Sut i fwynhau teithiau natur er gwaetha'r tywydd
- Cyhoeddwyd
'Does na ddim mo'r fath beth 芒 thywydd gwael, dim ond dillad anaddas'.
Dyna'r dywediad yn Sgandinafia medden nhw ac wedi i lawer gymryd y cyfle i grwydro a darganfod yn ystod tywydd braf y cyfnod clo cyntaf yn y gwanwyn a'r haf, dyma'r agwedd sydd ei hangen arnon ni i barhau gyda'r antur yn ystod tywydd oer a gwlyb y gaeaf, meddai'r naturiaethwr a'r cadwraethwr Guto Roberts.
Mae Guto yn geidwad gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn byw yn y Felinheli: mae'n dad i ddau sydd wrth ei fodd allan yn syrffio, beicio, cerdded mynyddoedd a darganfod llwybrau lleol gyda'i feibion Ianto, saith oed ac Idris, sy'n bedair.
Dyma'i gynghorion ar gyfer parhau i fwynhau awyr iach dros fisoedd y gaeaf a beth i'w wneud a'i weld yr amser yma o'r flwyddyn:
Ewch ar antur
Yn ystod y cyfnodau clo diweddar yr ydym, fel teulu, wedi dod i adnabod y llwybrau o amgylch Y Felinheli ychydig yn well.
Rydym yn ddigon ffodus fod nifer o wahanol gynefinoedd i ni eu darganfod yn ein bro sy'n gwneud pob taith yn antur.
Yr hanfodion
Er fod y gaeaf bellach yma, nid oes angen digaloni, mae ambell beth gallwch wneud i fwynhau mynd am dro:
rhaid cael dillad addas fel bod pawb yn gynnes a sych
mae picnic go lew a fflasg o siocled poeth i gynhesu ar ddiwedd y daith yn ysgogiad da!
mae sbienddrych yn eich galluogi i weld bywyd gwyllt sydd ychydig pellach i ffwrdd
Saffari glan m么r
Un o'r hoff deithiau yw saffari glan m么r ar lannau'r Fenai gan gychwyn o draeth Rowen.
Mae pob taith yn cymryd llawer hirach na'r disgwyl gan fod cymaint o greaduriaid i'w darganfod drwy'r flwyddyn. Yr unig beth sydd rhaid sicrhau yw eich bod yn gwisgo'n addas i'r amodau boed haf neu aeaf.
Mae'r rhan fwyaf o'r creaduriaid sydd i'w darganfod o dan y creigiau yma ar hyd y flwyddyn ac mae llawer o hwyl i'w gael wrth ddarganfod pysgod bach fel y lyfrothen benddu, neu'r bili bigog yn cuddio yn y llaid.
Mae anemoniau, cregyn gleision, cocos a gwichiaid i'w ffeindio drwy'r flwyddyn, ac mae'r gystadleuaeth 'darganfod y cranc mwyaf' yn g锚m 'da ni'n ei chwarae bob tro.
Adar y gaeaf
Erbyn hyn, mae adar megis y m么r wenoliaid wedi hen fudo, ond mae yna dal bentwr i'w gweld o gwmpas megis y bioden f么r, y gylfinir a'r hen filidowcar.
Gan fod y dail wedi disgyn oddi ar y coed llydanddail erbyn hyn, mae gwell cyfle i gael cipolwg ar rai o'r adar sy'n llechu yn y gwrychoedd a'r perthi, mae'r cyfleoedd i weld yr adar hyn yn cynyddu wrth roi bwyd a hadau allan i'r adar, ac ar 么l dipyn o astudio, cewch gyfle i ddod i adnabod pa adar sy'n ffafrio pa fwydydd.
Yn ein gardd yn Felinheli, rydym wedi sylwi fod y titw tomos las yn ffafrio'r cnau mwnci, y nico yn ffafrio hadau'r olewlys, drudwy wrth eu bodd efo'r peli saim. Mae adar y to yn aros a bwydo yn hirach na'r adar eraill ac yn anodd iawn eu symud gan adar eraill nes ddaw 'Jac Do Jones' i hel ei fol.
Mae ambell aderyn mudol i'w gweld yn ystod y gaeaf a gall rhain gynnwys y gynffon sidan sydd wir yn aderyn hardd.
Dros ardaloedd ehangach gallwch hefyd weld y socan lwyd neu'r coch dan adain yn ein caeau a'n perthi.
Cynllunio at y flwyddyn nesaf
Mae hi ychydig yn hwyr i greu lloches i ddraenogod erbyn hyn ond mae'r gaeaf yn amser da i wneud cynlluniau ar gyfer y flwyddyn newydd.
Gyda'r dail wedi disgyn, medrwch gadw peth o'r dail i wneud compost, a gallwch hefyd gynllunio ble i roi lle i ddraenogod basio drwy'r ardd, neu lle i adeiladu lloches trychfilod erbyn y gwanwyn.
Os oes ganddoch le, gallwch hefyd feddwl ble buasai'r lle gorau i osod bocsus adar erbyn y gwanwyn.
Manteision iechyd
Yn anffodus nid yw'r heulwen yn ddigon cryf i gynhyrchu fitamin D yn ein cyrff yn y gaeaf, ond peidiwch 芒 gadael i hynny eich rhwystro, bydd yr ymarfer corff a'r awyr iach yn fendith os yw rheolau Cofid a'ch dillad mynd am dro yn caniatau.
Hefyd o ddiddordeb: