³ÉÈË¿ìÊÖ

Cymeradwyo newid statws iaith Ysgol Bro Hyddgen

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Elin Maher: 'Penderfyniad arwyddocaol i addysg Gymraeg'

Bydd statws ieithyddol Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth yn newid o fod yn ysgol ddwy ffrwd i fod yn ysgol Gymraeg.

Cafodd y penderfyniad ei gymeradwyo'n unfrydol gan gabinet Cyngor Sir Powys mewn cyfarfod rhithiol fore Mawrth.

Y bwriad yw cyflwyno newidiadau yn raddol gan ddechrau gyda chyflwyno Dosbarth Derbyn yr ysgol ym mis Medi 2022.

Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ddiwedd Ionawr ac roedd rhai wedi lleisio pryderon.

Y nod yw sicrhau fod pob disgybl yn dod yn gwbl ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Dywed Elin Maher, Cydlynydd Hyrwyddo ac Ymgysylltu RhAG, bod y penderfyniad yn "arwyddocaol i addysg Gymraeg".

Hon fydd yr ysgol Gymraeg gyntaf o'i math ym Mhowys - mae ysgolion uwchradd eraill yn y sir yn cynnig addysg Gymraeg mewn lleoliad dwy ffrwd.

Yn gynharach eleni dywedodd llefarydd ar ran y cyngor y bydd y newid yn "gwella mynediad i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws pob cyfnod allweddol".

Mae Ysgol Bro Hyddgen yn darparu addysg ar gyfer tua 500 o ddisgyblion 4-18 oed.

60% o blaid y cynllun

Mae disgwyl i'r holl addysgu yn yr ysgol fod trwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2035.

Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies - aelod cabinet ar Addysg ac Eiddo - wrth y cabinet fod y cyngor, yn ystod y cyfnod ymgynghori ar gyfer y cynnig, wedi derbyn mwy na 400 o ymatebion.

Roedd 61% o'r rhain o blaid y cynnig i newid categori iaith yr ysgol i gyfrwng Cymraeg, gyda 35% yn gwrthwynebu'r cynllun.

Amlygodd yr adroddiad i'r cabinet 258 o wrthwynebiadau swyddogol a oedd yn cynnwys deiseb wedi'i llofnodi gan 1,219 o bobl.

Roedd rhai o'r materion a godwyd yn cynnwys sylwadau positif am y ddarpariaeth ddwy ffrwd bresennol a'r angen am ddewis.

Roedd pryderon hefyd ynghylch goblygiadau teithio i deuluoedd sy'n dewis addysg cyfrwng Saesneg. Mae'r ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg agosaf yn Aberystwyth.

Dywedodd Elwyn Vaughan - cynghorydd ar gyfer ward Glantwymyn ger Machynlleth chadeirydd corff llywodraethu Ysgol Bro Hyddgen, fod "dwyieithrwydd yn darparu sylfaen i ddysgu ieithoedd eraill a dod yn gwbl amlieithog".

Ychwanegodd mai newid statws yw'r "fformat gorau ar gyfer sicrhau gwir ddwyieithrwydd".

"Yn naturiol bydd rhai yn poeni am yr anallu i ddeall iaith wahanol - dyna pam y mae'r mecanweithiau darparu a chefnogi 'trochi' arfaethedig yn cael eu croesawu ac sydd wedi profi'n llwyddiannus ers nifer o flynyddoedd mewn siroedd eraill."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan elwyn vaughan

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan elwyn vaughan

Mae'r cyngor eisoes wedi dweud y bydd cymorth ychwanegol yn cael ei ddarparu i ddisgyblion i wella'u sgiliau yn y Gymraeg, gan gynnwys cyfleoedd am addysg drochi, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn mewn siroedd eraill.

Cafodd yr ysgol ei sefydlu yn 2014 pan unodd Ysgol Gynradd Machynlleth ac Ysgol Uwchradd Bro Ddyfi dan yr un pennaeth a'r un corff llywodraethol.

Bydd gampws newydd gwerth £48m yn cael ei ddarparu ar gyfer yr ysgol newydd a fydd yn cynnwys adnoddau newydd sbon a chanolfan hamdden newydd.