成人快手

Gall Cymru wynebu diweithdra tymor hir wedi Covid

  • Cyhoeddwyd
diweithdraFfynhonnell y llun, Getty Images

Gallai nifer y bobl sy'n ddi-waith am gyfnod hir godi i oddeutu 44,000, yn 么l ymchwil sydd wedi cael ei gomisiynu gan y 成人快手.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod angen buddsoddi i leddfu'r sefyllfa ond yn rhybuddio bod amser anodd i ddod.

Ers dechrau 2020 mae canran y bobl sydd heb waith yng Nghymru wedi cynyddu o 41% o gymharu 芒 chynnydd o 18% yn Lloegr, sy'n golygu bod 20,000 yn rhagor o bobl yng Nghymru yn chwilio am waith.

Ac er newyddion da diweddar am frechlyn posib a diwedd ar gyfnodau clo, mae arbenigwyr yn rhybuddio y gallai'r sefyllfa waethygu.

Yn 么l David Hagendyk o'r Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghymru gallai nifer y di-waith yng Nghymru godi i hyd at 44,000.

"Mae'r cyfnod yma yn mynd 芒 ni n么l i'r 1990au cynnar a'r dirwasgiad oedd yn bod bryd hynny," meddai.

"Mae'n hollol hanfodol bod y llywodraeth yn gweithredu'n gyflym i atal hyn rhag digwydd."

Gohirio gyrfa am y tro

Dywed James Aubrey ei fod wastad wedi eisiau bod yn beilot, a'i fod wedi teilwra ei arholiadau a'i brofiad gwaith i gyrraedd y nod.

Roedd rhaid iddo fenthyg 拢100,000 i dalu am ei hyfforddiant dwy flynedd, gyda'r bwriad o dalu'r arian yn 么l dros y 10 mlynedd nesaf.

Fel arfer ni fyddai hynny'n broblem, ond y diwydiant awyr yw un o'r rhai sydd wedi diodde' fwyaf yn ystod y pandemig.

Ffynhonnell y llun, James Aubrey
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae James Aubrey wedi benthyg 拢100,000 i hyfforddi i fod yn beilot

Ers Covid dyw cwmn茂au ddim yn recriwtio peilotiaid ac felly mae James wedi penderfynu chwilio am swydd yn y byd manwerthu fel bod ganddo incwm yn y tymor byr.

Mae'n poeni bydd hi'n gryn amser cyn y gall e ddychwelyd i'r byd hedfan awyrennau.

Economi Cymru yn 'fregus'

Dywed Llywodraeth Cymru ei bod wedi neilltuo dros 拢1bn i gefnogi busnesau ac amddiffyn swyddi yn ystod y pandemig.

Ond er hynny mae diweithdra'n cynyddu'n gyflymach yng Nghymru nag yn Lloegr.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed David Hagendyk bod rhaid i'r llywodraeth weithredu ar frys i osgoi diweithdra uchel

Yn 么l David Hagendyk un rheswm am hynny yw bod rhai sectorau'n cyflogi mwy o bobl.

"Mae'n hymchwil yn dangos bod un o bob pump gweithiwr yma yng Nghymru yn gweithio mewn sectorau sy'n wynebu trafferthion - y sectorau hynny a gafodd eu heffeithio gan y cyfnod clo cyntaf," meddai.

"Ymhlith y sectorau mae cwmn茂au cysylltiedig 芒 lletygarwch a thwristiaeth, hedfan a siopau'r stryd fawr - ac mae hynny'n cyfrif am chwarter miliwn o weithwyr yma yng Nghymru."

Y rheolwr sydd methu cysgu

Ar draws Cymru mae'r sector lletygarwch wedi cael ei tharo'n galed wrth i elw gwestai, tafarndai a thai bwyta ddisgyn yn sylweddol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Dwi methu cysgu'r nos,' medd Heidi Bakewell, rheolwraig tafarn ym Morfa Nefyn

Ddechrau'r flwyddyn fe wnaeth tafarn Bryncynan ym Morfa Nefyn wario 拢1m ar ail-wneud y lle. Roedd y rheolwraig, Heidi Bakewell yn gobeithio adennill oddeutu hynny mewn refeniw, ond dim ond chwarter hynny y mae'r dafarn wedi'i dderbyn.

Ar ben hynny roedd Heidi wedi cyflogi staff newydd - staff sydd bellach yn wynebu colli eu gwaith o bosib.

"Dwi ddim wedi cysgu y ddwy noson ola' 'ma wrth feddwl be 'dan ni'n mynd i'w wneud," meddai.

"Ai rhannu oriau rhwng pawb yw'r ateb fel bod pawb yn cael rhywfaint o gyflog? Ond eto dyw hynna ddim digon iddynt fyw arno.

"Ma' gynnon ni dri chef ac 11 staff blaen t欧 - bydd un chef yn gorfod mynd ac mae'n debyg bydd rhaid i fi ostwng nifer ein staff blaen t欧 i bump."

'Mae buddsoddi yn allweddol'

Dywed Gweinidog yr Economi, Ken Skates, mai'r unig ffordd i ddelio gyda'r hyn sydd i ddod yw buddsoddi mewn "swyddi a mwy o swyddi".

"Ry'n wedi arfer buddsoddi mewn pobl a chefnogi pobl drwy gyfnodau economaidd anodd," meddai.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Dyw'r rhagolygon am gyflogaeth yn y dyfodol ddim yn ffafriol,' medd Gweinidog yr Economi

"Ry'n yn hyderus bod gennym gynlluniau a pholis茂au i atal yr effaith y gall diweithdra hirdymor gael ar ein gwlad."

Ond mae Mr Skates yn cyfaddef nad oes un o'r rhagolygon wedi bod yn hynod o "ffafriol".

Cost ail-hyfforddi

Dywed David Hagendyk y gallai cost ail-hyfforddi pobl sy'n debygol o fod yn ddi-waith am gyfnod hir fod yn fawr - efallai cymaint 芒 拢218m.

"Ry'n ni wedi gweld Llywodraeth Cymru'n ehangu prentisiaethau a'r lleoedd sydd ar gael mewn colegau hyfforddi er mwyn ymdopi gyda'r her ond ar hyn o bryd dwi'm yn meddwl bod graddfa'r ymateb yn ddigonol," meddai.

Dywed Llywodraeth Cymru bod angen mwy o arian o San Steffan er mwyn helpu gydag ail-hyfforddi.

Drwy fformiwla Barnett gallai Cymru dderbyn 拢375m sydd wedi'i anelu i gefnogi sgiliau.

Mae'r Canghellor Rishi Sunak wedi cyhoeddi y bydd Cymru'n derbyn 拢1.3bn o arian newydd gan Lywodraeth y DU yn 2021/22 a hynny drwy'r cyllid sydd ar gael drwy fformiwla Barnett i feysydd datganoledig fel iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a thai.

Mae'r arian hwn yn fwy na dwbl y 拢600m a ddarparwyd ar gyfer 2020/21.

成人快手 Wales Investigates: The Price of Lockdown, 成人快手 One Wales, 20:30 nos Lun 30 Tachwedd ac yna ar I-player.