'Annheg' disgwyl i athrawon wneud penderfyniadau iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae penaethiaid ysgolion yn rhybuddio na fydd gadael i ysgolion unigol wneud penderfyniadau lleol ynghylch pa fesurau coronafeirws y dylid eu dilyn yno'r tymor nesaf yn gweithio, a bydd yn rhoi pwysau ychwanegol ar staff.
Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles ddydd Llun y bydd hawl gan ysgolion o fis Medi ymlaen i lacio neu dynhau mesurau fel cadw pellter cymdeithasol, gwisgo mygydau a chynnal profion.
Ond yn 么l undeb y prifathrawon, NAHT Cymru ni ddylai athrawon orfod gwneud penderfyniadau iechyd cyhoeddus.
Dywedodd Mr Miles ddydd Mawrth ei fod eisiau cydweithio gyda phenaethiaid ysgolion i ddatblygu'r ffordd ymlaen.
'Annheg'
"Mae'n hollol annheg bod ysgolion wedi cael eu rhoi yn y sefyllfa yma," meddai cyfarwyddwr NAHT Cymru, Laura Doel wrth 成人快手 Radio Wales fore Mawrth.
Mae'r undeb eisoes wedi datgan y farn honno i Mr Miles, ac mae Ms Doel "yn gobeithio y bydd yn gwrando ar ein pryderon" yn ystod trafodaethau pellach yr wythnos hon.
Dywedodd ei bod yn gobeithio gallu cytuno "ar gynllun sy'n gweithio mewn ysgolion oherwydd yn anffodus nid yw'r cynllun yma yn ymarferol".
Ychwanegodd bod angen i staff ysgolion "gael canolbwyntio ar addysgu" gan adael penderfyniadau meddygol i arbenigwyr iechyd cyhoeddus.
Mae Jeremy Miles yn pwysleisio mai "symud i sefyllfa ble mae llai o bobol yn gorfod hunan-ynysu" yw'r nod a bod trafodaethau'n parhau gydag undebau ac awdurdodau addysg "i edrych ar yr elfennau ymarferol".
Dywedodd bod mesurau atal Covid "yn cael impact gwirioneddol ar ansawdd addysg mewn ysgolion" ac "effaith niweidiol ar allu, awydd a chysur disgyblion wrth ddysgu".
"Nid ydym mewn sefyllfa ble ry'n ni'n disgwyl i benaethiaid wneud penderfyniadau iechyd cyhoeddus"
Ychwanegodd bod angen ystyried swigod ysgolion a'r "cwestiwn o pwy yw'r cysylltiadau uniongyrchol" fel dau fater "ar wah芒n".
Daw'r pryderon wrth i gyfraddau achosion coronafeirws gynyddu yng Nghymru, yn bennaf oherwydd yr amrywiolyn Delta, sy'n golygu bod nifer cynyddol o ddisgyblion yn gorfod hunan-ynysu.
Dros gyfnod o wythnos, mi gafodd 238 achos positif eu cofnodi ymhlith disgyblion ac athrawon Cymru, sy'n tua 15% o holl achosion y wlad.
Roedd 119 o'r achosion yn ysgolion y gogledd, ac fe gadarnhaodd awdurdodau addysg y rhanbarth ddydd Llun bod 3,000 o ddisgyblion yn hunan-ynysu.
Olrhain pob cysylltiad yn 'amhosib'
Mae'r sefyllfa bresennol yn heriol, medd pennaeth Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy ble mae 200 o ddisgyblion yn hunan-ynysu yn dilyn un canlyniad positif.
Mae gorfodi pawb o fewn swigod mor fawr i hunan-ynysu "yn rhywbeth sylweddol iawn ac yn rhywbeth 'dach chi isio osgoi", meddai Gwyn Tudur.
Mae angen holi "o ran pwy sy' wedi bod yn y tai bach, pwy oedd yn ciwio efo chi yn y ffreutur, pwy oedd yn agos i chi amser egwyl, ac yn y blaen," dywedodd.
"Mae'n amhosib, mewn gwirionedd. Mae'r plant yn aml ddim yn gwybod pwy ydyn nhw o ran enwau.
"Mae'n weithredol ac ymarferol anodd iawn ond mae'r dyhead yn un 'dan ni gyd mewn ysgolion yn despret amdano fo."
Mae "blinder llethol" oherwydd straen a phwysau'r flwyddyn ddiwethaf yn effeithio ar staff ysgolion wrth i'r gwyliau haf agos谩u, medd swyddog polisi undeb athrawon UCAC, Rebecca Williams.
"Mae yn destun pryder, yn enwedig yn y gogledd ddwyrain ac ar draws y gogledd," meddai.
"Y newyddion da yw bod pobol ddim yn mynd mor s芒l gyda'r salwch erbyn hyn oherwydd y rhaglen frechu... ond mae'r effaith ar addysg yn dal i fod yn fawr iawn".
Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych ddydd Mawrth bod y tymor ar ben i ddisgyblion Ysgol Uwchradd Y Rhyl.
"Mae Blwyddyn 11 wedi cwblhau eu blwyddyn academaidd tra bod Blynyddoedd 7, 8 a 10 yn hunan-ynysu ar hyn o bryd yn dilyn profion Covid-19 positif yn gysylltiedig 芒'r ysgol," meddai llefarydd.
"Mae Blwyddyn 9 ar hyn o bryd yn hunan-ynysu'n wirfoddol wrth aros am ganlyniadau prawf PCR."
Mae'r ysgol, meddai, yn gweithio'n agos gyda'r awdurdodau iechyd ac addysg "i sicrhau bod yr holl fesurau priodol yn eu lle i ddiogelu myfyrwyr, staff a'r gymuned ehangach".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2021