Rosh Hashanah: Dathlu g诺yl Iddewig mewn teulu aml-ffydd
- Cyhoeddwyd
Pan ry'ch chi'n priodi rhywun sydd ddim o'r un crefydd a chi, mae 'na benderfyniadau i'w gwneud sydd ddim dan ystyriaeth gan gyplau eraill.
Pan oedd hi'n dod i fagu plant, daeth Si么n a Zo毛 Tudur o Gaerdydd i gyfamod - byddai'r plant yn cael eu magu'n Iddewon, a hefyd yn siarad Cymraeg.
Wrth baratoi i ddathlu un o wyliau pwysica'r calendr Iddewig, Rosh Hashanah, mae Si么n yn dweud wrth raglen Bwrw Golwg ar 成人快手 Radio Cymru bod ymuno 芒 chymuned Iddewig Caerdydd wedi bod yn bleser.
"Dwi wedi cael croeso twymgalon iawn yn y synagog yng Nghaerdydd," meddai.
"Bob tro, mae 'na groeso cynnes iawn i fi a dwi wedi cael lot o hwyl yn magu fy mhlant yn Iddewon."
'Gweld llawer o ffrindiau'
I Beti, 9, a Hari, 12, mae Rosh Hashanah yn gyfnod pwysig.
"Mae Rosh Hashanah yn golygu Pen y Flwyddyn ac mae'r 诺yl yn dathlu y flwyddyn newydd," medd Hari.
"Dwi'n hoffi'r 诺yl yn fawr gan ei fod o'n gyfle i weld llawer o ffrindiau sy' ddim yn dod i'r synagog fel arfer."
"Ar adeg Rosh Hashanah ry'n ni'n dweud wrth ein gilydd, 'Chag sameach'," medd Beti. "Dan ni'n dweud gwedd茂au arbennig.
"Dim ond merched sy'n cael dweud y fendith dros y canhwyllau gan mai r么l merched yw croesawu'r 诺yl i fewn."
Eleni, mae Rosh Hashanah yn cychwyn nos Sul ac yn gorffen nos Fawrth. Mae fel arfer yn digwydd ym mis Medi neu Hydref yn dibynnu ar y calendr Iddewig.
Bydd Hari a Beti yn cael diwrnod o wyliau o'r ysgol i fynd i'r synagog ddydd Llun lle bydd gwasanaethau arbennig.
Beth yw shofar?
"Mae'r Rabbi yn chwythu'r shofar," medd Beti. "Corn dafad neu corn gafr yw shofar. Mae'n gallu bod yn lliwiau gwahanol ac mae rhai yn hir a rhai yn gyrliog ac mae'n neud s诺n mawr."
Mae Hari'n egluro bod chwythu'r shofar yn symbol i alw pobl i'r synagog, ac yn arwydd ei bod hi'n amser deffro ar gyfer y flwyddyn newydd.
Un peth mae'r plant yn siomedig yn ei gylch yw bod eu gwersi Hebraeg yn y synagog yng Nghaerdydd wedi dod i ben.
"Roedden ni arfer mynd i'r synagog i ddysgu Hebraeg ond nawr gan nad oes digon o niferoedd plant naethon nhw stopio ym mis Medi a heb ail-gychwyn. Ond pan oedd Mam yn iau roedd 'na ddegau o blant."
Nifer Iddewon Caerdydd yn gostwng
Cafodd eu mam, Zo毛 Tudur, ei geni a'i magu yng Nghaerdydd ac mae hi wedi gweld niferoedd yn y synagog yn gostwng yn sylweddol.
"Beth sydd wedi digwydd gyda fy nghenhedlaeth i yw bod llawer wedi mynd i ffwrdd i'r brifysgol a heb ddod n么l. Mae'n drist," medd Zo毛.
Ond fel eu tad, mae'r plant yn edrych mlaen at rannu llawer o'r bwyd traddodiadol sydd yn cael ei fwyta ar adeg Rosh Hashanah,
"Fi'n really edrych mlaen," medd Beti. "Ni fel arfer yn bwyta cacen m锚l a bwyd melys.
"Mae fel symbol y bydd hi'n flwyddyn felys newydd. Ni'n rhoi afalau mewn m锚l ac mae'n blasu wir yn neis!"
Ddeg diwrnod wedi Rosh Hashanah, mae un o ddyddiau mwyaf sanctaidd yr Iddewon, Yom Kippur.
"Mae'n ddiwrnod i ddweud sori am y pethau drwg chi 'di neud yn ystod y flwyddyn," medd Hari.
"Am y diwrnod cyfan - chi'n ymprydio am 25 awr a rhoi eich holl sylw ar Dduw a dweud sori a gwedd茂o drwy'r dydd."
Mae Si么n yn dweud bod magu ei blant fel Iddewon yn teimlo yn gwbl naturiol.
"Ges i'n magu yn y ffydd Gristnogol. Roedd fy nhad yn weinidog. Mae'n gwbl naturiol i fi arddel ffydd mewn cartref. Yr unig wahaniaeth yw bod o'n ffydd gwahanol."
Dim ond gwyliau Iddewig mae'r teulu yn eu dathlu, ond maen nhw'n mynd at deulu Si么n i ddathlu dydd Nadolig, ac i gapel Ebeneser yng Nghaerdydd lle mae ei ewythr yn weinidog.
"Dan ni'n deulu aml-ffydd - dan ni'n dathlu gwyliau Iddewig yma. Ond 'ma 'na gydnabyddiaeth nad ydw i'n Iddew a mod i'n Gristion a bod hynny yn rhan hanfodol o 'modolaeth i ac yn rywbeth na fasen i'n dymuno'i newid."
Mae Si么n fel gweddill y teulu, yn edrych ymlaen at ddathlu Rosh Hashanah eleni.
"Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at y cacennau, a'r mel a'r bwyd melys i gyd - wrth gwrs!"
Mae modd gwrando ar y stori'n llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg ac yna ar 成人快手 Sounds.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2015