成人快手

Mwy o bobl yn 'dianc' i brynu coetir ers y pandemig

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Iain and Helen Rich, sitting by a campfire
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Iain a Helen Rich bod eistedd mewn coetir yn dangnefeddus

Mae mwy o bobl wedi bod yn prynu coetiroedd yn ystod y pandemig.

Dywed Chris Colley, o gwmni Woodland Investment Management, fod gwerthiant yn gyson cyn hynny.

"Fe fyddai'r coed ar werth am ryw ddau neu dri mis cyn i brynwr ddod i'r fei," meddai.

Ond ers y pandemig, dywedodd bod tir coediog yn gwerthu o fewn pythefnos.

"Yn aml ry'n yn rhoi tir ar y farchnad ac mae wedi ei werthu o fewn dau neu dri diwrnod," meddai.

"Mae yna fwy o ddyhead i ddod o hyd i rywle lle gall rywun ddianc o'r byd a'i bethau ac ailgysylltu 芒 byd natur," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Iain a Helen Rich wedi gwario 拢80,000 ar eu coetir

"Mae'n dangnefeddus o dawel," meddai Iain Rich, 58, sydd newydd brynu coetir yng ngorllewin Cymru.

"Fe ges i fy mharti pen-blwydd yma'n ddiweddar - roedd e'n wych, barbeciw a photel o bubbly wedi'i hoeri yn y nant."

Dywed ei fod ef a'i wraig Helen yn mwynhau eistedd o gwmpas y t芒n wedi'u hamgylchynu 芒 choed derw hynafol.

Ychwanegodd Iain a Helen Rich nad oedd hi'n fwriad ganddynt fuddsoddi mewn coetir ond bod y pandemig wedi newid pethau.

"Ein cynlluniau oedd teithio'r byd gan bod ni'n dau wedi ymddeol," meddai Helen, 57.

"Ond fe roddodd Covid stop ar ein cynlluniau i deithio."

'I'r genhedlaeth nesaf'

Iain awgrymodd bod y cwpl yn prynu coetiroedd yn ystod y cyfnod clo cyntaf a hynny wedi i arwyddion yn hysbysebu eu bod ar werth ennyn chwilfrydedd.

Mae'r cwpl bellach wedi prynu dau blot o dir coediog nesaf at ei gilydd.

"Mae'r cyfan wedi bod yn werth e, a phan 'dan ni ddim wedi bod am gyfnod, ry'n yn heidio'n 么l gan gynnau'r t芒n a chael y babell yn barod," meddai Helen.

"Byddwn yn trosglwyddo'r coetiroedd i'r genhedlaeth nesaf a gobeithio y byddan nhw'n eu trosglwyddo i'r genhedlaeth wedi hynny."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Chris Colley bod tir sy'n cael ei reoli yn creu mwy o fioamrywiaeth

Dywed Chris Colley nad yw llawer o dir coediog Cymru yn cael ei reoli ond bod hi'n bwysig i goetiroedd gael gofal.

"Rhaid iddo gael gofal fel y gall gyfrannu at yr amgylchedd a bywyd gwyllt.

"Mae tir coediog sy'n cael ei reoli 芒 mwy o fioamrywiaeth na thir sydd wedi'i adael yn llonydd."