成人快手

Hanes iselder teulu O.M. Edwards

  • Cyhoeddwyd
mari

Roedd y llynedd yn gan mlynedd ers marwolaeth Syr O.M. Edwards, y golygydd, llenor ac addysgwr dylanwadol o Lanuwchllyn.

Ar gyfer rhaglen Etifeddiaeth ar 成人快手 Radio Cymru fe aeth ei or-wyres, Mari Emlyn, ar daith emosiynol i ganfod pa gyflyrau iechyd y gallai hi fod wedi eu hetifeddu gan O.M. a'i wraig Elin. Fe ysgrifennodd Mari am ei chanfyddiadau i 成人快手 Cymru Fyw:

A hithau'n ganmlwyddiant marwolaeth O.M. Edwards llynedd, roedd llawer trywydd y gallwn fel gor-wyres iddo eu dilyn ar gyfer Radio Cymru.

Gan i'r rhaglen gael ei darlledu dros gyfnod y Nadolig, gallwn fod wedi dilyn sgwarnog ei ddyddiad geni; a gafodd O.M. ei eni ar ddiwrnod Dolig neu ar 糯yl San Steffan? Beth oedd arwyddoc芒d y groes ar ei dystysgrif geni? A phwy yn union oedd ei dad o, ac felly pwy oedd fy hen hen daid innau?

Ond gyda hanes o iselder a chyflyrau niwrolegol yn frith drwy'r teulu, penderfynais seilio'r rhaglen ar etifeddiaeth genynnol.

A'r diddordeb pennaf gen i oedd nid O.M, ond ei wraig Elin. Roeddwn i'n awyddus i roi llais i'w stori hi, er mor drist ydi'r stori honno, gan fod gen i hen chwilen yn fy mhen am ein tuedd yn aml iawn i adael straeon y merched yn y cysgodion.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

O.M. Edwards, Elin a'r plant, Haf ac Ifan

'Ai cyflwr genynnol ydi iselder?'

Roeddwn i'n llunio'r rhaglen, fel llunio'r erthygl fach hon, yn ystod y cyfnod clo; cyfnod tebyg i gyfnod y ffliw Sbaenaidd ychydig dros ganrif yn 么l. Ac fe gafodd Elin y ffliw ddiwedd 1918.

Ond nid y ffliw laddodd Elin. Erbyn dechrau 1919, fe'i llethwyd hi gan iselder. Ganol mis Mawrth, lluchiodd Elin ei hun o ffenestr ystafell ymolchi'r cartref yn Llanuwchllyn.

Fe'i hanafwyd hi'n ddifrifol a bu farw fy hen nain ar y 9fed o Ebrill 1919 yn 51 mlwydd oed.

A dyna osod prif gwestiwn y rhaglen: Ai cyflwr genynnol ydi iselder?

Profodd Elin sawl croes yn ei bywyd - a thybed 芒 hithau wedi gwanio ar 么l y ffliw, nad aeth holl drawma ei bywyd yn drech na hi? Ynte oedd hi wedi etifeddu tuedd at iselder gan ei thad, Evan Davies, a fu farw mewn seilam?

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth O.M. Edwards yn Aelod Seneddol dros Sir Feirionnydd yn 1899

Pan oeddwn i'n tynnu at derfyn y cyfnod recordio es i fynwent y Pandy yn Llanuwchllyn i ymweld 芒 bedd Elin. Wrth recordio fy hun yn darllen enwau'r pump ar y garreg fedd, sylwais fod bedd arall yng nghysgod bedd fy hen nain ac enw 'Evan Davies, meddyg anifeiliaid' arno.

Dyma dad Elin a fy hen hen daid innau. Roeddwn i'n dal i recordio wrth ddarllen y geiriau ar y bedd a gweld fod ei wraig Gwen Davies (mam Elin) wedi ei chladdu yno hefyd.

'Dynes go arbennig'

Daeth rhywbeth drosof i wrth ddarllen ei henw a bu'n rhaid dod 芒'r recordio i ben. Dyna'r unig ddarn o'r recordio lle'm trechwyd i gan emosiwn. Pam i mi ddechrau dadfeilio wrth ddarllen enw fy hen hen nain nad oedd wedi cael dim sylw yn y rhaglen?

A dyna ateb fy nghwestiwn fy hun. A finnau'n daer am roi llais i stori'r merched, roeddwn innau wedi syrthio i'r fagl o anwybyddu dynes go arbennig.

Goroeswraig oedd Gwen Davies. Ar 么l colli ei rhieni a'i brodyr, gadawyd hi'n ferch ifanc i gynnal fferm gan erw. Priododd 芒'r milfeddyg Evan Davies a chawsant saith o blant; un mab a chwe merch.

Er diogelwch ei phlant, anfonodd Gwen Davies ei g诺r i ysbyty meddwl Dinbych yn 1882 ac wedyn yn 1884 i Hydro yn Buxton, Swydd Derby ble bu farw. Achos ei farwolaeth oedd 'General Paralysis of the Insane' a dwi'n trafod y term erchyll hwnnw yn y rhaglen.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mari gyda'r hanesydd Beryl Griffiths o flaen Brynraber, cartref O.M. ac Elin yn Llanuwchllyn

Gadawyd Gwen i ffermio'r Prys Mawr a magu'r saith plentyn ar ei phen ei hun. Cafodd tair o'r merched byliau difrifol o iselder a thystiodd Gwen Davies i hunanladdiad dwy o'i merched.

A hithau dros ei phedwar ugain oed, gwyliodd angladd ei merch Elin o ffenest y Prys cyn iddi hithau farw rai misoedd yn ddiweddarach.

Gwelais, wrth baratoi'r rhaglen, mor hawdd, hyd yn oed wrth osod merch yn brif gymeriad y stori, ydi colli golwg ar gymeriadau benywaidd eraill straeon ein teuluoedd. Dyna pam, mae'n debyg, i mi gael pwl bach o emosiwn wrth lan bedd fy hen hen nain.

A beth oedd yr emosiwn yna? Ynghanol y tristwch a'r cywilydd o sylweddoli i mi ei hanwybyddu hi, roedd yna hefyd ddogn o falchder.

Fu bywyd ddim yn hawdd i Gwen Davies a phe bawn i'n gallu etifeddu owns o ddycnwch ac urddas hen ledi'r Prys, mi faswn i'n fodlon iawn fy myd.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig