成人快手

Dim rhagor o farwolaethau a 438 o achosion positif

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
prawf covidFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi 438 yn fwy o achosion positif o'r coronafeirws ond mae nifer y marwolaethau yn aros yn ei hunfan.

Cyfanswm yr achosion positif erbyn hyn yw 216,030 gyda chyfanswm y marwolaethau yn aros ar 5,573.

O ran y ffigyrau diweddara', Caerdydd wnaeth gofnodi'r nifer uchaf o achosion positif gyda 52. Roedd yna 44 yn Abertawe a 39 yn Sir y Fflint.

Roedd 64 o'r achosion positif o bobl sy'n byw y tu allan i Gymru.

Sir y Fflint sy'n parhau 芒'r gyfradd uchaf, gyda bron i 100 o bob 100,000 o bobl wedi profi'n bositif dros gyfnod o saith diwrnod.

Y gyfradd ar gyfer Cymru yw 36 o bob 100,000.

Pynciau cysylltiedig