成人快手

Dynes o Sir G芒r yw'r enillydd Bake-Off cyntaf o Gymru

Georgie GrassoFfynhonnell y llun, Love Productions/Mark Bourdillon/PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Wrth glywed ei bod wedi cyrraedd y brig, dywedodd Georgie Grasso: "Mae hyn yn lloerig! Dwi wedi ennill, dwi methu credu hyn"

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes o Sir G芒r wedi cael ei choroni'n enillydd ar raglen deledu The Great British Bake-Off eleni, ar 么l rownd derfynol llawn cynnwrf nos Fawrth.

Yn nyrs bediatrig 34 oed, Georgie Grasso yw'r person cyntaf o Gymru erioed i ennill y gystadleuaeth goginio.

Dyma oedd y pymthegfed cyfres o'r rhaglen, ac roedd yn rhaid iddi gymryd rhan mewn 30 o heriau dros 10 pennod wahanol er mwyn dod yn fuddugol.

Wrth glywed ei bod wedi cyrraedd y brig, dywedodd Georgie: "Mae hyn yn lloerig! Dwi wedi ennill, dwi methu credu hyn."

Ffynhonnell y llun, Channel 4/Love Productions/Mark Bourdillon
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma oedd y pymthegfed cyfres o'r rhaglen

Ar ddechrau'r broses, roedd 12 o gystadleuwyr yn brwydro'n erbyn ei gilydd yn y babell wen.

Ond dim ond tri ymgeisydd oedd ar 么l yn y gystadleuaeth erbyn pennod olaf y gyfres, gyda Christiaan a Dylan hefyd yn cystadlu i ennill.

Yn y sialensiau olaf, roedd gofyn iddynt greu sgons, te prynhawn, ac yn olaf cacen arbennig gyda gwahanol haenau.

Cafodd y bar ei osod yn uchel, ond Georgie ddaeth i'r brig.

Meddai

"Mae hyn yn golygu popeth i mi, dwi wastad wedi bod mor amheus o fy hun. Mae genna'i hwn a'r llall yn anghywir hefo fi, ac yn meddwl na alla'i ei wneud e, ac mae rhywun yn chwilio am esgusodion.

"Am unwaith, wnes i feddwl fy mod i'n mynd i fynd amdani, a rhoi popeth oedd gen i mewn iddo.

"Yn gweithio pob awr, mi wnes i aberthu amser gyda'r plant a'r teulu.

"Dwi mor falch o fi fy hun oherwydd dwi wedi profi y galla'i wneud e, a nawr dwi yma heddiw fel yr enillydd!"