成人快手

Help i ffoaduriaid yng Nghymru 'ddim yn bodoli'

  • Cyhoeddwyd
Olga Samsonenko
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe adawodd Olga Samsonenko ei chartref yn Kyiv wedi i Rwsia ymosod ar Wcr谩in ddiwedd Chwefror

Mae un fam sydd wedi ffoi i dde Cymru rhag y rhyfel yn Wcr谩in wedi beirniadu'r oedi wrth brosesu ceisiadau i fyw a gweithio yma.

Fe adawodd Olga Samsonenko ei chartref yn Kyiv gyda'i merch Alexa, 8, wedi i Rwsia ymosod ddiwedd mis Chwefror.

Gymerodd hi dridiau iddyn nhw adael Wcr谩in ac wythnos a hanner arall i gael dod i Gastell-nedd Port Talbot i fyw gyda'i chwaer dan gynllun teuluoedd Wcr谩in Llywodraeth y DU.

Mae'n dweud i'r teulu gael croeso cynnes iawn yng Nghymru, a'i bod hi'n gwerthfawrogi cefnogaeth y gymuned leol yn fawr.

"Rydyn ni wedi cael cymaint o gefnogaeth gan bobl Cymru," dywedodd wrth Newyddion S4C.

"Rwy' wir yn gwerthfawrogi y cymorth rwy' wedi derbyn. Rwy' wedi cwrdd 芒 nifer o ffrindiau yma, cymaint sydd am ein helpu ni, nid yn unig wrth eu geiriau ond hefyd drwy wneud.

"Rwy'n hynod ddiolchgar i bobl Cymru am bopeth."

'Mecanweithiau perthnasol' ddim mewn lle

Ond ers iddi gyrraedd Cymru ar 14 Mawrth, mae Olga yn dweud ei bod hi'n methu agor cyfrif banc, derbyn budd-daliadau na dechrau chwilio am waith.

"Does dim cyfrif banc gyda fi [y gallaf gael mynediad iddo fe yma]. Dyw'r banc heb gael cyfarwyddiadau digonol - maen nhw am helpu ond dy'n nhw methu, dyw'r mecanweithiau perthnasol ddim ganddyn nhw i roi cymorth i fi."

Ffynhonnell y llun, EPA

"Mae'n rhaid i fi aros. Mae angen cadarnhad derbyn Credyd Cynhwysol arna'i yn y lle cyntaf. Rwy wedi derbyn BRP [trwydded preswyl biometrig] a rhif Yswiriant Gwladol, ond dim ond drwy help fy nheulu.

"Ry'n ni angen cyfarwyddiadau clir. Am nawr, dyw hynny ddim yn bodoli. Dyw'r bobl yn y ganolfan waith ddim yn gwybod beth i'w wneud gyda ni.

"Does dim cyfarwyddiadau na mecanweithiau ganddyn nhw. Dy'n nhw methu helpu ar hyn o bryd. Mae'n cymryd amser i greu'r rheiny."

Menyw fusnes yw Olga. Er bod hi'n anodd iawn i'r cwmni barhau i weithredu yn Kyiv, mae ei gwr, sydd yn dal i fod yn Wcr谩in, yn rheoli'r busnes ac yn sicrhau bod rhyw 100 o staff yn dal i dderbyn cyflog.

Ond wedi ffoi, mae Olga yn cyrraedd pen ei thennyn gyda biwrocratiaeth sydd yn rhwystr iddi ymdreiddio'n llawn i'r gymuned.

"Rwy'n ceisio ffindio fy hunan a byw yma.

"Dwi ddim am fod yn faich. Dwi ddim am fod yn ffoadur mae Llywodraeth y DU yn talu i gadw yma. Rwy' wedi arfer a bod yn fenyw fusnes gartref, rwy' am wneud yr un fath yma."

Dechrau yn yr ysgol

Dechreuodd Alexa astudio mewn ysgol gynradd leol yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd camer芒u Newyddion S4C ganiat芒d arbennig i ddilyn Alexa i'r ysgol, ond ar gais yr awdurdod lleol, dydyn ni ddim yn enwi'r ysgol am resymau diogelwch.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Alexa bellach yn mynychu'r ysgol yng Nghymru

Dywedodd Alexa ei bod hi yn setlo'n dda yn yr ysgol, gan fwynhau mathemateg, darllen a Saesneg yn ogystal 芒 chwarae gyda'i ffrindiau newydd.

Mae ei mam yn ddiolchgar am y croeso mae'r teulu wedi derbyn, yn cynnwys cerdyn gan bob disgybl yn y dosbarth a nodyn a ffotograff gan aelodau staff i gyflwyno'u hunain.

Rhoddodd sawl aelod o staff a rhieni ddillad i'r teulu.

Dydd Gwener ddiwethaf, dderbyniodd Olga ebost yn cadarnhau nad yw Alexa yn gymwys i dderbyn cinio ysgol am ddim gan nad yw hi'n derbyn budd-daliadau nac ag incwm blynyddol yn llai na 拢16,190.

Er gwaethaf cofrestru i dderbyn Credyd Cynhwysol er mwyn gallu dechrau chwilio am waith, mae wedi dweud na fydd hi'n derbyn ceiniog tan 25 Ebrill - bron i fis a hanner ers cyrraedd yma.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Aled Edwards: "Rhaid i ni ddeall bod yr her yn enfawr i'r awdurdodau"

Yn 么l Aled Edwards sydd yn aelod o dasglu Llywodraeth Cymru ar ffoaduriaid: "Dyw hyn ddim yn fy synnu o gwbl.

"Mae 'na her wedi bod yn y gorffennol 'efo cynllun ffoaduriaid o Syria, yn yr un modd rhai o Afghanistan a bellach o Wcr谩in.

"Dwi'n credu i ryw raddau bod rhaid i ni ddeall bod yr her yn enfawr i'r awdurdodau.

"Mae'n drist bod pobl yn cael rhwystredigaeth yn nhermau y rhyddid i wneud pethau drostyn nhw eu hunain, a dyna mae'n debyg yw'r prif nod o roi modd ariannol iddyn nhw. Y cynta'n y byd mae hynny'n cael ei wneud, gorau yn y byd."

'Cynlluniau hael'

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Adran Waith a Phensiynau Llywodraeth y DU: "Mae gan y rheiny sydd wedi dod i'r Deyrnas Unedig drwy gynlluniau Cartrefi i Wcr谩in a Chynllun teuluol Wcr谩in yr hawl i aros yma am dair blynedd, a chael mynediad llawn i weithio, astudio a hawlio budd-daliadau.

"Gallant wneud cais am Gredyd Cynhwysol o'r diwrnod cyntaf a does neb wedi gorfod aros pum wythnos am daliad cyntaf.

"Bydd pobl sydd yn rhan o'r cynllun hefyd yn cael taliad ychwanegol o 拢200 tra bod eu cais am Gredyd Cynhwysol yn cael ei brosesu.

"Gyda'i gilydd, mae ein cynlluniau hael yn un o'r cynlluniau cyflymaf a mwyaf o ran rhoi fisas yn hanes y DU, gyda dros 29,000 fisa wedi eu rhoi, a disgwyl miloedd yn rhagor."