成人快手

'Rhaid i bawb leihau'r cysylltiadau 芒 phobl eraill'

  • Cyhoeddwyd
Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn dweud yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru brynhawn Llun beth fydd yn digwydd nesaf wedi i'r cyfnod clo byr presennol ddod i ben ar 9 Tachwedd.

Mae disgwyl iddo nodi y bydd "y mesurau cenedlaethol newydd ond yn helpu i gadw rheolaeth ar coronafeirws os yw pawb yn addasu eu hymddygiad i'r argyfwng iechyd cyhoeddus parhaus".

Mae'n credu y bydd y camau y mae pawb yn eu cymryd yn ystod ac ar 么l y cyfnod atal yn bwysicach na'r rheolau a'r rheoliadau y mae'r llywodraeth yn eu rhoi ar waith.

"Mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i leihau ein cysylltiad 芒'r feirws trwy leihau'r cysylltiadau 芒 phobl eraill - yn y cartref; yn y gweithle a phan fyddwn ni'n mynd allan.

"Mae angen i ni wneud y lleiafswm - nid yr uchafswm, y mae'r rheolau yn ei ganiat谩u," meddai.

Cafodd y cyfnod clo byr ei gyflwyno ar 23 Hydref i helpu i ddod 芒 haint coronafeirws o dan reolaeth, i amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ac i achub bywydau.

Yn y cyfamser, dywedodd Mr Drakeford wrth raglen Today ar 成人快手 Radio 4 fore Llun y byddai'n cymryd "cwpl o wythnosau" i weld os ydy'r clo byr wedi gweithio.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi awgrymu y bydd siopau yn agor yng Nghymru ar 么l 9 Tachwedd

Mae Mr Drakeford eisoes wedi cadarnhau y bydd y clo presennol yn dod i ben er bod Lloegr ar fin wynebu cyfnod clo arall.

Ddydd Sadwrn fe gyhoeddodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson gyfnod clo o bedair wythnos i Loegr - cyfnod a fydd yn dechrau ddydd Iau.

Mae Mr Drakeford wedi dweud hefyd na fydd cyfyngiadau lleol yn dychwelyd wedi 9 Tachwedd a bod angen i Gymru gyfan ddilyn yr un set o reolau.

Mae yna awgrym cryf y bydd llefydd fel siopau, bwytai, tafarndai, caffis ac addoldai yn cael ailagor.

Llacio rheolau teithio?

Ddydd Sul dywedodd Mr Drakeford wedi iddo gael ar ddeall bod cynllun ffyrlo Llywodraeth San Steffan yn para am fis arall bod busnesau eisiau ailagor ac mai'r bwriad oedd "rhoi busnesau yn 么l ar eu traed cyn y Nadolig".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Does dim disgwyl cyfyngiadau lleol wedi'r cyfnod clo byr presennol

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio "gwneud mwy i helpu pobl" wrth lacio cyfyngiadau teithio yng Nghymru ar ddiwedd y clo byr - a bod Llywodraeth y DU eisoes wedi cadarnhau wrtho y bydd hi'n "anghyfreithlon i bobl o Loegr deithio tu fas i Loegr" yn ystod eu cyfnod clo hwythau.

Ond mae wedi dweud y bydd hi'n "anoddach" llacio'r rheolau ar ymweld 芒 thai pobl eraill.

"Ni'n gwybod dyna ble mae coronafeirws wedi lledaenu dros yr wythnosau yn yr hydref, felly ni'n mynd i feddwl yn ofalus i weld beth allwn ni ddweud wrth bobl am hynny," meddai ddydd Sul.

'Angen gofal a phwyll'

Dywed arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, y dylai'r broses o ddatgloi Cymru fod yn "araf ac yn bwyllog" ac mae'n rhybuddio "y gallai dod allan o'r cyfnod cloi byr yn rhy fuan ddadwneud y budd sydd wedi'i gyflawni".

"Ry'n wedi dysgu dwy wers bwysig, mor belled," meddai, "sef bod cael cyfnod clo yn rhy hwyr yn lledaenu'r feirws a bod dod allan yn rhy gynnar yn dadwneud unrhyw fudd. Felly rhaid i'r camau nesaf fod yn araf ac yn bwyllog."

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Rhaid sicrhau o hyd nad yw pobl yn dod i Gymru o leoedd lle mae achosion niferus yn Lloegr,' medd Adam Price

Ychwanegodd na ddylid codi'r cyfyngiadau teithio sy'n atal pobl rhag dod i Gymru o ardaloedd lle mae nifer uchel o achosion yn y DU a dywedodd "ein bod yn ymwybodol na fyddwn yn gwybod yn syth pa effaith y mae'r clo byr wedi'i gael ac felly tan hynny mae'n rhy gynnar i lacio'r cyfyngiadau yn llwyr".

"Mi fyddai'n gwbl wrthgynhyrchiol llacio'r mesurau yn syth os yw'r rhif R yn uwch nag 1," meddai."Ry'n ni angen gwybod hefyd sut mae gweinidogion wedi gwella y system profi ac olrhain a sicrhau nad oes rhaid dibynnu ar rwydwaith labordai goleudy y DU."

Dywedodd Mr Price ymhellach y gallai cau y sector lletygarwch am 18:00 fod yn un dewis wrth ddod allan o'r cyfnod clo ond byddai'n rhaid i fusnesau gael cefnogaeth ariannol.

Awgrymodd hefyd y gallai disgyblion h欧n fod yn dychwelyd i'r ysgol ar rota pythefnos a phwysleisiodd "bod rhaid wynebu y cyfnod nesaf gyda gofal er mwyn sicrhau iechyd cyhoeddus gwell a chael gwell sicrwydd i fusnesau gan osgoi y cylch parhaol o gyfnodau clo."