Ateb y Galw: Rhys Griffiths
- Cyhoeddwyd
Rhys Griffiths sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar 么l iddo gael ei enwebu gan Dafydd Wyn yr wythnos diwethaf.
Yn wreiddiol o Benparc, Aberteifi, roedd Rhys yn byw yng Nghaerdydd ac yna Caerffili, cyn setlo yng Nghastell-nedd gyda'i wraig, Naomi a'u mhab, Gwilym.
Mae'n gweithio i 成人快手 Radio Cymru fel Uwch Gydlynydd Amserlennu.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Mae nifer o'm hatgofion cynnar yn cwmpasu Dat, fy nhad-cu. Ro'n ni'n ffrindie mawr.
Ymysg yr atgofion mae rhedeg o gwmpas caeau'r fferm ym Mwnt. Hefyd, oriau o chwarae 'pool' yng Nghlwb Golff, Aberteifi a thrip dyddiol i Tesco ar 么l i Dat fy nghasglu o Ysgol Penparc, a chael bwyta unrhywbeth ro'n i ishe yn y caffi!
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Y noson gyrhaeddodd ein mab, Gwilym Rhys Griffiths, yn oriau ola' Ionawr 2020.
Fydd nifer yn ei chofio fel y noson adawodd Prydain yr Undeb Ewropeaidd... fydda' i bendant ddim yn ei chofio am hynny!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Positif, gweithgar, amyneddgar.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Dim ond un lle posib - Mwnt. Yn ogystal 芒'r rhesymau amlwg am y traeth a'r golygfeydd hyfryd, mae sawl rheswm personol hefyd o achos lleoliad y fferm sy'n edrych i lawr tuag at Eglwys y Mwnt.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl n么l?
Dwirnod ein priodas, diwrnod bythgofiadwy am resyme amlwg.
Gweld gwynebau teulu a ffrinidiau yn mwynhau. Twmpath dawns a chanu tan orie man y bore. A rhaid rhoi 'mensh' i'r araith orau erioed gan y gweision priodas, Dafydd ac Ian - o'dd lot fawr o wenu a chwerthin!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Eto, ry'n ni'n mynd i ddiwrnod ein priodas ac at pan ddaeth yr amser i fi wneud fy araith. Roedd angen i fi wneud rhywfaint ohono yn Saesneg er tegwch i rai o'n ffrindie oedd wedi teithio i ddathlu'r diwrnod gyda ni.
Dwi'n ddigon parod i gyfaddef nad ydw i'n hollol gyfforddus yn siarad Saesneg gan anaml iawn sy'n rhaid i fi wneud.
Yn ystod fy araith, roeddwn i eisiau pwysleisio bod Naomi yn berson sydd wastad yn rhoi eraill yn gynta'. Yn anffodus, y geiriau ddwedes i oedd 'Naomi always puts herself before others!!' Embaras llwyr! Yna i wneud pethau'n waeth, ar 么l i'r chwerthin tawelu, rhoies i ymgais arall ar y frawddeg, a dweud union 'run peth eto! Wnes i rhan fwya o weddill yr araith yn Gymraeg!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?
Priodas teuluol cyn Nadolig wrth i Naomi ganu O Holy Night fel eitem. (Mae cerddoriaeth, a llais Naomi yn fy ngwneud i i lefen yn hawdd!)
O archif Ateb y Galw:
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Chwarae 'Fantasy Football' a gor-ddefnydd o'r ap '成人快手 Sport'! Dwi'n ffan mawr o unrhyw chwaraeon!
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Un adduned sy' 'da fi 'leni yw i ddarllen mwy.
Dwi ddim yn darllen hanner digon. Ond un llyfr dwi wedi mwynhau'n ddiweddar ydy llyfr Lowri Morgan, Beyond Limits. Dwi'n ei hedmygu hi'n fawr.
Podlediad - The Socially Distant Sports a Nawr yw'r Awr - podlediad dau Gardi arall - David Cole a Nia Davies yngl欧n hyfforddi a chystadlu mewn triathlons.
Ffilm - I fod yn onest, erbyn hyn dwi'n gwylio mwy o gyfresi yn hytrach na ffilmie. Money Heist, You, Ozark a Stay Close sydd ymysg y rhai diweddara' i fi fwynhau.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Pencampwr Swncer y Byd ar 3 achlysur, Mark Williams.
Dwi'n dwli ar snwcer, wedi bod yn ffan mawr o Mark Williams ers yn fachgen bach a'n falch iawn ei fod wedi codi i frig y g锚m eto dros y blynydde' dwetha.
Mae'n dod drosodd fel cymeriad a hanner ond yn ddiymhongar hefyd, felly dwi'n si诺r byddai cael diod gydag e'n lot o sbort!
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Bydda i'n rhedeg marathon Llundain ym mis Hydref eleni. I rai oedd yn fy nabod blynydde mawr yn 么l pan o'n i sawl st么n yn drymach, fydd hynny'n dipyn o syndod!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Bod yng nghwmni teulu a ffrindie,yn chwarae gemau bwrdd a chael 'sing song'! Hefyd yn bwyta fy mhryd delfrydol sef madarch mewn saws garlleg, Gammon a Chips (gydag wy A phinafal) a Chocolate Fudge Cake. Yna glasied bach o Port a Brandy i olchi'r cyfan i lawr!
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Cwestiwn anodda' - ma miloedd ar y ff么n! Ond wedi dewis hon - ein Nadolig cynta ni fel teulu o dri, a'r un cyntaf yn ein cartre newydd hefyd.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Alun Wyn Jones - er mwyn trosglwyddo i chwarae i'r Scarlets yn lle'r Gweilch!!