成人快手

Ysgol gynradd yn cau oherwydd achosion Covid

  • Cyhoeddwyd
Ysgol CradocFfynhonnell y llun, Google

Mae Ysgol Gynradd Cradoc yn ne Powys wedi ei gau oherwydd cynnydd sydyn o achosion Covid-19.

Cafodd y penderfyniad ei wneud gan Gyngor Sir Powys ddydd Llun ac fe fydd yr ysgol yn aros ar gau am weddill yr wythnos.

Mae'r nifer yr achosion yn yr ysgol ger Aberhonddu wedi cynyddu'n sylweddol gyda thua 40% o ddisgyblion a 50% o staff wedi'u profi'n bositif am y feirws yn ddiweddar.

Hyn yw'r tro cyntaf i ysgol gael ei chau yn y sir oherwydd Covid ers i'r ysgolion ddychwelyd ddechrau'r mis.

Fe fydd yr ysgol yn penderfynu pryd i ailagor yn ddiweddarach yr wythnos yma, gan ddarparu dysgu ar-lein tra bod yr adeilad ar gau.

Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, aelod y cabinet am faterion addysg: "Rydym yn deall yr anhwylustod y gallai cau'r ysgol ar frys ei gael ar deuluoedd ond rhaid i ddiogelwch ein disgyblion a'n staff barhau i fod yn hollbwysig.

"Bydd y cyngor yn parhau i gefnogi'r ysgol dros y dyddiau nesaf."

Pynciau cysylltiedig