成人快手

Eisteddfod: Lansio Prifwyl 2024 yn Rhondda Cynon Taf

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Treorci
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Treorci yn f么r o faneri Cymru wrth i'r ardal baratoi i groesawu'r Eisteddfod flwyddyn nesaf

Mae Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf wedi ei lansio mewn g诺yl arbennig yn Nhreorci.

Gyda'r bwriad o gynnig blas o'r hyn sydd i'w ddisgwyl ym Mhrifwyl 2024, dyma fydd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf yn yr ardal ers 1956.

Wrth ledaenu'r neges, dywed y trefnwyr eu bod wedi gweithio gyda pherfformwyr, artistiaid a grwpiau cymunedol ar draws y sir er mwyn creu rhaglen arbennig.

Nos Sadwrn roedd y digwyddiad i gynnwys gig gan y band roc, Y Candelas.

Ond roedd cydnabyddiaeth hefyd y byddai'r broses o gasglu arian "yn heriol" yn sgil yr argyfwng costau byw.

'Eisteddfod yn perthyn i ni gyd'

Dywedodd cadeirydd Pwyllgor Gwaith fod yr 诺yl yn nodi dechrau'r gwaith paratoi ar gyfer yr Eisteddfod, sy'n dychwelyd i'w gwreiddiau, gan i'r 诺yl fodern gyntaf gael ei chynnal yn Aberd芒r yn 1861.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Helen Prosser: "Mae gennym ni ddigonedd o waith i'w wneud dros y deunaw mis nesaf"

Ond cadarnhaodd hefyd nad oes penderfyniad wedi'i wneud eto ar union leoliad y brifwyl.

"Ein prif neges wrth i ni lansio'r prosiect yw fod yr Eisteddfod yn perthyn i ni i gyd," meddai Helen Prossser.

"Rydyn ni am i bawb ymuno 芒 ni, yn ddysgwyr, siaradwyr Cymraeg hyderus a phawb sydd wedi colli cysylltiad gydag ein hiaith ers yr ysgol neu sydd heb gael cyfle i ddysgu.

"Mae gennym ni ddigonedd o waith i'w wneud dros y deunaw mis nesaf, yn trefnu cystadlaethau, hyrwyddo'r 诺yl a chodi arian, ac rydyn ni eisiau i bobl o bob cymuned, pentref a thref ar draws y tri chwm i fod yn rhan o'r paratoadau."

Ychwanegodd, "'Da ni'n disgwyl cael gwybod [y lleoliad] erbyn yr haf.

"Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yw hi, 'da ni yn Nhreorci heddi, bydd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf ym Mhontypridd, bydd y cyhoeddi yn Aberd芒r felly yn ni'n defnyddio'r ardal gyfan."

Argyfwng costau byw

Serch hynny, roedd cydnabyddiaeth y byddai'r broses o arian yn "heriol", gan "nad yw hi'r ardal gyfoethocaf a does na ddim traddodiad o Eisteddfod yno chwaith".

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, fod y syniad o Eisteddfod deithiol hefyd yn cynnig cyfleoedd i ardal fel y Rhondda "fod ar y llwyfan cenedlaethol rhyngwladol".

"Mae'r ardal yma wirioneddol ar dan ishe' datblygu cyfleoedd i bobl i godi arian. ond hefyd i ddod at eu gilydd," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Betsan Moses: "Mae'r daith hyd at yr 诺yl gyn bwysiced a'r 诺yl ei hun."

"Mi ydan ni mewn argyfwng costau byw a dyna pam mae angen edrych ar sut mae codi hwyl yn ogystal a chodi arian.

"Mae'r daith hyd at yr 诺yl gyn bwysiced a'r 诺yl ei hun."

Ychwanegodd, "Mae dod i ardal fel hyn yn holl bwysig, mae'n rhoi cyfleoedd i bobl glywed y Gymraeg ac i ymarfer.

"Mae'n ardal glos iawn... wrth gwrs mae'n dalcen caled ond dyna pan ry' ni'n gweithio gyda'r cyngor sir ac yn edrych ar y cyfleoedd."

Pynciau cysylltiedig