成人快手

Llacio cyfyngiadau: Ydw i'n cael mynd ar wyliau dramor?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
MalagaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth hediadau masnachol ailddechrau ddydd Mawrth gyda thaith o Gaerdydd i Malaga yn Sbaen

Mae'r awyrennau masnachol cyntaf ers misoedd wedi gadael Cymru ddydd Mawrth, wedi cyfnod hir o hediadau angenrheidiol yn unig.

Fe wnaeth hediad o Gaerdydd i Malaga adael y tir am 09:15 fore Mawrth er i'r Prif Weinidog ddweud ei bod yn "well osgoi" teithio dramor oni bai fod angen.

Mae system goleuadau traffig mewn grym ar gyfer teithio dramor, sy'n rhoi gwledydd mewn tri chategori gwahanol yn seiliedig ar sefyllfa Covid-19 yno.

Mae'n bosib y bydd mwy o deithio dramor yn cael ei ganiat谩u dros yr wythnosau nesaf, ond mae hynny'n ddibynnol ar y sefyllfa yn y DU, yn enwedig gyda'r amrywiolyn o India.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr awyren Vueling yn gadael Maes Awyr Caerdydd am Sbaen fore Mawrth

Doedd llefarydd ar ran Maes Awyr Caerdydd, sydd dan berchnogaeth Llywodraeth Cymru, ddim am ddatgelu faint o deithwyr oedd ar yr hediad Vueling i Malaga am bod y wybodaeth yn "fashachol sensitif".

Mae Sbaen ar restr oren llywodraethau Cymru a'r DU sy'n golygu y bydd yn rhaid i deithwyr hunan-ynysu am 10 ddiwrnod ar 么l dychwelyd.

Dywed prif weithredwr Maes Awyr Caerdydd, Spencer Birns eu bod "ar agor ac yn barod i groesawu cwsmeriaid yn 么l i'r maes awyr dros y misoedd nesaf".

Ychwanegodd eu bod "yn parhau i ddilyn canllawiau'r Llywodraeth ac yn cydweithio'n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i gadw diogelwch ein t卯m ac ein cwsmeriaid yn brif flaenoriaeth".

Ydw i'n cael mynd ar wyliau?

Mae'r cyfyngiadau ar deithio yng Nghymru wedi bod yn cael eu llacio yn raddol dros yr wythnosau diwethaf, ac mae Mark Drakeford wedi dweud y byddai'r mwy o lacio wedi digwydd oni bai am y pryderon am yr amrywiolyn newydd.

Cyn gwyliau'r Pasg fe wnaeth y rheolau ar deithio o fewn Cymru newid, gan olygu bod pobl wedi cael gadael eu hardal leol am y tro cyntaf ers misoedd, gan gynnwys i fynd ar wyliau.

Ddydd Llun yma cafodd pob math o lety gwyliau yng Nghymru ganiat芒d i ailagor.

Cyngor Llywodraeth y DU, o 17 Mai, ydy y gall pobl o Loegr fynd ar wyliau tramor i nifer cyfyngedig o wledydd, ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud na ddylai pobl teithio dramor oni bai ei fod yn angenrheidiol.

Dywedodd Mr Drakeford na ddylai pobl "deimlo'n euog" am deithio dramor, ond mae wedi annog pobl i gymryd eu gwyliau o fewn ffiniau Cymru am y tro.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl i aros o fewn ffiniau'r wlad ar gyfer eu gwyliau eleni

Sut mae'r system goleuadau traffig yn gweithio?

Mae gwledydd yn cael eu rhoi i un o dri chategori - gwyrdd, oren neu goch.

Mae hyn yn seiliedig ar sefyllfa Covid-19 yno, ac mae'n rhaid i bobl ddilyn rheolau gwahanol wrth ddychwelyd o wahanol gategor茂au.

  • Gwyrdd - Dim angen cwarantin pan yn dychwelyd i Gymru ond mae'n rhaid archebu a thalu am brawf PCR o fewn deuddydd o ddychwelyd.

  • Oren - Rhaid mynd i gwarantin 10 diwrnod yn eich cartref pan yn dychwelyd, ac mae'n rhaid archebu a thalu am brawf PCR ar yr ail a'r wythfed diwrnod.

  • Coch - Rhaid talu am 'westy Covid' ar 么l dychwelyd i'r DU a mynd i gwarantin yno am 10 diwrnod pan yn dychwelyd. Mae dirwy o hyd at 拢10,000 i'r rheiny sy'n dychwelyd o wlad yn y categori coch sydd ddim yn dilyn y rheolau hynny.

Yn wahanol i Loegr, does dim modd cael prawf ar y pumed diwrnod yng Nghymru er mwyn lleihau'r cyfnod ynysu pan yn dychwelyd o wlad categori oren.

Oes rhaid i mi fod wedi cael brechiad?

O 24 Mai bydd modd i bobl yng Nghymru wneud cais i brofi eu bod wedi cael dau ddos o frechiad Covid-19 os oes angen teithio ar frys i wlad sy'n ei gwneud yn ofynnol am dystiolaeth bod ymwelwyr wedi cael eu brechu.

Ychwanegodd Spencer Birns o Faes Awyr Caerdydd: "Mae cwmn茂au hedfan yn adolygu eu rhaglenni teithio yn gyson, ac rydyn ni'n annog cwsmeriaid i wirio gyda'u cwmni am y diweddaraf ar eu taith a gwirio canllawiau diweddaraf y llywodraeth ar deithio i ac o Gymru," meddai.