddai'n fodlon cydnabod Benedict XIII fel y Pab er mwyn ennill cefnogaeth Ffrainc.

Roedd hefyd yn s么n am ei obaith i sefydlu eglwys annibynnol a dwy brifysgol yng Nghymru.

Cafodd y llythyr ei ysgrifennu yn 1406, yn dilyn chwe blynedd o wrthryfel Owain Glynd诺r yn erbyn rheolaeth Lloegr.

Roedd wedi bod yn gymharol lwyddiannus wrth ennill brwydrau yn gynharach yn y gwrthryfel, ac roedd y llythyr yn rhan o ymgais i sicrhau rhagor o gefnogaeth o'r cyfandir.

Ond o fewn ychydig flynyddoedd roedd y gwrthryfel ar ben, a Glynd诺r wedi ffoi i guddio rhag cael ei ddal gan y Saeson.