成人快手

Cynnwys syrffio yn y Gemau Olympaidd yn hwb i'r gamp

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Poblogrwydd syrffio yn "tyfu bob blwyddyn" ym Mhen Ll欧n

Gyda syrffio'n rhan o'r Gemau Olympaidd eleni mae un o glybiau syrffio Cymru'n dweud eu bod nhw'n gobeithio y bydd hynny'n arwain at ragor yn mentro i'r d诺r.

Dros gyfnod o 10 mlynedd mae Clwb Syrffio Pen Ll欧n yn dweud ei fod wedi gweld twf aruthrol yn nifer y bobl leol sydd am fanteisio ar draethau a thonnau Cymru.

Yno mae dros 50 o blant a phobl ifanc yn dod ynghyd bob wythnos i ddysgu sut i syrffio'n ddiogel ar draeth Porth Neigwl.

Yn 么l cadeirydd y clwb mae'n bwysig i blant ifanc ddysgu sut i fwynhau yn y m么r a gwneud hynny'n ddiogel.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae dros 50 o blant a phobl ifanc yn dod ynghyd bob wythnos i ddysgu sut i syrffio ar draeth Porth Neigwl

Yn 2018 fe gyhoeddodd y Gymdeithas Ryngwladol Syrffio y byddai'r gamp yn cael ei chynnwys yng Ngemau Olympaidd Tokyo 2020 a hynny ar draeth Shidasita sydd rhyw 40 o filltiroedd o Tokyo.

Daw hyn wedi blynyddoedd o alwadau gan y gymdeithas i sicrhau fod y gamp yn cael ei chynnwys.

Er na fydd yna Gymry, na chwaith unrhyw un o Brydain, yn cystadlu eleni mae 'na obaith y bydd darlledu'r cystadlaethau'n ysbrydoli cenhedlaeth newydd o syrffwyr yng Nghymru.

Eisoes mae clybiau fel Clwb Syrffio Pen Ll欧n yn dweud eu bod nhw wedi gweld twf aruthrol yn y nifer sydd am brofi'r her.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae poblogrwydd syrffio wedi cynyddu, medd Lee Oliver

"Pan wnes i ddechrau syrffio rhyw 30 o flynyddoedd yn 么l mi oedd yn rhaid jest mynd mewn efo'r hogiau h欧n a heb hyfforddiant," medd cadeirydd y clwb, Lee Oliver.

"Ers hynny mae 'na fwy a mwy o blant a theuluoedd yn mynd i'r d诺r.

"Mae'r clwb wedi bod yn rhedeg ers rhyw 10 mlynedd gan ddechrau gyda chriw o bobl leol ddaeth at ei gilydd i roi siawns i'r plant lleol gael go ar syrffio a hyfforddiant da i wneud hynny."

Yn 么l Mr Oliver mae'r twf yng Nghlwb Pen Ll欧n yn efelychu'r darlun yn genedlaethol ac mi fydd y Gemau Olympaidd yn si诺r o helpu hynny.

"Dwi 'di syrffio drwy Brydain a dwi'n teimlo dros y blynyddoedd fod mwy a mwy yn mynd i'r d诺r a mwy yn dod yma i Borth Neigwl a Phen Ll欧n," meddai.

'Waeth i mi ddechrau ddim!'

Er mwyn cynnal sesiynau hyfforddi mae'n rhaid i'r amodau fod yn gywir. Mae hynny'n cynnwys gwynt nad yw'n rhy gryf a thywydd na sy'n arw - mae hynny'n gallu bod yn heriol yng Nghymru.

Un fydd yn hyfforddi disgyblion eraill dros gyfnod yr haf ydy Ben Scott, sy'n 17 oed.

"Nes i ddechrau rhyw naw mlynedd yn 么l," meddai.

"'Dwi dal 'di dod ers hynny a 'dwi'n helpu i hyfforddi r诺an, a 'dwi 'di gwneud cwrs achub bywyd a ga'i ddod yma bob nos Fawrth yma i helpu r诺an.

"Dydi o ddim yn cael ei ddangos gymaint 芒 hynny ar y teledu ond os ydy yn cael ei ddangos fwy efallai fydd 'na fwy o blant yn edrych arno ac yn meddwl 'waeth i mi ddechrau ddim, de!'"

Gemau Paralympaidd nesaf?

Yn 么l y corff twristiaeth Croeso Cymru mae nifer o lefydd ar hyd yr arfordir sy'n addas ar gyfer syrffio, fel Porth Neigwl, Porthcawl a Llanilltud Fawr.

Un sy'n falch o weld twf yn y diddordeb, ac yn gobeithio y bydd darlledu'r gamp ar y teledu yn creu mwy o ddiddordeb yw Llywelyn Williams.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth Llywelyn Williams yn bencampwr syrffio ar 么l cael ei daro gan gar a cholli ei goes dde

Mae'r g诺r 26 oed wedi bod yn bencampwr syrffio Lloegr bedair gwaith ac mi fydd hefyd yn cystadlu yn yr Unol Daleithiau yn ddiweddarach eleni.

Fe gryfhaodd ei gariad at y gamp wedi damwain car flynyddoedd yn 么l, pan gollodd ei goes.

"O'n i wedi clywed bod 'na lot o blant yn dod a 'dwi'n meddwl ei fod yn wych," meddai.

"Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai 'na gymaint o blant lleol yn gwneud.

"'Dwi'n gobeithio gan fod o r诺an yn y Gemau Olympaidd y bydd o'n mynd mewn i'r Gemau Paralympaidd."

Pynciau cysylltiedig