³ÉÈË¿ìÊÖ

'C’mon Midffîld a Braveheart': Cofio Tarw Nefyn a thîm Nantlle Vale

  • Cyhoeddwyd
Idris Evans a Taro NefynFfynhonnell y llun, Nantlle.com/llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Idris Evans ac Orig Williams - dau amddiffynnwr caled

Byddai rhai o hanesion Tarw Nefyn a thîm Nantlle Vale yr 1960au wedi gallu dod yn syth o sgript C'mon Midffîld.

Y cymeriadau, y tynnu coes, y cardiau coch a'r troeon trwstan: fel y stori am gôl-geidwad Coleg Bangor yn cael andros o gêm dda, tan i'w sbectol 'ddisgyn' i'r llawr ar ôl i chwaraewr-rheolwr y Vale, Orig Williams, neidio gydag o am y bêl - a Tarw Nefyn (neu Orig medd rhai…) yn sathru arni.

Pwy bynnag roddodd ei droed ar y sbectol, fe sgoriodd Nantlle Vale sawl gwaith wedi hynny.

Gyda'r newyddion am farwolaeth Idris 'Tarw Nefyn' Evans, yn 91 oed, mae'r atgofion wedi bod yn llifo am gyfnod pan oedden nhw yn y penawdau yn gyson - a ddim bob tro oherwydd y pêl-droed.

Disgrifiad,

Adroddiad rhaglen Heddiw o Benygroes yn 1968 yn gofyn os mai tîm caled neu fudur oedd Nantlle Vale

Fel mae ei lysenw yn awgrymu, doedd Tarw Nefyn ddim ofn taclo'n galed.

Plastrwr o Ben Llŷn oedd o, ac yn yr 1950au roedd wedi creu partneriaeth gadarn gydag Orig Williams yng nghanol amddiffyn Pwllheli. Dyma dîm cyn-amddiffynnwr Cymru ac arwr Everton Tommy TG Jones, felly roedd y ddau wedi datblygu eu dealltwriaeth o'r gêm drwy chwarae gydag un o sêr y byd pêl-droed.

Pan wnaeth Orig Williams, oedd ei hun yn gyn-chwaraewr proffesiynol gydag Oldham Athletic, gymryd yr awenau yn Nantlle Vale aeth Idris gydag o gan ddechrau adeiladu tîm ddaeth yn rhan o chwedloniaeth pêl-droed Gogledd Cymru.

Roedd yn dîm o Gymry Cymraeg, oedd yn cael eu harwain gan reslar, ddaeth yn adnabyddus am fod yn dîm caled - gyda'r holl chwaraewyr unwaith yn cael eu gyrru oddi ar y cae.

Ffynhonnell y llun, British Library
Disgrifiad o’r llun,

Adroddiadau papurau newydd y cyfnod... a nid y pêl-droed oedd yn cael y penawdau bob tro...

"Doedda ni ddim yn famous - infamous oedda ni," meddai Pete 'Coch' Roberts, oedd dal yn Ysgol Dyffryn Nantlle pan gafodd yr alwad i fod yn rhan o'r tîm.

"Ro'n i tua 16 neu 17, ac wedi cael call up i'r tîm cynta'. Roedd rhan fwya' yn eu late 20s, felly i fi adeg hynny roeddan nhw'n hen.

"Tîm o hogia' lleol oeddan ni, Cymry i gyd wrth reswm, a phawb yn tynnu eu pwysa' - ac os oedda chdi ddim yn tynnu pwysa' roedda chdi'n cael peltan half time - peltan go iawn.

"Roedd gen ti back four cryf. Fasa neb yn cael pasio Orig. A Tarw Nefyn… roedd o'n beryg bywyd! Ond roeddan nhw'n ddyddiau entertaining iawn i'r crowd, ac roedd 'na hwyl i'w gael."

Ffynhonnell y llun, CPD Nantlle Vale/Nantlle.com
Disgrifiad o’r llun,

Y tîm yn chwarae oddi-cartref yng Nghae Clud, Blaenau Ffestintiog, ddiwedd yr 1960au. Yn y rhes gefn (chwith i'r dde): Now Parry, Idris 'Tarw Nefyn' Evans, Wyn Dunn, Brian Dobing, Hefin 'Gasgan' Jones, Robin Ken Thomas, John Bryant; rhes flaen: Pete 'Coch' Roberts, Aled Hughes, Guido Casale, Gwyn 'Bull' Jones, Dic Parry. Doedd Orig Williams ddim yn chwarae yn y gêm

  • Gwrandewch ar Now Parry yn hel atgofion o'r cyfnod ar raglen Ar y Marc ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru.

Un o'r cefnogwyr oedd yn dilyn y tîm oedd Ieuan Parry o Benygroes. Roedd o'n hogyn ysgol ar y pryd a flynyddoedd wedyn fe ysgrifennodd deyrnged i Orig Williams pan fu farw yn 2009:

"Roeddan ni'n darllen rhagolygon y gemau yn y Caernarfon and Denbigh bob wythnos, er mwyn gweld pwy oedd yn chwarae a phwy oedd wedi cael ei 'sysbendio'. Dwi'n cofio unwaith pawb yn rhyfeddu clywed bod Orig yn reslo yn yr Alban, ond ei fod o wedi trefnu i hedfan adra yn arbennig i chwarae i'r Vale ar y dydd Sadwrn.

"Roedd cael gweld Orig a'i dîm yn chwarae yn fwy na gweld gêm ffwtbol; roedd yn adloniant pur, yn well nag unrhyw ddrama. Roedd hi'n 'Ni yn erbyn Nhw' bob wythnos, a doedd neb yn gwybod be' oedd yn mynd i ddigwydd nesa'. Mi oedd cael mynd i gae'r Vale fel cymysgu C'mon Midffîld a Braveheart efo'i gilydd, a hynny am chwe cheiniog!"

Ffynhonnell y llun, CPD Nantlle Vale/Nantlle.com
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y tîm at ei gilydd ar gyfer rhaglen deledu flynyddoedd yn ddiweddarach

Un cefnogwr pêl-droed oedd heb ei eni ar y pryd ond sy'n falch o'i gysylltiad efo'r tîm ydi'r actor Llŷr Evans. Tarw Nefyn oedd ei ewythr.

"I fi, Yncl Idris oedd o," meddai. "Roedd o'n dynnwr coes. Dwi'n ffan Lerpwl, ac er bod o hefyd yn eu cefnogi nhw, roedd o bob tro'n tynnu'n nghoes i mod i'n ffan Lerpwl.

"Roedd o'n annwyl iawn, ac roedd 'na hwyl i'w gael. Ond roedd o hefyd y cult hero yma - fo oedd y person enwoca' yn y teulu a phobl yn deud amdana ni pan oeddan ni'n blant "o, Idris Evans ydi ei yncl o".

"Roeddet ti'n clywed y straeon amdano fo yn sefyll ar draed y goalkeeper pan oedd 'na corner a'r bêl yn dod mewn, neu'n anadlu ar sbectol y goalie fel bod o ddim yn gweld.

"Ganol yr 80au pan o'n i yn yr ysgol roedd llyfr Orig Williams wedi dod allan, felly pan oeddan ni'n chwarae pêl-droed, roedd pawb arall ar y cae isio bod yn Ian Rush a ballu, ond Tarw Nefyn o'n i."

Bydd angladd Idris Wyn Evans yn cael ei gynnal ar 27 Hydref.

Hefyd o ddiddordeb: