成人快手

'Peidiwch 芒 chefnu ar gymuned ac ysgol Abersoch'

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Abersoch

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Gyngor Gwynedd i "beidio 芒 chefnu ar y gymuned leol yn Abersoch trwy gau ysgol y pentref".

Mae disgwyl i'r cyngor gyhoeddi penderfyniad ar ddyfodol yr ysgol ddydd Mawrth.

Mewn llythyr at aelodau'r Cabinet, dywed Ffred Ffransis ar ran Gr诺p Ymgyrch Addysg Cymdeithas yr Iaith mai'r ysgol, fel sefydliad cwbl Gymraeg, oedd gobaith y pentref at y dyfodol.

Byddai ei chadw ar agor "yn ddatganiad fod y Gymraeg yn perthyn i bob dinesydd y dyfodol yn Abersoch, beth bynnag fo eu cefndir", meddai.

Ym mis Mehefin, dywedodd y cyngor mai cau oedd yr argymhelliad "ar 么l gwerthuso'r holl opsiynau'n fanwl".

Meddwl agored

Yn ei lythyr mae Mr Ffransis yn honni nad yw'r cyngor wedi ystyried "gyda meddwl agored" yr holl opsiynau a godwyd yn ystod cyfnod ymgynghori.

Argymhelliad swyddogion y cyngor yw i gau'r ysgol ar 31 Rhagfyr.

Bydd wyth disgybl a dau blentyn oed meithrin, yn symud i Ysgol Sarn Bach o hynny ymlaen.

Yn 么l y cyngor mae'r ysgol yn costio 拢17,404 y pen i'r awdurdod - dros bedair gwaith y cyfartaledd sirol o 拢4,198.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ffred Ffransis wedi ysgrifennu at holl aelodau'r Cabinet

Mae Cymdeithas yr Iaith yn ffafrio "ffederasiwn rhwng ysgolion yr ardal gyda safle arbennig Ysgol Abersoch fel 'Ysgol Traeth' yn ehangu'r profiad addysgol i holl ysgolion y cylch".

Maent yn galw ar y Cabinet i ohirio eu penderfyniad tan y Pasg i roi cyfle i drafod hyn.

Cafwyd dros 200 o ymatebion yn y cyfnod ymgynghori, yn cynnwys dwy ddeiseb gyda 1,115 a 1,884 o enwau, yn gwrthwynebu cau'r ysgol.

Honnodd un y byddai gadael y pentref heb ysgol gynradd yn troi Abersoch yn le gwyliau i dwristiaid am rai misoedd, ac yn "dref ysbrydion" am weddill y flwyddyn.

Dywedodd un arall y byddai'r pentref yn colli ei ganolbwynt heb yr ysgol, a byddai calon ac enaid y lle wedi mynd.

Yn gynharach eleni, dywedodd y Cynghorydd Cemlyn Williams, yr aelod cabinet dros addysg ar Gyngor Gwynedd: "Rwy'n llwyr werthfawrogi bod hwn yn gyfnod anodd ac mae bob amser yn drist pan fydd yn rhaid cynnal ymgynghoriad ar ddyfodol unrhyw ysgol."

Ychwanegodd: "Ar 么l gwerthuso'r holl opsiynau'n fanwl, ac o ystyried y rhagamcanion y bydd niferoedd disgyblion yr ysgol yn parhau i fod yn isel iawn yn y blynyddoedd i ddod, yr argymhelliad yw y dylai Ysgol Abersoch gau ar ddiwedd 2021."

Pynciau cysylltiedig