成人快手

Cymru yn ystyried penderfyniad San Steffan ar reolau teithio

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
FfraincFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ffrainc yn un o'r gwledydd sydd ar restr ambr Cymru a Lloegr ar hyn o bryd

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn ystyried a fyddan nhw'n dilyn penderfyniad San Steffan i ganiat谩u i oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn yn Lloegr i ddychwelyd o wledydd rhestr ambr heb fod angen ynysu.

Yn ystod y misoedd diwethaf mae polis茂au teithio rhyngwladol llywodraethau Cymru a'r DU wedi bod yn debyg.

Ond nid yw'n glir a fydd gweinidogion Cymru yn dilyn y cynllun newydd a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd Trafnidiaeth y DU, Grant Shapps ddydd Iau.

Bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud "maes o law", meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Ar hyn o bryd, rhaid i unrhyw un sy'n dychwelyd o wledydd ambr neu restr goch ynysu am 10 diwrnod, waeth beth yw eu statws brechlyn.

Bydd y rheol newydd, sy'n dod i rym yn Lloegr o 19 Gorffennaf ymlaen, hefyd yn berthnasol i blant o dan 18 oed yn ogystal ag unigolion sy'n cymryd rhan mewn treialon clinigol yn y DU.

Wrth siarad yn Nh欧'r Cyffredin, dywedodd Mr Shapps y bydd amddiffyn iechyd y cyhoedd yn "parhau i fod yn brif flaenoriaeth i ni" ond bod y newid hwn yn cael ei wneud oherwydd "llwyddiant" rhaglen brechlyn y DU.

Ond oherwydd bod materion iechyd wedi'u datganoli, dywedodd Shapps y gall y broses o "wneud penderfyniadau a gweithredu fod yn wahanol ar draws gweinyddiaethau'r DU".

Yn ystod y misoedd diwethaf mae pedair gwlad y DU wedi tueddu i ddilyn ei gilydd ar bolisi teithio rhyngwladol.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin eu bod am ddilyn yr un patrwm 芒 Lloegr wrth symud lleoliadau gwyliau i'r rhestr werdd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ystyried y cynigion hyn ac mae'r holl gyfyngiadau yn parhau i gael eu hadolygu'n gyson.

"Bydd penderfyniadau ynghylch cwarant卯n i bobl sy'n dychwelyd i Gymru o wledydd rhestr ambr yn cael eu gwneud yng Nghymru a byddwn yn gwneud cyhoeddiad maes o law."

'Gola' bach ar ddiwedd twnnel tywyll iawn'

Wrth siarad ar 成人快手 Radio Wales brynhawn Iau, dywedodd Ann Jones, perchennog cwmni Teithiau Menai yng Nghaernarfon bod angen eglurder "mor fuan 芒 phosib" gan Lywodraeth Cymru ynghylch y rheolau teithio.

"Mae'r rhan fwya' o ein cwsmeriaid ni'n hedfan o Fanceinion a Lerpwl," meddai. "Ydi hynny'n golygu bod dim angen cwarant卯n am eu bod yn hedfan yn 么l i Loegr?

"Mae angen i ni allu dilyn be mae llywodraeth Lloegr wedi ei gyhoeddi heddiw. Mae'n ola' bach ar ddiwedd twnnel tywyll iawn i ni yn y diwydiant teithio."