Brechlyn: Prif swyddog meddygol yn tawelu meddyliau
- Cyhoeddwyd
Mae prif swyddog meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, wedi pwysleisio fod brechlyn Covid-19 yn cael ei "wthio allan" i'r byrddau iechyd, ac nad yw'n cael ei ddal yn 么l.
Yn gynharach yn yr wythnos roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi tynnu nyth cacwn i'w ben trwy ddweud bod y brechlyn Pfizer yn cael ei oedi am y tro gan fod yn rhaid i gyflenwad Cymru bara tan fis Chwefror.
Mewn cyfweliad ar raglen Wales Live ar y 成人快手 nos Fawrth, gofynnwyd i Dr Atherton os oedd o'n ymwybodol o unrhyw strategaeth i ddal y brechlyn yn 么l.
"Roedd yna broses yn y dyddiau cynnar, o ddal rhai dosiau yn 么l oherwydd y bwriad gwreiddiol oedd fod pawb yn cael eu brechu gyda dwy ddos o'r brechlyn o fewn pedair wythnos, ac wrth gwrs fe newidiodd hynny o gwmpas y Nadolig...
"A'r sefyllfa ar hyn o bryd yw nad ydym yn dal y brechlyn yn 么l am y rheswm hynny.
"Nid yw'r brechlyn yn cael ei ddal yn 么l, mae'r brechlyn yn cael ei wthio allan i'r byrddau iechyd," meddai.
Ailagor ysgolion
Gofynnwyd iddo hefyd os hi'n ymarferol i ysgolion ailagor ar 么l hanner tymor, a dywedodd fod y drafodaeth honno'n dal i fynd ymlaen.
"Y dasg yn awr yw edrych ble'r ydan ni yn nhermau trosglwyddo'r haint, ac wrth i'r raddfa drosglwyddo leihau, mae'n dod yn fwy derbyniol i feddwl am agor ysgolion.
"Mae'n rhaid pwyso a mesur peryglon tymor byr haint coronafeirws, y risg i'r GIG a'r risgiau tymor hir i ddyfodol pobl."
Dywedodd hefyd nad oedd unrhyw amheuaeth fod y bobl oedd yn gweithio i'r GIG angen seibiant.
"Mae'n rhaid i ni gyrraedd sefyllfa lle nad ydy'r pwysau ar y GIG mor ddrwg fel bod pobl yn gallu gwneud hynny."
"Mae'n galonogol fod pobl yn dal yn frwdfrydig - maen nhw'n ymdopi'n anhygoel o dda dan y pwysau."
Gallwch wylio cyfweliad Wales Live ar 成人快手 iPlayer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2021