成人快手

Blatter, Alun Ffred a Nantlle Vale

  • Cyhoeddwyd
Llywydd Fifa Sepp BlatterFfynhonnell y llun, AFP

O'r holl straeon a ddaeth i'r amlwg dros y dyddiau diwethaf yngl欧n 芒 theyrnasiad amheus Sepp Blatter gyda Fifa, prin fod rhywun yn disgwyl i glwb p锚l-droed Nantlle Vale gael ei grybwyll yn eu mysg.

Nid y bwriad am eiliad ydi diystyru hanes balch a chyfoethog y clwb o Benygroes (hanes, wrth gwrs, sy'n cynnwys ymddangosiadau gan yr anfarwol Orig Williams a Tarw Nefyn), ond pam fyddai'r clwb yn dod at sylw dyn mwyaf pwerus y byd p锚l-droed?

Mae'r ateb yn dweud cyfrolau am y math o berson ydi Mr Blatter, a pham bod ei gyfnod fel llywydd Fifa, y corff sy'n rheoli p锚l-droed, wedi bod mor gadarn tan y diwrnodau diwethaf.

'Dipyn bach o sioc'

"O'n i'n digwydd bod yn Weinidog gyda chyfrifoldeb dros chwaraeon yn Llywodraeth Cymru ar y pryd," esboniodd Alun Ffred Jones, aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Arfon, wrth wefan Cymru Fyw am y noson yn 2010 pan gafodd sgwrs gyda Blatter.

"Mi oedd 'na gyfarfod yng Nghastell Caerdydd o'r pwyllgor sy'n penderfynu ar reolau p锚l-droed (IFAB) ac mi ges i wahoddiad.

"Roedd Sepp Blatter yno fel un o gynrychiolwyr Fifa a Michel Platini yno ar ran Uefa, ac mi o'n i'n mynd yno jyst i ddeud 'helo, sut ydach chi a chroeso i Gymru'.

"A doedd gan Platini ddim byd i'w ddweud wrth neb. Ac wedyn cyrhaeddodd Sepp Blatter, mi ddoth ata i a chyn ges i gyfle i ddweud dim byd jyst, dyma fo'n deud 'dw i'n deall eich bod chi'n gadeirydd clwb p锚l-droed'.

"Wel, mi oedd hyn yn dipyn bach o sioc i mi a nes i ruthro i ddweud mai clwb bach oedd Nantlle Vale, rhag ofn bod o wedi camddeall.

Ffynhonnell y llun, @NantlleValeFC ar twitter
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Does dim awgrym bod Clwb P锚l-droed Nantlle Vale wedi elwa'n ariannol o sgwrs Alun Ffred Jones gyda Sepp Blatter

"Ond doedd o ddim, oedd o'n gwybod yn iawn. Oedd o wedi gwneud ei waith cartref."

A dyna'n sicr yw un o gyfrinachau tu 么l i lwyddiant Blatter.

Roedd o'n gwybod sut i blesio pobl; gwybod sut i wneud ffrindiau gyda phobl mewn p诺er ac yn gwybod sut i wneud i'r bobl hynny deimlo'n bwysig.

"Be oedd yn fy nharo i oedd y ffordd oedd o'n gwenu arna i fel tasa fo wedi gweld hen ffrind," ategodd Alun Ffred.

"Ac os oedd o'n gwneud hynna i mi, a doedd dim gwerth iddo fo wneud hynny, fedrith rhywun dim ond dychmygu'r gwaith cartref mae o'n ei wneud ar y bobl mae o wir eisiau eu plesio, a'r rhoddion roedd o'n eu rhoi.

"Oedd pobl yn s么n am Bill Clinton yn mynd i mewn i ystafell llawn pobl ac yn mynd o gwmpas i sgwrsio gyda phawb - gwneud i chi deimlo'n bwysig. Mi oedd Blatter yn gwneud yr union r'un peth."

Nerth i nerth

Mae gallu Blatter i wneud ffrindiau gyda'r bobl gywir yn chwedlonol bellach.

Er yr holl honiadau o lwgrwobrwyo sydd wedi ei ddilyn ers blynyddoedd, mynd o nerth i nerth oedd Blatter yn y byd p锚l-droed.

Daeth hyn i'r amlwg saith diwrnod yn 么l pan gafodd y g诺r 79 oed ei ethol yn llywydd am y pumed tro yn olynol.

Ond mae'n debyg bod wythnos yn gyfnod yr un mor hir ym myd p锚l-droed ac ydi hi mewn gwleidyddiaeth.

Pedwar diwrnod ar 么l ei ethol, gyda honiadau o lwgrwobrwyo yn bygwth llyncu'r holl gorfforaeth, fe gyhoeddodd Blatter yn hollol ddirybudd ei fod yn bwriadu ymddiswyddo.

Ffynhonnell y llun, other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gw锚n deg fydda'r disgrifiad gorau o Sepp Blatter, meddai Alun Ffred Jones

O fewn 24 awr, daeth cadarnhad fod ei gyfnod fel llywydd Fifa, ddechreuodd n么l yn 1998, yn destun ymchwiliad troseddol gan swyddogion yr Unol Daleithiau.

Dipyn o gwymp i ddyn oedd i weld mor bwerus a thu hwnt i afael y gyfraith.

Cystal oedd gallu Blatter i oroesi unrhyw honiadau o dwyll a chamymddwyn fel y cafodd y llysenw Teflon Sepp. Dim ots pa scandal oedd yn ei ddilyn, doedd y cyhuddiadau ddim yn glynu.

Amser a ddengys beth sydd nesaf i'r Blatter a'i griw. Gyda phob diwrnod, daw mwy o dystiolaeth o bydredd Fifa.

Ond heb os, mi fydd Blatter yn barod i ateb bob cyhuddiad, yn hyderus a chyda gw锚n.

'Crisis Mr Picton!'

Ond er cystal y gwaith cartref cyn cyfarfod Alun Ffred Jones, fe fethodd yr ymchwilwyr nodi un o'i gysylltiadau amlwg arall gyda ph锚l-droed yn y briff.

Cyn mynd i'r byd gwleidyddol, roedd Alun Ffred, wrth gwrs, yn gyfrifol am un o hoff gomed茂au teledu a welodd cynulleidfa S4C erioed - y bytholwyrdd C'mon Midff卯ld.

O'r holl ddrwg mae Blatter wedi ei wneud drwy lusgo Fifa drwy'r mwd, mi fyddwn i'n fodlon maddau (bron) popeth taswn i'n gwybod fod o'n gwybod am helyntion George Huws, Wali Tomos ac Arthur Picton.

Mae un peth yn sicr, mi fydda un o hoff linellau Wali wedi bod yn addas iawn i Sepp druan wrth ystyried ei dynged ddiweddar..."Crisis Mr Picton!".

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Wali Tomos ac Arthur Picton o gyfres C'mon Midff卯ld