成人快手

Ateb y Galw: Yr artist Manon Awst

  • Cyhoeddwyd
Manon AwstFfynhonnell y llun, Manon Awst
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Manon Awst

Yr artist Manon Awst sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar 么l iddi gael ei henwebu gan Mari George yr wythnos diwethaf.

Yn wreiddiol o F么n, Manon oedd enillydd Ysgoloriaeth Bensaern茂aeth Eisteddfod Genedlaethol 2004. Wedi hynny, symudodd i ddinas Berlin i weithio gyda'r artist Almaeneg Benjamin Walther ar gasgliad o waith Awst & Walther. Cafodd y casgliad ei arddangos ar draws Ewrop gyda cwpl o ddarnau parhaol i'w gweld yn Nant Gwrtheyrn a Berlin.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Y teils terracotta yng nghegin ein hen d欧 yn Llanfaelog. Roeddan nhw'n oer, oer dan draed ac yn galed ofnadwy pan oeddach chi'n llithro a taro'ch pen! Dwi di gosod rhai tebyg iawn yn ein gardd ni rwan, gafodd ei thrawsnewid yn ystod y cyfnod clo.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Barclodiad y Gawres a thraeth Porth Nobla. Mae 'na hanes a golygfeydd anhygoel yma, ac mae'r lleoliad yn cynrychioli fy mhlentyndod a dechrau fy siwrne fel artist. Dwi'n cael chwa o nerth bob tro dwi'n mynd n么l. Dyma oedd y lleoliad gwreiddiol ar gyfer fy ngherflun 'Tu Hwnt' sydd rwan yn Nant Gwrtheyrn.

Ffynhonnell y llun, Awst & Walther
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Barclodiad y Gawres

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Tra'n astudio yng Nghaergrawnt, roeddwn i a fy ffrindiau'n gweithio fel diddanwyr yn y May Balls ar ddiwedd blwyddyn academaidd - gwisgo i fyny'n wirion a gwneud portreadau o westeion yn bennaf. Ond mewn gwirionedd, ffordd oedd hyn i gael fewn i'r part茂on moethus heb orfod talu ffortiwn am docyn!

Roedd punts (cychod) llawn poteli siamp锚n, gwledda, dawnsio, ac mi fysan ni wastad yn neidio i'r afon ar ddiwedd y noson. Daeth fy ffrind Catrin ata i un flwyddyn o Aber i ymuno yn yr hwyl - mae'r noson honno ymhlith y goreuon!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Byr, gwalltgoch, penderfynol.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Ar fy niwrnod cynta'n Ysgol Uwchradd Bodedern, daeth bws double decker melyn llawn plant Aberffraw i fy nghasglu reit tu allan i ddrws y t欧. Doeddwn i'n nabod neb ar y bws, ac ar 么l camu arno ac edrych ar yr holl wynebau yn syllu arna i, heglais i fyny'r grisia i'r ail lawr.

Ond fanno oedd y plant drwg i gyd yn eistedd (wrth gwrs) felly dyma fi'n stryffaglo n么l lawr i'r gwaelod - dim yn ddechrau c诺l! Ond mi ddes i'n ffrindia efo criw Berffro mewn dim o dro.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Gesh i b芒r newydd o DM's yn ddiweddar, a maen nhw'n cymryd sbel i'w 'gwisgo fewn'. Roedd y blisters yn boenus iawn, iawn!

O archif Ateb y Galw:

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Bwyta gormod o grisps ac yfed gormod o win.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Un o fy hoff lyfrau, a sicr yr un sy'n cael y mwyaf o ddefnydd, yw 'Gwynedd' gan yr archeolegydd Frances Lynch - llyfr sy'n eich tywys drwy safleoedd hynafol yr ardal o'r cyfnod Neolithig hyd at y canol oesoedd. Cadw gyhoeddodd y llyfr yn 1995 a dwi'm yn meddwl bod 'na fersiwn Gymraeg, na diweddariad ers hynny - hen bryd gwneud dwi'n meddwl!

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n un dda am goginio bwyd Eidalaidd, ac wedi dod i'r arfer o wneud pasta cartref ers dechrau'r cyfnod clo. Rhai o fy hoff brydau i'w paratoi yw caponata efo wyslys (aubergine) a ravioli efo caws ricotta a saets o'r ardd.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Dathlu bywyd efo'r teulu a chael y tattoo dwi wastad 'di bod eisiau.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Dwi wrth fy modd efo'r llun yma o Macsen yn y garreg, wrth osod arddangosfa yn N眉rnberg yn 2014. Mae'n cynrychioli'r sialens ddyddiol o fod yn artist ac yn fam, ond yn fy atgoffa bod y ddau yn gorfod ac yn gallu cyd-fynd.

Ffynhonnell y llun, Manon_awst
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Macsen yn y garreg yn N眉rnberg yn 2014

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Angela Merkel, wedi ei hymddeoliad! Dwi'n ei hedmygu hi'n fawr, ac mi ddaeth hi'n ganghellor yr Almaen y flwyddyn symudais i Berlin ar 么l astudio. Mi fyswn i wrth fy modd yn cael cipolwg ar sut berson ydi hi go iawn - be' sy'n mynd drwy ei meddwl hi, sut mae hi'n teimlo am Ewrop a gweddill y byd ar 么l bod yn y swydd am 16 mlynedd.

Mi fyswn i'n trefnu diwrnod i'r brenin i fi fy hun, yn cynnwys siopa yn KaDeWe a swper yn Borchardts. A falla rhoi galwad ff么n sydyn i Boris er mwyn cael dweud be' dwi'n feddwl ohono go iawn!

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Judith Musker Turner

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap 成人快手 Cymru Fyw