成人快手

Aled Glynne Davies: 'Golygydd mwyaf beiddgar Radio Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Aled Glynne Davies pan yn iau
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu Aled Glynne Davies yn olygydd 成人快手 Radio Cymru rhwng 1995 a 2006

Dydw i ddim yn cofio rhyw lawer am fy nyddiau cyntaf yn yr ysgol fach, ond rwyf yn cofio bachgen bochgoch 芒 gw锚n barod yn dod ataf ar iard Bryntaf ac yn cynnig bod yn ffrindiau.

Ei enw oedd Aled Glynne Davies, a nes i'w deulu symud i'r gogledd fe oedd fy ffrind gorau.

Ar 么l hynny, fel sy'n digwydd yn y Gymru Gymraeg, roedd bywydau Aled a minnau yn cyffwrdd 芒'i gilydd yn weddol rheolaidd ar hyd y blynyddoedd a'r degawdau.

Roedd Aled yn gwahodd gwrandawyr i "Fynd am sbin 'da Aled Glynne" tra roeddwn innau am i wrandawyr y brifddinas "Cadw Cwmni" i mi ar Ddarlledu Caerdydd.

Yn ddiweddarach bu'r ddau ohonom yn gweithio gyda'n gilydd ar wasanaeth newyddion y 成人快手 gan fwynhau'r gwatwar a'r tynnu coes, yn enwedig pan oedd Aled yn ffonio ei 'fabi del', Afryl.

Yn fwy diweddar byth roeddwn yn ei weld bob bore Sul wrth iddo yntau ac Afryl geisio saern茂o rhaglen ar Radio Cymru fyddai'n dwgyd fy ngwrandawyr o Radio Wales. Roedd y gystadleuaeth yn ffyrnig ond bob tro yn gyfeillgar!

Trawsnewid cawlach o raglenni hen ffasiwn

Mae'r newyddion ein bod wedi ei golli yn dorcalonnus - i'w deulu yn fwy na neb ond llu o gyfeillion a chydweithwyr oedd wedi mwynhau mynd am sbin ar hyd y blynyddoedd.

Pe bawn i'n gorfod dewis un ansoddair i ddisgrifio Aled, caredig fyddai hwnnw - ond y tu 么l i'r w锚n roedd ganddo asgwrn cefn o ddur.

Ef, heb os, oedd golygydd mwyaf beiddgar Radio Cymru gan drawsnewid cawlach o raglenni hen ffasiwn yn orsaf fodern, lyfn, tebyg iawn i'r hyn yw hi heddiw.

Roedd angen dewrder i wneud hynny yn wyneb adwaith ffyrnig gan wrandawyr traddodiadol yr orsaf ond roedd Aled yn ddi-droi'n 么l.

A nawr mae e wedi ein gadael.

Does dim geiriau mewn gwirionedd all gyfleu'r galar mae'n gadael ar ei 么l.

Fe ddaw'r amser i ofyn "pam" a "sut" ond, am nawr, y cyfan sydd i'w wneud yw cofio gw锚n a haelioni g诺r wnaeth oleuo cymaint o fywydau.