成人快手

Colli budd-dal: 'Pobl yn gorfod dewis rhwng bwyd a gwres'

  • Cyhoeddwyd
PlentynFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd 成人快手-Start Cymru mai plant sy'n cael eu taro waethaf gan dlodi

Fe allai teuluoedd ei chael hi'n anodd cadw'n gynnes a rhoi bwyd ar y bwrdd dros y gaeaf os ydy'r toriad i gredyd cynhwysol yn mynd yn ei flaen, yn 么l elusen.

Dywedodd Gemma Mathews, mam i bedwar o blant o Sir G芒r, y byddai'n rhaid i rieni ddewis rhwng bwyd a thanwydd os ydyn nhw'n colli'r cynnydd dros dro o 拢20 yr wythnos.

Bu cynnydd o 拢20 yng nghredyd cynhwysol dros y pandemig er mwyn helpu pobl i ymdopi, ond mae'r Canghellor Rishi Sunak wedi cyhoeddi y bydd yn dychwelyd i'w lefel arferol ym mis Hydref,

Mae Llywodraeth y DU yn dweud ei bod wastad wedi bod yn glir mai dros dro fyddai'r cynnydd.

236,000 ar gredyd cynhwysol

Ond mae elusen 成人快手-Start Cymru, ynghyd 芒 nifer o sefydliadau eraill, wedi galw ar y llywodraeth i beidio 芒 thorri'r cyllid "allweddol" fis nesaf.

Mae llywodraethau datganoledig Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi galw ar Lywodraeth y DU i ailfeddwl hefyd.

Yn 么l y ffigyrau diweddaraf mae 236,253 o gartrefi yng Nghymru yn derbyn budd-dal credyd cynhwysol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Gemma Mathews yn poeni sut y bydd hi'n ymdopi gyda chyfnod y Nadolig

Mae Gemma Mathews, 32 oed o Frynaman, wedi bod ar gredyd cynhwysol ers mis Gorffennaf, pan wnaeth ei g诺r Adam roi'r gorau i'w waith er mwyn bod yn ofalwr llawn amser.

Dywedodd y byddai'r teulu yn ei chael yn anodd talu biliau a chwrdd ag anghenion eu pedwar o blant - dau ohonynt ag awtistiaeth - pe bai'r budd-dal yn cael ei dorri.

'Sut ydw i'n mynd i ymdopi?'

"Rydyn ni'n ei chael hi'n anodd yn barod. Fe fyddai'r arian yn mynd ar wasanaethau hanfodol - mae'n lot i'w golli," meddai.

"Roedd hi'n rhyddhad mawr cael 拢20 ychwanegol yr wythnos - ar gyfer Covid mae e ond mae'r pandemig yn dal i fynd.

"Mae'r plant yn gofyn 'Gai hyn, gai'r llall' ac mae'n rhaid i fi ddweud na, sy'n anodd.

"Mae rhieni eisiau gyrru eu plant i wneud pethau fel p锚l-droed neu nofio ond fydda i ddim yn gallu gwneud hynny - fydd gen i ddim yn arian i'w wneud e.

"Bydd y Nadolig yma cyn hir hefyd - sut ydw i'n mynd i ymdopi?"

'Lefelau annerbyniol o dlodi'

Dywedodd 成人快手-Start Cymru y bydd colli 拢20 yr wythnos yn gallu "achosi miloedd o deuluoedd yng Nghymru i fynd i lefelau annerbyniol o dlodi".

Ychwanegodd mai plant sy'n cael eu taro waethaf gan dlodi, a bod teuluoedd yn "haeddu'r cyfle i ffynnu, oherwydd ni fydd plentyndod yn disgwyl".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Fel y gwnaeth y Canghellor gyhoeddi yn y gyllideb, roedd y cynnydd i gredyd cynhwysol wastad yn un dros dro.

"Y nod oedd helpu pobl trwy'r sioc economaidd o gyfnodau anoddaf y pandemig, ac mae wedi gwneud hynny."

Pynciau cysylltiedig