Y chwaraewyr du a arweiniodd y ffordd i Nathan Brew
- Cyhoeddwyd
Cafodd Nathan Brew yrfa lewyrchus fel chwaraewr rygbi proffesiynol, gan gynrychioli'r Dreigiau, Scarlets a Bryste.
Fe gynrychiolodd ei wlad yn 2003 ac ers ei ddyddiau yn chwarae mae wedi mynd 'mlaen i greu gyrfa lwyddiannus i'w hun o fewn a thu allan i'r byd rygbi.
A hithau'n Fis Hanes Pobl Dduon, mae Nathan yn s么n am sut cafodd ei ysbrydoli gan Nigel Walker i chwarae rygbi.
"Fe o'dd y chwaraewr oeddwn i'n edrych lan ato pan o'n i'n tyfu fyny, ac eisiau efelychu, ac os na fydde Nigel Walker wedi cael y cyfle i chware ar y lefel ucha' a rhyngwladol falle byswn i heb gael y cyfle i chwarae fan hyn ar Rodney Parade am saith mlynedd."
Mae Nathan yn cofio'r adeg pan wnaeth Nigel Walker, y cyn-athletwr rhyngwladol, ddechrau chwarae rygbi ac ymuno 芒 Chaerdydd: "Roedd 'na hype enfawr amdano fe, ac roedd pobl yn s么n amdano fe 'falle'n 'whare dros Gymru yn syth.
"Dwi'n cofio ei g锚m gynta' fe dros Gaerdydd a wnaeth e ddisgleirio yn syth. Roedd e'n wibiwr, yn gallu ochrgamu hefyd, ond roedd yna rywfaint o aeddfedrwydd yna a phwyll."
Arwyr du
Cafodd Nathan ei ysbrydoli i chwarae p锚l-droed pan oedd yn iau, am ei fod yn gweld ffigyrau blaenllaw du yn y gamp ar y pryd, meddai: "Pan chi'n byw mewn ardal fel Brynaman mae dwy opsiwn gyda chi; naill ai 'whare rygbi neu 'whare p锚l-droed.
"Ond i fod onest yn tyfu lan o'n i'n tueddu i wneud mwy o athletau a ph锚l-droed. Y rheswm tu 么l hynny 'ny efallai oedd y ffaith bod yna modelau r么l yna ar gael ar y teledu (mewn p锚l-droed) fel John Barnes, Michael Thomas ac Ian Wright. Felly fel rhywun du sy'n byw o fewn ardal ble chi yw'r lleiafrif mae'n bwysig bo' chi'n cael modelau r么l i edrych lan ato."
Ond fe ffeindiodd Nathan ei arwyr ym myd y b锚l hirgron: "Pan ddaeth Glenn Webbe a Nigel Walker ar y s卯n wnes i'r penderfyniad falle bod yna gyfle 'da fi i chwarae rygbi, ac i lefel rhyngwladol. I fod yn hollol onest, os na fyddwn i wedi gweld Nigel Walker ar y cae yn gwneud beth oedd e'n wneud 'falle byddwn i wedi mynd am yr opsiwn p锚l-droed yn lle rygbi."
Mae Nathan yn credu bod Glenn Webbe, Nigel Walker ac eraill wedi arwain y ffordd iddo ef a chwaraewyr du eraill wneud llwyddiant o'u gyrfa.
"Ni wastad yn s么n, Aled fy mrawd a fi, bod y bois yma 'di pave-io'r ffordd fel petai i chwaraewyr fel ni. Ni'n gweld nawr bod 'na lwyfan da ni fel chwaraewyr."
'Cyfrifoldeb fel chwaraewyr'
Mae Nathan o'r farn bod cenhedlaeth newydd o chwaraewyr du bellach gyda'r hyder i leisio eu barn, fel asgellwr y Dreigiau, Ashton Hewitt.
"Mae Ashton Hewitt wedi cymryd y llwyfan jest i ddweud 'digon yw digon' a bod e'n bwysig bo' ni'n dechrau addysgu pobl am y ffordd iawn i s么n am bobl dduon, ond hefyd beth yw'r hanes tu 么l y problemau sydd ar gael.
"Dwi'n credu bo'r ffaith bo' Glenn Webbe wedi mynd drwyddo beth aethon nhw drwyddo wedi helpu ni.
"Mae cyfrifoldeb 'da ni nawr fel chwaraewyr, a chwaraewyr du, i sefyll lan a dechrau s么n a defnyddio'n llwyfan ni."
Hefyd o ddiddordeb