成人快手

Defnyddio plastig y traeth i greu celf

  • Cyhoeddwyd
Gwaith celfFfynhonnell y llun, Llinos Griffin

Mae Llinos Griffin o Benrhyndeudraeth yn gwneud gwaith celf allan o raffau plastig y mae'n eu casglu o'r traethau.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae wedi bod yn creu lluniau trawiadol iawn gan bwytho'r plastig amryliw mewn ffordd greadigol i greu gweithiau celf tlws o adar ac o fywyd y m么r.

Ffynhonnell y llun, Llinos Griffin

"Mi o'n i'n byw yng Nghricieth tan llynedd ac o'n i'n hel y plastig ar hyd y traeth i gael llai o lanast arno fo a dweud y gwir," meddai Llinos.

"Wedyn wnes i ddechrau hel rhaffau sy'n dod o gychod a llongau a doeddwn i ddim yn si诺r beth oeddech chi'n gallu 'neud efo fo. Dwi ddim yn meddwl dy fod yn gallu ailgylchu rhaffau felly dyma fi'n meddwl bod angen ei ddefnyddio fo, felly dwi di dechrau gwn茂o efo fo."

Gall y rhaffau hyn edrych yn hyll wedi eu golchi ar y traeth, ond wrth edrych yn fanwl arnyn nhw mae nhw'n lliwgar ac yn gallu cael eu defnyddio i bwytho.

Ffynhonnell y llun, Llinos Griffin

"Wnes i brynu canfas ond mae'r cwbl arall dwi'n defnyddio yn raffau plastig o'r traeth.

"I fi, dwi'n meddwl os dwi'n ei ddefnyddio fo, a mae'n troi i mewn i rywbeth hardd i roi ar wal rhywun, yna dydy'r darn yna o raff ddim yn mynd mewn i fol dim byd, neith o ddim crogi adar fatha sy'n digwydd yn aml.

"Mae adar yn rhedeg trwy bob dim dwi'n neud achos dwi wrth fy modd efo adar."

Ffynhonnell y llun, Llinos Griffin

Wrth wneud ei gwaith celf, mae Llinos Griffin yn teimlo'n falch ei bod yn cael gwared ar rywfaint o'r rhaffau o'r traeth, ond mae'r broses o bwytho hefyd yn gallu bod yn llesol i'r meddwl meddai, yn enwedig yn ystod y cyfnodau clo dros y flwyddyn ddiwethaf.

"Mae'n cymryd oriau i wneud y lluniau 'ma.

Ffynhonnell y llun, Laura Usherwood
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Llinos Griffin yn creu celf o sbwriel y traeth er mwyn arbed bywyd gwyllt

"Mae'n dda i'r amgylchedd o ran cael gwared y plastig, ond hefyd yn therapiwtig achos mae'n rhaid canolbwyntio ar beth ti'n 'neud. Mae'n llesol i rywun yn feddyliol yn gwybod dy fod yn helpu rhywfaint ar y sefyllfa yma.

"Efo'r rhaffau 'ma' dan ni'n ei weld o, mae'n gallu cael ei dorri lawr efo'r tywydd ar y traethau, ond mae'n mynd mewn i'n bwyd ni, mewn i'r pysgod ac yn cael ei fwyta gan yr adar, mae'n niweidiol ofnadwy i fywyd gwyllt ac i ni yn y pen draw.

Ffynhonnell y llun, Llinos Griffin

"Wnes i gychwyn efo un anrheg i'n chwaer yng nghyfraith ac erbyn r诺an dwi'n gwneud comisiynau i bobl hefyd.

"Mae'n rhywbeth positif a lliwgar i wneud allan o sefyllfa ofnadwy o drist a dweud y gwir."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig